2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 9: Gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau (Gwelliannau 37, 38, 51)
Y pwynt sylfaenol fan hyn yw bod gan y Gymraeg statws swyddogol cyfartal yng Nghymru mewn egwyddor. Dyna'n sicr mae'r Llywodraeth am i ni gredu. Fodd bynnag, gan nad oes safonau wedi'u gosod, nid yw'r statws swyddogol yna wedi ymestyn mewn termau ymarferol i…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 9: Gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau (Gwelliannau 37, 38, 51)
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliannau 37, 38 a 51 yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i swyddogion canlyniadau etholiadol a'u gwneud yn agored felly i orfod cydymffurfio â rheoliadau safonau'r Gymraeg yn y dyfodol. Mae defnyddio…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 8: Cynllun cymorth ariannol—gweithredu (Gwelliannau 35, 19)
Hapus i symud i bleidlais.
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 8: Cynllun cymorth ariannol—gweithredu (Gwelliannau 35, 19)
Diolch, Llywydd. Pwrpas y gwelliant yma yw i sicrhau bod darpariaethau penodol ynghylch treuliau ar gael ar gyfer ymgeiswyr etholiadol. Yn yr un modd â rhai o'r gwelliannau eraill sydd eisoes wedi'u cyflwyno, bydd y gwelliant yma yn sicrhau bod cyfranogiad yn…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 7: Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig (Gwelliannau 17, 18, 31, 1, 32, 33, 34)
Symud.
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 7: Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig (Gwelliannau 17, 18, 31, 1, 32, 33, 34)
Rydym yn gwrthwynebu gwelliannau 17 ac 18 oherwydd rŷn ni'n credu'n gryf bod creu'r llwyfan hwn yn gyfle gwych i godi lefelau ymgysylltu democrataidd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut mae democratiaeth yn gweithio. Yn sgil hyn, rydym ni hefyd wedi cyflwyno…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 5: Cymorth i bleidleiswyr ag anableddau (Gwelliannau 15, 30)
Symud.
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 5: Cymorth i bleidleiswyr ag anableddau (Gwelliannau 15, 30)
Gaf i ddiolch i Peter Fox am gyflwyno gwelliant 15, sydd yn anelu at gyflawni nod tebyg i'n gwelliant ni, sef i sicrhau nad yw unrhyw anabledd yn rhwystr i'r hawl sylfaenol o bleidleisio? Rydym ni'n hapus iawn i gefnogi'r gwelliant yma. Pwrpas ein gwelliant…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 3: Pwerau a rheoliadau peilot etholiadau Cymreig (Gwelliannau 9, 10, 11, 12)
Rydym yn gefnogol o welliant 9 i fedru peilota cylch etholiadol o bedair blynedd ar gyfer etholiadau lleol, gan ei alinio â chylch etholiadol newydd y Senedd. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth gwelliant 12 i greu dyletswydd i beilota mewn ardaloedd gwledig a…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2: Cofrestru etholiadol (Gwelliannau 7, 28, 8, 29)
Symud.
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2: Cofrestru etholiadol (Gwelliannau 7, 28, 8, 29)
Rwy'n symud.
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2: Cofrestru etholiadol (Gwelliannau 7, 28, 8, 29)
Hoffwn i ddiolch i Peter Fox am ei welliannau yn y grŵp yma. Fel plaid, rydyn ni yn gefnogol iawn o’r mesurau sydd yn y Bil yma i gyflwyno cofrestru etholiadol heb gais, ac yn credu bod hyn yn un cam cychwynnol all gynyddu cyfranogiad yn etholiadau Cymru. Am…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)
Cynnig.
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)
Gan eich bod chi wedi bod mor hael gyda'r sylwadau agoriadol, dwi ddim eisiau ein dal ni llawer yn hirach. Diolch am ymateb ystyrlon y Cwnsler Cyffredinol. Rŷn ni dal o'r farn bod yna rinwedd mewn bod yn benodol ynglŷn â'r swyddogaethau eraill yma. Dwi'n…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)
Mae gyda fi fwy i'w ddweud ynglŷn ag iechyd democratiaeth. Bwriad gwelliant 27 yw sicrhau bod y comisiwn democratiaeth yn annog arloesi democrataidd, ac mae'r gwelliant yn gosod fframwaith ar sut y dylai'r comisiwn arfer ei swyddogaeth dros iechyd…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)
Gan ein bod ni'n trafod Bil sydd, yn ei hanfod, â'r nod o gryfhau seiliau ein democratiaeth seneddol a chynrychioladol, mae'n addas bod y grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag iechyd ein democratiaeth. Mae democratiaeth yn y wladwriaeth hon, ac ar draws y…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru—swyddogaethau (Gwelliannau 26, 27, 36)
Dyw'r araith ddim yn mynd i fod mor gyffrous â hynny, gallaf i ddweud. Hoffwn ddechrau, Llywydd, trwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion ac i Aelodau'r pleidiau eraill am y gwaith adeiladol a chynhwysfawr sydd wedi digwydd yn ystod taith seneddol…
26 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cymru a Llywodraeth nesaf y DU
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd Gwladol Cymru—mae'n fy atgoffa o un o'r swyddi gweddilliol hynny o'r gorffennol pell y rhythwn arnynt yn ystod seremonïau'r wladwriaeth. Mae mor ddiangen, waeth iddynt wisgo hetiau plu neu ysgwyddarnau ddim. Mae'n debyg i Arglwydd…
26 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Buddion Ynni Cymunedol
Yn anffodus, mewn blynyddoedd wedi hynny, gwnaethon ni ffeindio mas nad oedd y penderfyniadau yn cael eu gwneud er budd pobl leol. Felly, mae perchnogaeth gyhoeddus yn rhan o'r ateb, ond mae'n rhaid bod y berchnogaeth hynny hefyd wedi'i gwreiddio yma yng…
26 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Buddion Ynni Cymunedol
'Mae'r pwll glo hwn bellach yn cael ei reoli ar ran y bobl'—.
26 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Buddion Ynni Cymunedol
Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Buaswn i'n dechrau trwy ddweud hyn: rwy'n credu bod yr Aelodau sydd wedi siarad o'r meinciau cefn wedi dangos y perygl os nad ŷn ni yn deddfu. Hynny yw, bydd yna fwy eto o bwyslais dim ond ar safleoedd…
26 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Buddion Ynni Cymunedol
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cyflwyno’r cynnig hwn, sy’n galw am ddeddfwriaeth ar ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig gyda ffocws ar sicrhau bod cymunedau lleol yn cael y buddion mwyaf—yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ecolegol—o fuddsoddiadau ynni…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwyf i wedi bod yn darllen maniffestos y Blaid Lafur yn frwd dros y dyddiau diwethaf; mae hynny'n digwydd yn ystod cyfnodau etholiad, onid yw e? Un o'r ymrwymiadau eraill sy'n berthnasol iawn i'r pwynt gwirioneddol y mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ei wneud…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, nage, roeddwn i'n gofyn mewn gwirionedd am ddeddf Hillsborough. Roeddwn i'n dyfynnu yn uniongyrchol o'r Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Atebolrwydd) a basiwyd ar ei Ail Ddarlleniad yn San Steffan yn ddiwrthwynebiad, gyda chefnogaeth pob plaid, a ddrafftiwyd…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwy'n credu bod y Cwnsler Cyffredinol yn ceisio cynnal y ddadl nawr y byddwn ni'n ei chael wythnos nesaf, ond rwy'n hapus—