21 ar agor
Rydym am glywed eich barn am Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Arfaethedig Cymru ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru.
Rydym yn ceisio eich barn ar y newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caiff eiddo hunanddarpar ei drin at ddibenion trethi lleol.
Rydym am glywed sylwadau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan bobl a sefydliadau yng Nghymru, am ddyfodol gofal canser.
Rydym am glywed eich barn am y cynnig i ddiwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Rydym am glywed eich barn ar Reoliadau o dan adran 11(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 mewn perthynas â Chynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yng Nghymru.
Rydym eisiau eich barn chi am y cynigion i greu cwmni egni cyhoeddus sengl i Gymru.
Rydym yn gofyn am farn ar ganllawiau drafft i gefnogi ysgolion wrth gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol.
Rydym eisiau eich barn ar Fanyleb Prentisiaethau Cymru arfaethedig, a fyddai'n gosod y gofynion ar gyfer prentisiaethau cymeradwy yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Hoffem glywed eich barn ar ganllawiau drafft ar gyfer awdurdodau lleol (ALlau) ar fynd i'r afael â segura llonydd diangen.
Mae'r Adran Drafnidiaeth a Chysylltedd Digidol yn holi barn ar ddiweddariadau arfaethedig i'r cod ymarfer ar ddiogelwch gwaith stryd a gwaith ffordd yng Nghymru
Hoffem gael eich barn am ddiwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru.
Rydyn ni am glywed eich barn er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ar gyfer Cymru.
Rydym eisiau gwybod eich barn ar newid i reoliadau tai sydd â therfyn amser.
Hoffem glywed eich barn ar ein cynigion ar gyfer rheoliadau o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026.
Rydyn ni’n ymgynghori ar gynnig i roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio nwy carbon deuocsid (CO2) i stynio moch yn y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddyfodol y cynllun cymhorthdal llaeth ysgol yng Nghymru.
Rydym eisiau eich barn ar adolygu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Rydym eisiau eich barn chi am y ffordd y caiff y polisi 'dan ddaear yn gyntaf' ei gynllunio a'i weithredu.
Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.
Hoffem glywed eich barn am Strategaeth Cyllid Natur cyntaf i Gymru.