O'r 143 ymrwymiad y gallwn eu holrhain, mae 123 wedi codi yn y Senedd o leiaf unwaith a 20 heb godi eto. Mae 6 yn rhy gyffredinol i'w paru'n ddibynadwy.
Poblogaeth iach yw sylfaen cenedl ffyniannus, ac mae’r Llywodraeth hon yn cymryd o ddifrif yr angen i ailddosbarthu adnoddau tuag at atal afiechyd, mynediad gwell at wasanaethau, a gofal cymdeithasol llawer gwell. Am gyfnod rhy hir, mae pobl yng Nghymru wedi treulio gormod o amser mewn iechyd gwael, ac mae gwasanaethau’n cael mwy a mwy o drafferth i ymdopi â chyflyrau iechyd yr 21ain ganrif a gofynion gofal cymdeithasol.
Lleihau amseroedd aros ac yn gwella’r ffordd y mae gofal a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu drwy drawsnewid a moderneiddio gwasanaethau cleifion allanol, ehangu capasiti diagnostig a llawfeddygol a sefydlu hyd at 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru.
Y ffigur diweddaraf: Rhestr aros y GIG, 714,218, Awst 2026.
Y ffigur diweddaraf: Llwybrau sy'n aros am fwy na dwy flynedd, 5,068, Awst 2026.
Sicrhau bod gofal integredig yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref gyda gweithgarwch ataliol yn ganolog iddo i gefnogi diagnosis cynharach, lleihau derbyniadau i’r ysbyty ac oedi cyn rhyddhau cleifion.
Y ffigur diweddaraf: Oedi cyn gadael yr ysbyty, 1,417, Medi 2026.
Cryfhau llwybrau clinigol cenedlaethol ar gyfer pob grŵp oedran, gan ganolbwyntio’n benodol ar iechyd meddwl, strôc, diabetes, offthalmoleg a gofal cardiofasgwlaidd, er mwyn sicrhau gofal diogel, teg ac o ansawdd uchel ledled Cymru, gan ymgorffori hawliau cleifion a lleihau amrywiadau rhanbarthol. Bydd yr uchelgais ar gyfer GIG Cymru yn cael ei hamlinellu drwy Gynllun Gwasanaethau Clinigol Cenedlaethol.
Cyflwyno Strategaeth Ganser Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar atal, diagnosis cynharach, ymchwil ac arloesi, mynediad teg at wasanaethau, a gofal canser sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn.
Datblygu gweithlu cynaliadwy a medrus drwy gyflwyno strategaeth gweithlu hirdymor sy’n sicrhau cynnydd o hyd at 100 yn niferoedd y meddygon teulu, gan wella mynediad at ofal y tu allan i oriau, lleihau’r pwysau ar ysbytai ac adrannau damweiniau ac achosion brys, a chefnogi gweithio hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus.
Gwella mynediad at wasanaethau deintyddol, gan gynnwys ystyried opsiynau i sefydlu ysgol ddeintyddol newydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor, a sicrhau bod byrddau iechyd yn asesu anghenion deintyddiaeth lleol ac yn cymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth ddeintyddol ddigonol i’w poblogaethau.
Adolygu strwythurau sefydliadol a llywodraethiant, a’u cryfhau neu eu newid pan fo angen, i wella effeithiolrwydd ac atebolrwydd y system.
Diwygio’r maes diogelu i gryfhau’r ffordd y mae plant ac oedolion yn cael eu hamddiffyn drwy atebolrwydd cliriach, arweinyddiaeth gryfach a defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i ysgogi gwelliant parhaus yn ymarferol.
Mae teuluoedd a busnesau yn teimlo effaith ariannol penderfyniadau a wnaed yn San Steffan a chanlyniadau digwyddiadau ledled y byd sydd wedi peri ansefydlogrwydd. Gan ddefnyddio’r dulliau cyfyngedig sydd gennym ar hyn o bryd, byddwn yn cymryd camau i liniaru’r effaith ar Gymru, drwy dyfu ein heconomi a chreu’r amodau i gyflawni ein potensial. Byddwn hefyd yn cymryd camau ar unwaith i leddfu’r pwysau costau byw y mae cymaint o ddinasyddion yn eu profi ac yn rhoi cymorth hanfodol iddynt i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwn a thu hwnt.
Darparu Cynnig Gofal Plant trawsnewidiol a chyffredinol newydd i blant rhwng 9 mis a 4 oed, gan adeiladu’n raddol i 20 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, a chynnal y cynnig 30 awr presennol ar gyfer plant 3 a 4 oed cymwys.
Cyflwyno un system ymgeisio symlach fel y gall teuluoedd gael mynediad hawdd at ofal plant a ariennir.
Mae ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru yn dibynnu ar economi ffyniannus sy’n gyrru ein gwasanaethau cyhoeddus, yn creu swyddi gwerth chweil sy’n rhoi boddhad, ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dyfodol cryfach.
Datblygu ein cenhadaeth cynhyrchiant, a fydd yn ystyried holl weithgarwch y llywodraeth yng nghyd-destun cynyddu cynhyrchiant.
Y ffigur diweddaraf: Cynhyrchiant, 84.9, 2023.
Sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol newydd i’n helpu i osod targedau, casglu data perthnasol a mesur cynnydd i wneud y llywodraeth yn fwy atebol dros ei phenderfyniadau economaidd.
Sgiliau ein pobl yw un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhain yn cael eu datblygu ar bob cam mewn bywyd, ac maent yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, yn gyrru ein heconomi ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd yr unigolyn. Gan adeiladu ar sail ein Cynnig Gofal Plant a ariennir, mae ein system addysg yn agor y drws i blant a phobl ifanc feithrin yr wybodaeth, i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau ac i fod yn rhan o’r dyfodol economaidd ffyniannus a welwn i Gymru.
Cyhoeddi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd ac yn codi safonau drwy sefydlu targedau cenedlaethol, gan gynnwys asesiad sylfaenol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau yn yr ysgol. Byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ddatblygu targedau unigol ar gyfer pob dysgwr.
Adolygu trefniadau cwricwlwm ac asesu i symleiddio ac egluro disgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau disgwyliadau clir o ran gwybodaeth ac addysg am ddiwylliant a hanes ein cenedl.
Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn un o genadaethau diffiniol y Llywodraeth hon. Mae’n rheidrwydd moesol ac yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru.
Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a chyflawni cynllun newydd i fynd i’r afael â thlodi plant, gan osod targedau, meincnodau a cherrig milltir clir i ysgogi newid uchelgeisiol, cyflawnadwy.
Y ffigur diweddaraf: Plant mewn tlodi cymharol, 32%, y tair blynedd hyd at 31 Mawrth 2025.
Pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r dulliau sydd ganddynt, gan gynnwys cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, cynyddu’r Lwfans Tai Lleol, a chyflwyno tariffau cymdeithasol i sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi.
Fel Llywodraeth, ni fyddwn yn ymddiheuro am y weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer Cymru. Mae’r weledigaeth hon yn amlwg ym mhob pennod o’r Rhaglen Lywodraethu hon. Rydym yn credu yn ein pobl a byddwn yn cymryd pob cam posibl i ddatgloi eu potensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn.
Mynd ar drywydd diwygio cyllidol, gan gynnwys tegwch yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu, gweithrediad Fformiwla Barnett, mwy o hyblygrwydd cyllidol, ariannu pwerau datganoledig mewn ffordd deg, a chyfrifoldebau pellach i’r Senedd dros drethi yng Nghymru.
Brwydro dros y cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus inni ac y mae ei angen arnom i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys cyllid canlyniadol o HS2 – ac i’r rheilffyrdd gael eu datganoli.
Mae hon yn Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sy’n gosod agenda glir i’r llywodraeth gyfan ac i’n partneriaid ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rydym yn gwybod nad yw mabwysiadu dulliau traddodiadol o lywodraethu yn mynd i gyflawni graddfa’r newid yr hoffem.
Sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn cael eu blaenoriaethu a’u cydgysylltu’n effeithiol ar draws y llywodraeth, gan ymgorffori datgarboneiddio, cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd ar draws pob portffolio.
Cymryd camau beiddgar er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd drwy sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach, a sicrhau mai’r llygrwr sy’n talu wrth inni drosglwyddo i economi gylchol.
Y ffigur diweddaraf: Cyfradd ailgylchu, 68.4%, 2024-25.
Yr ymrwymiadau yw'r pwyntiau a restrir ar ôl pob “Byddwn yn:” yn y Rhaglen, wedi'u dyfynnu air am air. Weithiau mae'r fersiynau Cymraeg a Saesneg yn rhannu ymrwymiad yn bwyntiau'n wahanol, felly rydyn ni wedi rhannu neu uno pwyntiau i roi pob ymrwymiad Saesneg ochr yn ochr â'i gymar Cymraeg. Dyma'r newidiadau:
Gwella canlyniadau a phrofiadau iechyd a gofal i fenywod a merched gan gynnwys drwy Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru wedi’i atgyfnerthu, gan sicrhau bod menywod yn cael eu clywed, bod pobl yn gwrando arnynt a’u bod yn cael eu cynnwys wrth lunio’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio ac yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu gofal. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu canlyniadau gwell i fenywod, teuluoedd a babanod drwy ein mentrau gofal mamolaeth a newyddenedigol ehangach.
Gwella canlyniadau i bobl sy’n byw gyda dementia drwy ddiagnosis cynharach, mynediad amserol at asesiadau a thriniaeth, gan gynnwys cryfhau’r cymorth a’r gweithgarwch ataliol, yn ogystal â thrwy gyhoeddi Strategaeth Ddementia.
Gweithio i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu gofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl gan gynnwys llwybrau mynediad ar yr un diwrnod a chryfhau’r dull ‘dim drws anghywir’.
Y ffigur diweddaraf: Asesiadau iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod, 83.7%, Mehefin 2026.
Ymgorffori ffordd o ymdrin ag iechyd a gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ddefnyddio tystiolaeth, data a phrofiadau cleifion i lunio, darparu a gwella gwasanaethau sy’n cyflawni canlyniadau gwell o ran iechyd i bobl Cymru.
Datblygu rhaglen Cyfleusterau Iechyd a Gofal Cynaliadwy, gan flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw risg uchel ac atgyweiriadau brys, moderneiddio a defnydd mwy effeithlon o’r ystad.
Gweithredu Strategaeth Ddigidol 10 mlynedd sy’n hyrwyddo arloesi a defnydd strategol o AI a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru, yn gwella llythrennedd iechyd, ac yn cryfhau’r defnydd o ddata i wella canlyniadau cleifion, yn llywio penderfyniadau ac yn darparu gwasanaethau mwy effeithiol.
Ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar drwy ein Cynnig Gofal Plant newydd.
Gweithio’n agos gyda darparwyr gofal plant i adeiladu capasiti ar draws y sector a thyfu’r gweithlu er mwyn cefnogi’r ehangu.
Gweithio i wella System Budd-daliadau Cymru er mwyn gwneud cymorth yn addas i’r diben ac yn haws ei hawlio.
Pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli nawdd cymdeithasol fel y gallwn gynllunio a darparu amddiffyniadau cymdeithasol a wnaed yng Nghymru, sy’n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd ein pobl a’n cymunedau yn well.
Cyflwyno mesurau newydd i gryfhau hawliau ac amddiffyniadau rhentwyr, gan gynnwys rhenti teg, a byddwn yn gwella ansawdd cyffredinol eiddo rhent.
Gweithio tuag at wireddu hawl i gartref digonol yng Nghymru.
Y ffigur diweddaraf: Pobl ddigartref mewn llety dros dro, 10,535, 31 Gorffennaf 2026.
Darparu mwy o dai cymdeithasol – o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030 – a chefnogi tai a arweinir gan y gymuned sy’n diwallu anghenion lleol.
Y ffigur diweddaraf: Cartrefi newydd a gwblhawyd, 1,190, Ebrill i Fehefin 2026.
Y ffigur diweddaraf: Cartrefi a gyfrifwyd tuag at darged cartrefi cymdeithasol 2021-26, 3,530, 2024-25.
Sefydlu Unnos fel y gellir darparu mwy o gartrefi dan berchnogaeth gyhoeddus sy’n effeithlon o ran ynni.
Ehangu mynediad at y rhaglen ôl-osod drwy fabwysiadu dull ar sail ardal sy’n niwtral o ran deiliadaeth, gan gadw cynlluniau effeithlonrwydd ynni presennol ar gyfer aelwydydd incwm isel.
Canolbwyntio ar gyflymder gwaith cyweirio eiddo sydd â diffygion diogelwch tân.
Archwilio ffyrdd o wneud y Dreth Gyngor yn decach.
Y ffigur diweddaraf: Treth gyngor Band D ar gyfartaledd, £2,283, 2026-27.
Defnyddio ein dulliau trethi datganoledig i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac yn cynllunio ein trethi i gefnogi ein nodau, gan gynnwys helpu i brynu cartrefi, a lleihau gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.
Creu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd, dan arweiniad byd busnes, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, i helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a masnachu’n rhyngwladol, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chynyddu nifer y swyddi o ansawdd da, sy’n talu’n dda ac sy’n gynaliadwy. Bydd yr asiantaeth yn gweithio i bobl ledled y wlad ac ar draws yr economi.
Diwygio Banc Datblygu Cymru a’r cynhyrchion ariannol y mae’n eu cynnig er mwyn helpu busnesau canolig i dyfu a sicrhau bod ei gyllid yn hyrwyddo ac yn ymgorffori gwaith teg a chyflog byw gwirioneddol.
Anelu at gynyddu’r lefel sy’n cael ei gwario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru tuag at 70%, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus yn sbardun i dwf economaidd. Byddwn yn cyflwyno mesur newydd o’r gwerth economaidd y mae Cymru’n ei gael o gaffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn rhoi’r budd economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i’r wlad.
Datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer pren Cymru, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi’r galw, a hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sector, gan gynyddu gwydnwch a chydweithio â’r sector i gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Cymru ar gyfer Pren.
Mabwysiadu dull Gwaith Teg yn Gyntaf o ran dyfarnu grantiau, benthyciadau a chontractau’r sector cyhoeddus.
Diwygio ac yn ailgydbwyso ardrethi busnes i roi mwy o gefnogaeth i fusnesau’r stryd fawr ym maes lletygarwch, hamdden a manwerthu.
Defnyddio’r Tasglu Canol Trefi i archwilio’r opsiynau ynghylch adfywio canol ein trefi, gan gynnwys ailddefnyddio eiddo gwag fel tai cymdeithasol.
Deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau lleol.
Darparu mwy o gymorth arbenigol i greu, tyfu a chynnal busnesau newydd – busnesau cydweithredol, cymdeithasol, a rhai sy’n eiddo i weithwyr – a’i gwneud yn haws iddynt gael mynediad at gyllid drwy Fanc Datblygu Cymru.
Datblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru, wedi’i llywio gan archwiliad sgiliau cenedlaethol, i sicrhau bod darpariaeth sgiliau, addysg alwedigaethol a chymwysterau yn cyd‑fynd ag anghenion economaidd Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Byddwn yn cefnogi system sy’n cryfhau llwybrau i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan helpu pobl i gael y sgiliau, y cymorth a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i gael gwaith teg, diogel a chynaliadwy, i aros yn y gwaith hwnnw, ac i wneud cynnydd. Cymryd camau i greu system addysg drydyddol gynaliadwy yn ariannol, sy’n darparu addysg, sgiliau ac ymchwil o ansawdd uchel, yn cefnogi cydweithredu ar draws y sector, ac yn sicrhau gwerth hirdymor o fuddsoddiad cyhoeddus, gan ddechrau â’n hadolygiad annibynnol o gyllid addysg uwch.
Gweithio i sicrhau bod pobl ifanc o Gymru yn gallu byw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys drwy wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru a fydd yn codi wrth i’r DU ailymuno â chynllun Erasmus+, ac archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y rhaglen Taith sy’n benodol i Gymru.
Cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd a fydd yn cefnogi digideiddio ac arloesi yn economi Cymru, yn sbarduno trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu’r amodau ar gyfer mabwysiadu AI mewn ffordd ddiogel a moesegol er mwyn cynyddu cynhyrchiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon.
Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a darparwyr telathrebu i sicrhau bod busnesau a chartrefi yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o leiaf.
Blaenoriaethu gwydnwch cysylltiadau ar draws Afon Menai drwy welliannau tymor byr a chanolig wrth gynllunio ar gyfer atebion hirdymor.
Gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â gwydnwch ffyrdd yng nghoridor De-ddwyrain Cymru.
Hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cynnal yn ddiogel.
Y ffigur diweddaraf: Pobl a laddwyd ar y ffyrdd, 91, 2025.
Cyflwyno cyfres wedi’i hadnewyddu o brosiectau rheilffyrdd sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
Creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig drwy ehangu’r system talu am docynnau drwy dapio i mewn ac allan, a chyflwyno prisiau symlach a thecach ar draws bysiau a threnau i wella gwasanaethau i deithwyr a chymunedau ledled Cymru, gan wneud teithio’n symlach ac yn fwy fforddiadwy.
Parhau i ddarparu tocynnau bws sengl am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed a chadw pasys bws i bobl dros 60 oed a phobl anabl.
Y ffigur diweddaraf: Teithiau bws, 71.7 miliwn, 2024-25.
Trawsnewid gwasanaethau bysiau drwy fasnachfreinio, gan ddod â llwybrau, prisiau a safonau o dan un system atebol i’r cyhoedd sy’n rhoi teithwyr yn gyntaf. Byddwn yn gwella cysylltiadau rhwng cymunedau drwy’r gwasanaeth bysiau newydd rhwng y Gogledd a’r De ac yn darparu rhwydwaith integredig sy’n gwella mynediad at wasanaethau, yn cefnogi twf economaidd, ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.
Y ffigur diweddaraf: Teithiau bws, 71.7 miliwn, 2024-25.
Cyflwyno strategaeth gwefru cerbydau trydan (EV) wedi’i hadnewyddu ar gyfer Cymru.
Rhoi teithio llesol wrth wraidd system drafnidiaeth Cymru, gan ei wneud yn ddewis ymarferol, diogel a chynhwysol ar gyfer mwy o siwrneiau bob dydd. Byddwn yn lleihau rhwystrau i gerdded, olwyno a beicio i gefnogi ein cenhadaeth atal afiechyd, a hyrwyddo cyfleoedd o ran llesiant a’r economi.
Rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd dull cydgysylltiedig o deithio gan ddysgwyr, gan gryfhau gweithio trawslywodraethol fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i wella mynediad at addysg, gan gynnwys drwy fynd i’r afael â rhwystrau i addysg cyfrwng Cymraeg.
Mynd ati’n strategol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd a gwneud y mwyaf o’i botensial economaidd.
Gweithio gyda phorthladdoedd Cymru i gryfhau eu gwydnwch a gwneud y mwyaf o’u cyfraniad at economi Cymru, wrth fynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.
Cefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn ffordd sy’n sail i gynaliadwyedd hirdymor busnesau fferm ac yn diogelu dyfodol y fferm deuluol mewn hinsawdd sy’n newid. Byddwn yn datblygu ac yn mireinio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mewn cydweithrediad cryf â’r gymuned ffermio, fel ei fod yn cefnogi sector amaethyddol ffyniannus i gynhyrchu bwyd, gan gyflawni canlyniadau amgylcheddol allweddol hefyd, yn raddol.
Y ffigur diweddaraf: Cyfanswm incwm o ffermio, £505 miliwn, 2025.
Gweithredu dull newydd o reoli maethynnau ar draws dalgylchoedd, gan symud oddi wrth y dull “ffermio yn ôl y calendr” a chefnogi ffermwyr i leihau llygredd dŵr amaethyddol.
Cyflwyno cynllun newydd ar gyfer Twbercwlosis (TB) Gwartheg, gan fabwysiadu dull cyfannol o fynd i’r afael â’i ddileu, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan gynnwys tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt.
Datblygu Cynllun Lles Anifeiliaid wedi’i adnewyddu sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy’n ymdrin â lles anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm.
Cefnogi diwydiant pysgota a dyframaethu cynaliadwy, a’r cymunedau sy’n dibynnu arno, fel rhan o’r system fwyd a’r economi.
Cyflawni Strategaeth Datblygu Gwledig i Gymru. Deddfu i’w gwneud yn ofynnol i gynlluniau gwario a rhaglenni polisi gwledig gael eu prawfesur o safbwynt gwledig er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau gwledig.
Cyflwyno Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr.
Archwilio opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer anheddau unigol a throsi adeiladau fferm ar gyfer defnydd preswyl i wella mynediad at dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.
Datblygu Strategaeth Ynni Genedlaethol, gan fapio anghenion ynni Cymru heddiw ac yn y dyfodol a nodi cynllun clir, hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i’w diwallu.
Y ffigur diweddaraf: Trydan o ffynonellau adnewyddadwy, 8.0 terawat awr, 2024.
Cydlynu gweithgarwch ar draws y llywodraeth a sectorau allweddol drwy gyflwyno Bargen Sector newydd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
Y ffigur diweddaraf: Trydan o ffynonellau adnewyddadwy, 8.0 terawat awr, 2024.
Uno Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i greu cwmni ynni cenedlaethol cryfach i dyfu perchnogaeth gymunedol.
Adolygu’r trothwy o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau ac yn creu eithriadau newydd clir a rhesymol pan na fyddai’r llety hwnnw yn gymwys i fod yn gartref preifat.
Gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu effeithiolrwydd mesurau presennol ar ail gartrefi a llety gwyliau ac asesu pa gamau pellach y mae eu hangen i helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau ac i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Adolygu rôl Croeso Cymru ac ystyried ai dyma’r model gorau ar gyfer cefnogi twristiaeth a hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant.
Diwygio’r system gynllunio, fel ei bod yn gwasanaethu ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau yn well, gan adeiladu Cymru fwy cysylltiedig a llewyrchus.
Ailwampio prosesau cynllunio gofodol a chreu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru sy’n darparu gweledigaeth a goruchwyliaeth newydd ar sail Cymru gyfan.
Disodli’r dulliau tameidiog presennol sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd o ran rheoli morol drwy gyflwyno Fframwaith Cynllunio Morol, wedi’i adeiladu ar sail cyd-reoli gwirioneddol gyda physgotwyr, rhanddeiliaid amgylcheddol a chymunedol a rhanddeiliaid y diwydiant.
Datblygu fframwaith cydlynol sy’n dwyn ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau ieuenctid ynghyd i fynd i’r afael ag ymddygiad, presenoldeb, llesiant ac anghydraddoldeb addysgol. Mae’r rhain hefyd yn adlewyrchu materion cymdeithasol ehangach, a byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â nhw. Byddwn yn gwella dysgu proffesiynol ac arferion adrodd am ddigwyddiadau a rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion, ac yn profi dulliau gweithredu drwy ein cynlluniau peilot Ysgolion Cymunedol a Mwy.
Y ffigur diweddaraf: Presenoldeb mewn ysgolion uwchradd, 89.1%, 2025/26.
Cryfhau cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gyda phartneriaid iechyd, i gryfhau eglurder y system, capasiti a hyder y gweithlu i ddarparu addysg gynhwysol yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion.
Datblygu system addysg drydyddol sydd â llwybrau dysgwyr clir a chydlynol, gan gefnogi dysgu gydol oes a galluogi pobl o bob oed i gamu ymlaen yn hyderus rhwng addysg, hyfforddiant a chyflogaeth drwy gydol eu bywydau ac i gyrraedd eu potensial llawn.
Diwygio Academi Seren, gan adeiladu ar ei helfennau cryfaf i gefnogi mwy o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, i gyflawni eu potensial a chamu ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan gynnwys yma yng Nghymru.
Cryfhau cyfleoedd i bobl ifanc gyflawni eu potensial gan gynnwys ehangu mynediad at lwybrau galwedigaethol megis prentisiaethau iau a sicrhau bod cyfraniad gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall yn well.
Cynyddu cyfran y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ac yn gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, gan osod targedau lleol i sicrhau twf cyson y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol.
Y ffigur diweddaraf: Disgyblion Blwyddyn 1 a addysgir Cymraeg fel iaith gyntaf, 24.7%, 2025/26.
Cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cael mynediad at lwybrau trydyddol yn y Gymraeg, gan gefnogi a datblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio gyda’r Coleg a Medr i gynyddu cyfleoedd i astudio’r Gymraeg fel pwnc.
Cefnogi cynnydd yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy hyrwyddo a datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr, a datblygu cyfleoedd sabothol newydd.
Gweithio gyda’n gweithlu addysg a’n partneriaid cymdeithasol i wneud addysgu yn yrfa ddeniadol, uchel ei pharch sy’n dod â boddhad.
Gwella prosesau recriwtio a chadw staff drwy leihau llwyth gwaith, darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwaith cynllunio, paratoi ac asesu, a chefnogi datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i bob athro, arweinydd a chynorthwyydd addysgu.
Y ffigur diweddaraf: Athrawon cymwysedig, 22,660, 2025/26.
Adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud i’r Cymelldaliad Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth o £15,000 i £20,000 i helpu i ddenu mwy o athrawon i bynciau lle mae prinder, ac archwilio cyfleoedd i gynyddu hyn ymhellach.
Cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethiant diogelu ar draws addysg drwy sicrhau bod dysgwyr ac addysgwyr yn gallu adnabod ac adrodd am achosion o grŵmio. Byddwn yn darparu addysg gynhwysfawr ar ddiogelwch digidol a llythrennedd yn y cyfryngau, ac yn sicrhau bod safonau diogelu ac addysgol yn cael
Mynd ati i dreialu Cynnal, Taliad Plant Cymru, gan ddarparu taliad uniongyrchol bob wythnos i blant ifanc o deuluoedd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.
Ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan ddechrau drwy sicrhau bod pob myfyriwr ym Mlynyddoedd 7-11 o aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu hawlio pryd ysgol am ddim, heb unrhyw gyfyngiad o ran incwm. Byddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r gwaith ar Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd.
Gweithio ar draws pob un o feysydd y llywodraeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, drwy ddull system gyfan a chymdeithas gyfan sy’n canolbwyntio ar atal.
Cefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n canolbwyntio ar oroeswyr yn y maes hwn, a thrwy eithrio llochesi o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i sicrhau mynediad at lety diogel.
Gweithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd i hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys cydraddoldeb LHDTC+, hawliau pobl anabl, cydraddoldeb rhywedd a Chymru wrth‑hiliol. Byddwn yn cryfhau gwaith cyflawni ac atebolrwydd, ac yn adrodd ar gynnydd ac effaith.
Y ffigur diweddaraf: Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser, 1.9%, 2025.
Cefnogi Llywodraeth y DU i ddatblygu gwaharddiad llwyr, sy’n cynnwys pobl draws, ar yr hyn a elwir yn ‘therapi trosi’, gan gryfhau’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferion niweidiol hyn a chefnogi goroeswyr.
Cynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella cefnogaeth i gyn-filwyr a’u teuluoedd.
Bwrw ymlaen â chynigion i ddatblygu deddfwriaeth seiliedig ar hawliau dynol i Gymru.
Gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ceiswyr noddfa i gymryd rhan ac integreiddio i gymdeithas Cymru, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau yn ddiogel a chydag urddas.
Cyflwyno rhaglen genedlaethol i ddiogelu ac adfer tomenni nas defnyddir, gan sicrhau bod pob tomen yn cael ei monitro, ei chynnal a’i rheoli’n briodol. Byddwn yn parhau i fynnu bod Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith hwn yn briodol ac yn llawn.
Sefydlu strategaeth Cymru gyfan ar gyweirio tir halogedig i fapio, blaenoriaethu ac adfer yn gynyddol dir ôl-ddiwydiannol fel nad yw cymunedau bellach yn dod i gysylltiad â safleoedd diffaith, priddoedd gwenwynig, a dyfrffyrdd llygredig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith adfer hwn.
Mynd ar drywydd datganoli toll teithwyr awyr.
Archwilio ffurfiau newydd ac arloesol o ariannu.
Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Bydd y Comisiwn yn cefnogi sgwrs genedlaethol gynhwysol ar sail gwybodaeth, yn adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer trafod a gwneud penderfyniadau, ac yn rhoi cyngor ar flaenoriaethau datganoli a diwygio cyfansoddiadol ehangach.
Gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.
Mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn llwyr i Gymru gyda’r brys y mae hyn yn ei haeddu.
Gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r pŵer dros ddŵr yn llawn yng Nghymru.
Gweithio i sicrhau datganoli pwerau i’r Senedd i ddeddfu i sefydlu corff cynllunio a rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru, fel bod pob penderfyniad am ddŵr yn cael ei wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru.
Blaenoriaethu sicrhau datganoli Ystad y Goron.
Gweithio tuag at ddatganoli pwerau dros ddarlledu, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd am ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru. Byddwn yn dechrau drwy sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol.
Mynd ar drywydd datganoli pwerau lles yn llawn.
Mynd ar drywydd datganoli pwerau pellach ar reoleiddio a phrisio ynni.
Mynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.
Gweithio gyda’r sector, gan gynnwys ein diwydiannu creadigol, i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon wedi’i thargedu er mwyn creu Cymru iachach, gyfoethocach a mwy gwydn.
Blaenoriaethu mynediad cyfartal at y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i bobl o bob oedran, cefndir a gallu, gan ystyried sut y gall ein polisïau mynediad gefnogi hyn.
Cyflwyno Strategaeth Ewropeaidd a fydd yn cynnwys ein penderfyniad i fod yn gyson â safonau Ewropeaidd blaenllaw ym meysydd diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a bwyd.
Esblygu a datblygu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cydweithredu dwyochrog ag Iwerddon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol a masnachol.
Datblygu a gweithredu Strategaeth Ddiaspora gynhwysfawr er mwyn hyrwyddo Cymru fel gwlad i’n hentrepreneuriaid ar wasgar fuddsoddi ynddi, ac annog a chymell ymfudwyr diweddar i ddychwelyd.
Rhoi cymorth strategol a hirdymor i gyrff llywodraethu cenedlaethol i ddenu a chynnal digwyddiadau rhyngwladol yng Nghymru.
Creu gwaddol parhaol yn sgil dyfodiad digwyddiadau y Tour de France 2027 a thwrnamaint pêl-droed dynion Euro 2028 i Gymru.
Adeiladu gwasanaeth cyhoeddus effeithiol a chydlynol yng Nghymru sy’n agored, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl.
Bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Ysgol Lywodraethu Genedlaethol i Gymru.
Adnewyddu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod nhw’n bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Sefydlu dull gweithredu cenedlaethol i gydlynu’r gwaith o atal a dargyfeirio troseddau ar draws heddluoedd, GIG Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid yn y trydydd sector – gan rannu’r arferion gorau a mynd i’r afael â’r pethau sylfaenol sy’n achosi troseddu.
Cynnal cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng nghyd-destun trafodaethau ar ddatganoli plismona.
Cyflwyno Bil Tribiwnlysoedd Cymru yn gynnar yn nhymor y Senedd er mwyn creu system dribiwnlysoedd gliriach, fwy cydlynol a mwy annibynnol – gyda gweithdrefnau modern, atebolrwydd cryfach, a ffocws mwy amlwg ar wella profiad defnyddwyr gwasanaethau.
Adolygu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau ei bod yn cyflawni newid mesuradwy.
Cymhwyso dull system gyfan, sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd er mwyn gwella ansawdd dŵr a chryfhau gwydnwch hinsawdd a natur yng Nghymru. Ein huchelgais yw bod pob corff dŵr yng Nghymru ar lwybr clir tuag at statws da. Gan weithio mewn partneriaeth ar draws sectorau, byddwn yn cyflymu’r gwaith o ddarparu datrysiadau seiliedig ar natur sy’n lleihau llygredd ac yn meithrin gwydnwch rhag pwysau amgylcheddol yn y dyfodol.
Datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur trawslywodraethol i Gymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Hinsawdd a Natur. Bydd y Cynllun yn cryfhau gwydnwch hinsawdd a natur, yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, yn cefnogi pontio teg ac yn nodi camau gweithredu ymarferol tuag at lwybr i sero net erbyn 2040. Fel rhan o’r cynllun, byddwn yn gosod targedau uchelgeisiol i gyflawni adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
Y ffigur diweddaraf: Allyriadau nwyon tŷ gwydr, 30.1 miliwn tunnell, 2024.
Sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, swyddfa gref ac annibynnol a fydd yn dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif am eu gwaith mewn perthynas â chyrraedd targedau amgylcheddol.
Cyhoeddi a gweithredu strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg gyda ffocws o’r newydd ar gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn a mwy erbyn 2050, dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith, a sicrhau bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru.
Y ffigur diweddaraf: Pobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, 27.4%, y flwyddyn hyd at 30 Mehefin 2026.
Gweithio i gryfhau gwydnwch y Gymraeg fel iaith gymunedol ac mewn gweithleoedd, gan weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gweithio tuag at ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol uwch a diogelu enwau lleoedd Cymraeg.
Gweithio tuag at estyn Safonau’r Gymraeg i gyrff Llywodraeth y DU ac i wasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, a sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd pob polisi cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, tai, cynllunio, trafnidiaeth, addysg, diwylliant a’r economi.
Gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, ar lefel poblogaeth, drwy ddatblygu Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd a chynhwysfawr i Gymru, yn seiliedig ar adolygiad o’r bôn i’r brig o anghenion iechyd y cyhoedd heddiw ac yn y dyfodol.
Ymgorffori atal afiechyd yn yr holl waith datblygu polisi ar draws y llywodraeth gan sicrhau bod camau gweithredu’r llywodraeth ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a llesiant yn cydweddu’n strategol.
Manteisio ar arbenigedd a chynlluniau i leihau effaith clefydau trosglwyddadwy gan ganolbwyntio ar dargedau dileu erbyn 2030 ar gyfer twbercwlosis a feirysau a gludir yn y gwaed gan gynnwys HIV.
Gwneud adnewyddu stoc dai Cymru yn genhadaeth genedlaethol, ynghyd â diwygiadau i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a chynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael. Mae tai diogel a digonol yn sylfaen hanfodol i iechyd.
Mynd i’r afael â digartrefedd drwy ddefnyddio dull Tai yn Gyntaf sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod ein deddfwriaeth digartrefedd newydd yn cael ei gweithredu’n effeithiol a’i hadolygu’n barhaus. Bydd ein Strategaeth Tai ac Adfywio yn seiliedig ar yr uchelgais y dylai pawb gael cartref saff a diogel.
Y ffigur diweddaraf: Pobl ddigartref mewn llety dros dro, 10,535, 31 Gorffennaf 2026.
Buddsoddi yn rôl ataliol diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i hybu iechyd da i bobl o bob oedran, cefndir a gallu.
Cyflwyno rhaglen genedlaethol Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion, gan roi sylfaen i bob disgybl yng Nghymru ar gyfer bywyd egnïol ac iach, magu eu hyder, a chadw plant yn ddiogel o amgylch dŵr.
Gweithio gyda Fforwm Llifogydd Cymru sydd newydd ei greu i ddod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau brys a sefydliadau cymunedol ynghyd i gydlynu strategaeth genedlaethol ar lifogydd.
Adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod yn ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol effeithiol.
Adolygu’r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i adlewyrchu’n well wir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru, a chyflwyno cyllid gwaelodol i sicrhau nad oes effaith anghymesur ar unrhyw awdurdod lleol.