8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr adolygiad ffyrdd
Er eglurder, nid ydym yn argymell cau Maes Awyr Caerdydd. Mewn gwirionedd, rydym wedi cyflwyno dwy strategaeth sydd wedi tynnu sylw at yr hyn yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig ei weld yn digwydd gyda Maes Awyr Caerdydd, sef ei fod yn dod yn faes awyr proffidiol…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwy'n uniaethu â'r datganiad a wnaeth y Llywydd, ac mae fy ngrŵp innau hefyd yn uniaethu â'r datganiad hwnnw, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teuluoedd i gyd. Rwyf eisiau gofyn i chi, Weinidog, os caf—yn amlwg, rwy'n deall pam y cafodd ei gyfeirio at…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24
Nid yw Cymru wedi cael llai na'i haeddiant; £2.5 biliwn ychwanegol yn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr hwn ar gael i Lywodraeth Cymru. Ond rydych chi wedi treulio eich amser yn mynd o gwmpas y canolbarth yn dweud wrth ffermwyr defaid y byddai eu marchnadoedd…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n hanfodol bod y datblygwyr yn camu i'r adwy ac yn gwneud y gwaith y mae disgwyl a gorchymyn iddyn nhw ei wneud i sicrhau nad yw'r lesddeiliaid a'r deiliaid tai yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o anfantais heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Yn San Steffan, mae…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, does bosib nad yw rhan o gyfraith Cymru a fyddai'n gallu cynnwys yr adrannau hynny, yn hawliau lesddalwyr a pherchnogion cartrefi, yn rhywbeth i'w groesawu, i roi hawliau i'r lesddalwyr a'r perchnogion cartrefi hynny yn eu gweithredoedd yn…
7 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cynhaliodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Senedd, gyfarfod ynghylch y sefyllfa gladin yma yng Nghymru, a dylai’r holl Aelodau yn y Siambr hon wir ganmol y Welsh…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gyda'r pwynt am 'lawer iawn mwy i'w wneud', Prif Weinidog, beth yw'r weledigaeth ar gyfer meddylfryd Llywodraeth Cymru pan ddaw hi at ddarpariaeth iechyd yn y gogledd? Nid yw'n iawn. Nid yw'n deg i'r staff yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac yn bwysig, i gleifion a…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am y mesurau arbennig, Prif Weinidog, oedd y byddai trigolion yn y gogledd, o gofio mai dim ond yn ddiweddar y cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu allan o fesurau arbennig, yn cael eu synnu, yn ddealladwy, ei fod yn dychwelyd i…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, cafodd rhai pobl eu synnu gan y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn gwneud Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ddoe, ond nid oedd yn annisgwyl, o ystyried adroddiad yr archwilydd cyffredinol o'r wythnos…
15 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, ac yn enwedig Mick, yn amlwg, sydd â chysylltiadau personol mor gryf ag Wcráin? Hoffwn ddweud nad ydym byth am weld yr 'U' honno eto. Mae gennych wlad o'r enw Wcráin. Ni…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A fydd y Ddeddf aer glân, fel rydych chi wedi bod yn ei drafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, yn hollgwmpasog, oherwydd rydyn ni wedi cael ein harwain i gredu yn amlwg y bydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd fel y gallwn weld gwelliant…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae o gymorth mawr cael gwybod hynny, yn enwedig gyda 2,000 o farwolaethau cynamserol ac £1 biliwn o wariant gyda GIG Cymru. Dyna yw cost aer budr ar ysgyfaint pobl a chyflyrau iechyd cysylltiedig. Yn aml iawn, pan fyddwn ni'n siarad am ddeddfwriaeth, dywedir…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, un o ganolbwyntiau'r rhaglen ddeddfwriaethol a oedd ym maniffesto eich plaid oedd Deddf aer glân. Trafodwyd hyn ers blynyddoedd lawer cyn yr etholiad diwethaf. Rydyn ni'n dal yn ansicr ynghylch pryd y gallai'r Ddeddf aer glân…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am eich datganiad, Weinidog, a hefyd y diweddariad i gwestiynau rydych chi wedi eu cymryd y prynhawn yma. Rwy'n sylwi o'r undebau sydd wedi'u rhestru nad yw Unite yn cael eu rhestru yno fel undeb sy'n rhan o'r trafodaethau, ond rwy'n deall eich bod…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am ganiatáu’r cwestiwn, Lywydd. Weinidog, rwy’n ddiolchgar i chi am eich atebion hyd yn hyn heddiw ar yr arferion ffiaidd a welsom yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn rhyddhau Llywodraeth y DU rhag eu cyfrifoldeb yn hyn o beth; mae ganddynt gyfrifoldeb…
7 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gweinidog, ceir busnesau ar hyd a lled y wlad sy'n gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am gymorth, weithiau am sawl can punt, weithiau am filoedd, weithiau am ddegau o filoedd, os nad miliynau. Yma mae gennym ni ymyrraeth gan Lywodraeth…
7 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n siŵr, fel Aelodau, y byddem ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl, oherwydd nid yn afresymol, yn amlwg, mae etholwyr a sefydliadau sy'n gallu helpu yn cysylltu â ni, a byddai hynny i'w groesawu'n fawr. Gallaf…
7 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. A gaf i uniaethu â'r sylwadau a wnaethoch yn gynharach yn y sesiwn hon, Llywydd? Ac a gaf i ofyn i chi, Trefnydd, yn sgil y golygfeydd erchyll sydd yn dod o Dwrci a Syria, a maint y cyfanswm o farwolaethau sy'n cynyddu fesul cannoedd, os nad…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Rydych chi'n ymwybodol o achos un o fy etholwyr i, Barry Topping-Morris. Fe gafodd ei hun yn rhan o ddigwyddiadau ynghlwm â rhyddhau claf o glinig Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr a aeth ymlaen wedyn i gyflawni dynladdiad. Mae…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut mae'r GIG yng Nghymru yn ymdrin â chwynion hanesyddol? OQ59035
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae'n amlwg bod Canol De Cymru, Gweinidog, yn gartref i ddau barth menter—un ym Mro Morgannwg a'r parth menter ariannol yng nghanol Caerdydd. Sefydlwyd nhw gan Weinidog blaenorol ac maen nhw wedi bod yn rhan ganolog o Lywodraethau olynol yma ym Mae Caerdydd o…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
1. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cadernid economaidd yng Nghanol De Cymru? OQ59046
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am hynny. Rwy'n falch o glywed hynny, ac rwy'n siŵr y bydd trigolion a grwpiau gweithredu ledled Cymru, yr effeithir arnyn nhw gan hyn yn falch hefyd o glywed yr ymateb yna. Gair nad yw wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, ond, ddydd Sul, a…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Arweinydd, mae sawl blwyddyn bellach, yn amlwg, ers trychineb Grenfell. Mae'r ymchwiliad i drasiedi Grenfell wedi dod â'i waith i ben, ac rydym yn aros am ei adroddiad. Fel y dywedais i, yn Senedd y DU, pasiwyd y ddeddfwriaeth i roi cysur i drigolion sy'n byw…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Cyn i mi ddechrau, gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, hoffwn uniaethu â'r sylwadau rydych chi a'r Trefnydd wedi eu rhoi ar y cofnod mewn cysylltiad â'r newyddion ysgytwol fod y Prif Weinidog wedi colli'i wraig dros y penwythnos. Ar ôl cwrdd â Clare ar…