13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Yn amlwg, mae bod â threm sy'n rhyngwladol ac yn edrych tuag allan yn rhan bwysig o fod yn genedl gyfoes, ddeinamig ac rydym ni'n canmol yr ymdrechion i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad gyda mentrau…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n gallu credu, ar lawr Senedd Cymru, na allwn ni gael—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod dros Ogwr yn dweud, 'Gweithiwch ef allan, Andrew', a dyma'r Aelod sy'n sefyll ar ei draed dro ar ôl tro ac yn sôn am amarch gan San Steffan i Senedd Cymru yn ei…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, ni ofynnais i chi wneud sylwadau na chynnig sylwebaeth barhaus ar yr ymchwiliad. Fe wnes i eich holi am benderfyniad penodol gan Lywodraeth Cymru a wnaed gennych chi fel Prif Weinidog, a chan Weinidog sy'n eistedd yn y Cabinet, pan oedd yn…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw yw diwrnod cyntaf ymchwiliad COVID y DU. Roeddwn i wedi gobeithio'n fawr y byddwn i'n gallu dweud mai heddiw yw'r diwrnod cyntaf i ymchwiliad COVID annibynnol Cymru, ond yn amlwg, nid yw hynny'n mynd i ddigwydd yn ystod…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Weinidog, fel pe bai wedi amseru hynny'n berffaith, mae'r Cadeirydd newydd ddod i mewn o'r pwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chwaraeon, gan eu bod newydd gyhoeddi adroddiad ar allu ysgolion i gynnig addysg Gymraeg sy'n caniatáu i'r iaith ffynnu yn ein…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, er tegwch, mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a'r meddygon ymgynghorol sy'n aelodau o'r sefydliad hwnnw yn arbenigwyr yn eu maes. Maen nhw'n tynnu sylw at y gallu i adfer gwelyau ychwanegol o fewn y gwasanaeth iechyd fel un rhan o'r ateb. Mae pawb yn…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n hanfodol bod yr anghydfod hwnnw'n cael ei ddatrys, ac rwyf wedi eich clywed yn dweud dro ar ôl tro, Prif Weinidog, y bydd y penderfyniad hwnnw'n dod, trwy negodi. Felly, byddwn yn annog ac yn argymell ar yr un pryd eich bod yn eistedd o amgylch y bwrdd…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd, a gyda'ch caniatâd chi, a gaf i fy hun, fy ngrŵp a fy mhlaid uniaethu â'ch sylwadau chi a rhai'r Prif Weinidog yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth yr Arglwydd Morris a gyhoeddwyd neithiwr? Fy atgof cyntaf am John Morris oedd pan oedd yn…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gweinidog busnes, a gawn ni ddatganiad mewn cysylltiad â pherchnogaeth cabanau gwyliau yng Nghymru? Cwrddais â rhai perchnogion cabanau gwyliau ddydd Iau diwethaf, ac roeddent yn rhoi'r argraff ac effeithiau go iawn y newidiadau treth gyngor sydd wedi…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sylweddoli'n llwyr eich bod chi'n cystadlu am adnoddau gyda rhannau eraill o'r GIG mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Nid wyf i wir yn credu bod y Gweinidog nac unrhyw un yn y Siambr hon eisiau gweld pobl yn aros dwy flynedd neu fwy. Ond mae'r…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch, ar un anadl, o glywed hynny, ond yn ymwybodol, yn amlwg, mai'r targed gwreiddiol ar gyfer cael gwared ar arosiadau dwy flynedd yng Nghymru oedd mis Mawrth eleni. Mae'n bwysig ein bod ni'n deall a yw hwn yn darged gwirioneddol y mae Llywodraeth…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gael gwared ar arosiadau o ddwy flynedd o fewn GIG Cymru erbyn diwedd y flwyddyn?
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Terfysgoedd yng Nghaerdydd
Diolch, Gweinidog, am yr ymateb yna i'r cwestiwn gwreiddiol, ac a gaf i gymeradwyo'r sylwadau a wnaethoch chi am bwyll, ac ymdrin â'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r digwyddiad arbennig o drasig hwn? Ac mae ein meddyliau a'n gweddïau, yn amlwg, gyda theulu'r ddau…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiwn Brys: Terfysgoedd yng Nghaerdydd
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu De Cymru ynghylch terfysgoedd yng Nghaerdydd dros y 24 awr ddiwethaf? (EQ0010)
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Weinidog, drwy addysg, fe wyddom y gallwch rymuso pobl i gamu ymlaen mewn bywyd, a chodi eu hunain allan o ddyfnderoedd tlodi yn arbennig. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn herio'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ynghylch niferoedd anghenion dysgu ychwanegol…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
Rwy'n derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, ond rwy'n ailadrodd y pwyntiau y gwnes i yn fy sylwadau, fel yr wyf yn ei deall hi, roedd trafodaeth gyda grŵp Plaid Cymru. Rwy'n gwybod i mi gael trafodaeth gydag arweinydd Plaid Cymru; rwy'n gwerthfawrogi mai…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf i eisiau cofnodi mai ein bwriad clir ni yw parhau i gefnogi creu ymchwiliad COVID annibynnol yma yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i bob amser wedi'i ddweud ac mae fy meinciau i bob amser wedi pleidleisio drosto yma…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n fy nghyhuddo i o fynd o flaen fy nhro, Prif Weinidog. Yn ôl ym mis Chwefror, pan gynigiodd y Gweinidog iechyd y rhybudd olaf i aelodau annibynnol y bwrdd, profwyd bod Llywodraeth Cymru, fis cyn hynny, yn chwilio am aelodau annibynnol newydd i'r…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig ac sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn adroddiad a godwyd gyda chi yr wythnos diwethaf, ac, er tegwch, roedd yn llinell amddiffyn ddilys nad oeddech chi wedi ymgyfarwyddo â'r…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. A gyda'ch caniatâd, a gaf i ddymuno'n dda i arweinydd Plaid Cymru nawr ei fod wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel arweinydd y blaid honno? Hoffwn ddiolch iddo am y cwrteisi y mae wedi ei estyn i mi yn ystod ein hamser fel arweinwyr ein gwahanol…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Diolch, Weinidog. Rydym yn anghytuno ar yr ardoll ymwelwyr, ac mae hynny'n ddigon teg; dyna yw dadl wleidyddol. Ond mae pryderon gan y sector twristiaeth efallai na fyddai'r ardoll hon, o'i chyflwyno, yn cael ei defnyddio ar gyfer gwelliannau twristiaeth…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant. Weinidog, un o'r prif bethau y mae angen buddsoddi ynddo yma yng Nghymru yw'r sector prosesu, fel bod y cynnyrch y mae ein prif gynhyrchwyr—h.y. ein ffermwyr—yn ei gynhyrchu yn cael cymaint â phosibl o…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
1. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant amaethyddol? OQ59485
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch, Weinidog. Rwy'n sylweddoli bod awdurdodau lleol yn sefydliadau ymreolaethol, ond yn fy rhanbarth i, Bro Morgannwg, er enghraifft, un cyfarfod hybrid yn unig a gynhaliodd. Cynhelir pob cyfarfod fel arall ar Zoom neu Teams, neu ba bynnag gyfrifiaduron…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol? OQ59484