Jest i osod y cyd-destun fan hyn, pan fyddwn ni'n siarad am y llyfr statud, mae'n bwysig i gofio bod y Senedd wedi etifeddu'r gyfraith. Felly, pan grëwyd y Senedd a phan benderfynwyd ar y pynciau oedd o fewn cyfrifoldeb y Senedd, pan ddigwyddodd hynny, i bob pwrpas trosglwyddwyd, mewn ffordd, y llyfr statud yn yr ardaloedd hynny i'ch cyfrifoldeb chi neu ni. Mae hwnna'n bwysig i ystyried, achos llond llaw o ddeddfwriaeth i Gymru yn unig oedd yn bodoli. Felly, mae yna hanes gwahanol iawn yng Nghymru ag oedd yna yn yr Alban, er enghraifft, lle'r oedd yna dipyn mwy o ddeddfwriaeth Albanaidd yn cael ei phasio gan Senedd Prydain.
Felly, y rheswm rwyf i'n dweud hyn o ran y cwestiwn, roedd y ddeddfwriaeth yna i gyd yn Saesneg, yn amlwg, ac mae'n bwysig i ystyried hefyd fod y gyfraith oedd yn bodoli ar gyfer Cymru hefyd yn gyfraith Lloegr neu yn gyfraith ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig. Felly, bob tro byddwn ni'n deddfu, mae gyda ni ddewisiadau ar sut i ddeddfu, ac yn mynd nôl i'r dechrau pan ddechreuon ni ar y gwaith yma, byddwn i'n dweud ei fod e'n haws bron bob tro i ddiwygio'r ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes—hynny yw, i'w gwneud hi yn Saesneg. Mae'n haws yw'r realiti.
Ond gwnaethon ni benderfynu 15 mlynedd a mwy yn ôl nad oeddem ni'n mynd i'w wneud e fel yna, ein bod ni'n mynd i drio ailddatgan gymaint ag y gallem ni a chreu cyfraith i Gymru yn benodol oedd yn ddwyieithog. Felly, er enghraifft, gan fynd nôl at newid y gyfraith ar gydsyniad ar gyfer rhoi organau, byddai hwnna wedi bod dipyn yn haws i newid deddf Brydeinig o 2004, ond gwnaethon ni dynnu'r pwnc yn ei gyfanrwydd, 30 tudalen—. Un peth bach roedden ni'n ei wneud, wrth gwrs, newid y cydsyniad, ond gwnaethon ni dynnu'r holl gyfraith ar y pwnc, y 30 tudalen, a'i ailddatgan e. Dim ond rhywbeth fel un tudalen oedd yn newid y gyfraith, ond roedden ni wedi ei greu e mewn cyd-destun Cymreig a dwyieithog.
A dyna beth ŷn ni'n ei wneud wedyn drwy gydgrynhoi a chodeiddio'r gyfraith. Bob tro rŷn ni'n gwneud hynna, rŷn ni'n cynyddu'r ddeddfwriaeth ddwyieithog sy'n bodoli. Felly, mae jest yn bwysig i ddeall y cyd-destun. Diolch.