1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Ni ddylai unrhyw un sy’n gwneud y sylwadau hynny fyth fod yn agos at blaid wleidyddol na derbyn y rhoddion hynny. Rwy'n cytuno â’r pwynt rydych chi newydd ei wneud. Ond rydym yn dadlau mater yma sy'n ymwneud ag unigolyn, oherwydd fel y dywedais yn fy araith…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at ddadl arall ar fater sydd wedi dal dychymyg llawer o bobl y tu hwnt i’r lle hwn yn ogystal â llawer o amser y Cyfarfod Llawn ac amser dadl hefyd. Rwyf am gofnodi am yr eildro y prynhawn yma fy siom nad yw’r Prif Weinidog…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ. Mae'r cyfrifoldeb portffolio hwn yn gadarn gyda'r Prif Weinidog. Mae wedi dewis peidio â dod i'r ddadl hon heddiw i ymateb i'r pwyntiau a roddwyd iddo. Nid oedd llawer o'r wybodaeth a nodwyd gennych yn eich ateb i'r ddadl…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
O. O, iawn. Mae hynny'n siomedig. Iawn, nid yw'r Prif Weinidog wedi dod i ddadl ynghylch yr ymddygiad sy'n gysylltiedig â chod y Gweinidogion, ac ar y datganiad o gyfrifoldebau gweinidogol, ef sy'n gyfrifol am god y Gweinidogion. Felly, rwy'n credu bod…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A oes angen inni aros i'r Prif Weinidog ddod, oherwydd, yn amlwg, mae'r ddadl am y Prif Weinidog? Neu a oes Gweinidog arall yn ymateb?
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n disgwyl imi gyfieithu yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd.
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n hyfryd clywed eich bod chi'n cael adolygiad mewnol yn y Blaid Lafur i ymchwilio i hyn i gyd. Mae'n fy atgoffa o oes y Blaid Gomiwnyddol pan oedden nhw'n arfer cael y politbiwro yn llongyfarch eu hunain ac yn dweud, 'Rydym ni wedi gwneud gwaith gwych…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fe glywsom ni hefyd mewn cwestiynau y prynhawn yma gan yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd am ba mor werthfawr yw gwastadeddau Gwent. Ond rydym ni'n gwybod bod yr unigolyn a wnaeth y rhodd i chi wedi bod yn destun achos llys ac wedi ei gael yn euog ar ddau…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Nododd y cwestiwn a ddechreuodd y sesiwn holi hon gan Julie Morgan fod cwmni tacsi yn amlwg wedi torri'r rheolau gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Rwy'n credu bod perchennog y cwmni tacsis hwnnw wedi cyfrannu at eich ymgyrch arweinyddiaeth…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gofal sylfaenol a'r agenda ataliol
Rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn ag ymyrraeth gymunedol, fferylliaeth gymunedol, optometreg ac ati, ond y broblem yw bod comisiynu'r gwasanaethau hynny'n amrywio rhwng un bwrdd iechyd a'r llall, yn enwedig rhwng Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, a bwrdd iechyd bae…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gofal sylfaenol a'r agenda ataliol
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg
Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny, Buffy. Rydych chi newydd ddod yn gadeirydd y pwyllgor addysg. Un o'r problemau mwyaf yn yr hyn a adawyd ar ôl yn sgil pandemig COVID yw absenoldeb mewn ysgolion. Mewn rhai cymunedau difreintiedig, mae cymaint â 40 y cant o…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hyn yn cael effaith ddeifiol wirioneddol ar y Llywodraeth, fel y mae tawelwch eich meinciau eich hun yn ei ddangos yma gerbron pawb heddiw. Ni all fod unrhyw gwestiwn y byddai'r unigolyn rhesymol hwnnw yr ydych chi a minnau'n cyfeirio ato yn dod i'r…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn amlwg, ymchwiliad mewnol yw hwnnw, Prif Weinidog. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n edrych yn wrthrychol ar hyn yn cytuno â honiad Gweinidog yr economi ar The Politics Show na fyddai wedi cymryd rhodd gan gwmni sydd ag euogfarnau troseddol…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam mae crebwyll Gweinidog yr economi o ran derbyn rhoddion gwleidyddol yn fwy egwyddorol nag un chi?
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth
Rwy'n croesawu'r Ceidwadwr yn ôl i’r Llywodraeth, ac mae hynny’n braf iawn ei weld. Ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog, wrth iddo sôn am y sgwrs y mae ef a'r Llywodraeth yn ei chael ynglŷn â'r terfyn 20 mya, beth yw'r terfyn amser ar y sgwrs honno, gan fod pobl…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
Prif Weinidog, rwy'n dymuno yn dda i chi a'ch Llywodraeth yn eich ymdrechion, oherwydd mae gennych chi fandad ac mae pobl Cymru yn edrych tua'r Llywodraeth i gyflawni'r mandad hwnnw, yn amlwg, ac, os yw hwnnw'n gweithio, fe fydd yn gwella bywydau pobl ar hyd…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O safbwynt gwleidyddol Cymru, mae hwnna'n rhodd enfawr a gawsoch chi yn ystod eich ymgyrch arweinyddiaeth. Ni lwyddoch i sicrhau mwy na dim ond traean o'r grŵp Llafur yma yn y bae i gefnogi eich cais arweinyddiaeth, ond fe lwyddoch i wneud yn siŵr bod gŵr…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar i chi am gadarnhau eich bod wedi derbyn rhodd o £200,000 yn union. A wariwyd yr holl arian hwnnw yn ystod yr ymgyrch, neu a drosglwyddwyd arian i'r Blaid Lafur ar ddiwedd yr ymgyrch fel y gellir defnyddio'r arian hwnnw, yn amlwg, o fewn y…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd, ac a gaf innau hefyd eich llongyfarch chi, Prif Weinidog, am gymryd swydd y Prif Weinidog yma yng Nghymru? Dyma'r tro cyntaf yr ydych chi a minnau wedi bod ar draws y Siambr yn ein swyddi priodol. Nid oedd y tro cyntaf i mi gyfarfod â chi mor…
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
A gawn ni ofyn am ailgyfrif?
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Andrew R.T. Davies. [Chwerthin.]
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi grynhoi yn y fan yna pam rydych chi mor llwyddiannus mewn etholiadau, er tegwch. Fe wnaethoch chi grynhoi'ch gallu i gydymdeimlo â chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac un o'r trychinebau eiconig sydd wedi effeithio ar y wlad hon…
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Dim ond gwneud yn siŵr yr oeddwn i eich bod chi'n gwybod beth ddywedais i. [Chwerthin.]