22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Diolch am groesawu'r datganiad heddiw, a chroesawu'r rhodd a wnaethom heddiw, yn dilyn y rhodd o £100,000 ym mis Hydref. Hefyd, mae eich cwestiwn y prynhawn yma yn rhoi cyfle inni gydnabod faint o arian sydd wedi'i godi. Hyd…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Cyn y Nadolig roeddem yn falch o roi £100,000 i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys ar gyfer y dwyrain canol. Yn gynharach heddiw cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 pellach.
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Rydym ni wedi bod mor bryderus am adroddiadau o droseddau casineb a dargedir at bobl Iddewig mewn cymunedau yng Nghymru. Rydych chi'n gwybod ein bod ni'n annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau casineb, ond hefyd ymgysylltu â'r…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Fel y dywedwch chi, coffáu wyth deg mlynedd, y 6 miliwn a laddwyd—llofruddiwyd—gan y Natsïaid, dyma'r hyn y byddwn ni'n myfyrio arno yfory. Yn bwysig, mae'n ddigwyddiad trawsbleidiol yfory, ac mae'n rhaid i mi ddweud…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch yn fawr, Julie Morgan, a diolch am rannu gyda ni eich profiad, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth helaeth o effaith hil-laddiad a'r hyn y mae'n ei olygu i bob person, pob unigolyn. Fel y soniais i, y rhai a gafodd eu targedu oedd y rhai a…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Datganiad pwerus iawn, unwaith eto, a diolch am eich cwestiynau. Fel y dywedwch chi, mae'n rhaid i ni gael ffydd yn y dyfodol, 'er budd dyfodol gwell'. Wrth ymateb i'ch cwestiynau, mae'n bwysig iawn bod ein hymgyrch gyfathrebu yn erbyn troseddau casineb, Mae…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich datganiad pwysig iawn.
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch yn fawr iawn.
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain; diolch yn fawr iawn am wneud datganiad mor gryf heno. Fel y dywedoch, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dysgu gwersi'r Holocost. Rydym yn gwybod bod coffáu'r Holocost yn hanfodol er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi heddiw a dydd Llun i annog cymunedau Cymru i arddangos eu hymrwymiad trwy oleuo'r tywyllwch ar gyfer dyfodol gwell. Diolch yn fawr.
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll-garchar mwyaf y Natsïaid. I nodi'r flwyddyn arwyddocaol hon, rydym wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ymgymryd â gwaith a chyflogi…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
Diolch, Llywydd. Dydd Llun nesaf yw Diwrnod Cofio’r Holocost, y diwrnod coffáu blynyddol i gofio mwy na 6 miliwn o Iddewon a Roma a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, a’r miliynau o bobl a laddwyd oherwydd erledigaeth y Natsïaid. Rydyn ni hefyd yn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn, James Evans. Yn amlwg, mae er ein budd ni i gyd bod cysylltiadau da o ran masnach nid yn unig yn parhau, ond maen nhw'n amlwg yn mynd i fod yn heriol hefyd o ran polisïau a datganiadau newydd yr Arlywydd newydd. Ond mae'n hanfodol, ac nid…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, nid mater i lywodraeth leol yn unig yw hwn, ond, yn wir, mater i'r awdurdod lleol y gwnaethoch chi ei grybwyll, ac mae'n fater i'r rhai sydd â'r fraint o wasanaethu mewn llywodraeth leol hefyd.
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Iawn, fe wnaf ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ymateb ar fater effaith y Bil. Yn amlwg, mae peth amser eto cyn, fel y dywedwch chi, y dyddiad rydych chi wedi'i nodi, 25 Ebrill. Yr asesiad o'r effaith ar Gymru, capasiti yn yr…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn gyfrifoldeb trawslywodraethol, dan arweiniad y Dirprwy Brif Weinidog, o ran datblygu strategaeth bwyd cymunedol, yr ydym yn mynd ati i ymgysylltu â hi. Ond i mi, y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, yn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae gennym y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yma gyda ni heddiw. Ydy, yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn o ran GeoMôn a statws UNESCO, ac rydych chi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, felly byddwn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth, am eich cwestiwn pwysig iawn.
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Laura Anne Jones. Mae hwn, yn amlwg, yn ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur, ac, yn wir, fel y gwyddom ni yn rhy dda, arweiniodd yr etholiad ym mis Gorffennaf at ethol ASau Llafur, gan gynnwys yn eich…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n siŵr y bydd gennych wirfoddolwyr i fynd ar y daith honno ar y rheilffordd Calon Cymru wych honno. Mae materion o ran newidiadau amserlen ar gyfer gwasanaethau prif reilffyrdd yn digwydd, gyda mwy o gysondeb i deithwyr, ond…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma. Yn wir, byddaf yn cyhoeddi datganiad yfory ac rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi newyddion da am ffyrdd y gallwn ni gyfrannu at gronfa y Pwyllgor…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn, Gareth, a diolch am godi'r mater pwysig hwn. Mae'n ymwneud â chanfod yn gynnar, fel y dywedwch chi. Dyna beth yw pwrpas ac amcan sgrinio. Ac rydych chi wedi tynnu sylw at y sgrinio ar gyfer anewrysm gyda anewrysmau yn yr abdomen o ran…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell. Mae'r materion hyn wedi eu trafod yn y Siambr hon, ac rydym wedi canolbwyntio ar safleoedd penodol hefyd. Ac, fel y dywedwch chi, mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldeb a phwerau caniatâd cynllunio—beth sydd gan awdurdodau…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Paul Davies. Fel y dywedwch chi, rydym yn arweinydd byd-eang yn ein hymdrechion ailgylchu, sef ymdrechion ailgylchu gan ein cymunedau, ein pobl, ein busnesau, ein haelwydydd. Rydym yn falch ein bod yn arweinydd byd-eang ac rydym yn diolch i…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda ar gyfer heddiw. Yn nes ymlaen, bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar darfu ar y cyflenwad dŵr yn sir Conwy. Mae busnes drafft y…