21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fel yr atebais gyd-Aelodau blaenorol, mae yna amrywiaeth o resymau pam nad yw pobl yn manteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio, mae rhai ohonynt yn bethau y gall y Llywodraeth weithredu arnynt, gyda'r gwasanaeth iechyd, i fynd i'r afael â nhw, mae eraill yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n cytuno ei bod yn gwbl hanfodol lleihau'r rhwystrau hynny i fynediad. Ar hyn o bryd, mae 11 uned symudol yng Nghymru, ac maent yn cylchdroi drwy fwy na 100 o leoliadau ar gylch tair blynedd. Bwriad y rhaglen yw eu bod yn cael eu lleoli o fewn lleoliadau…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn sicr. O ran nifer y menywod sy'n cael eu sgrinio yn Islwyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn monitro'r niferoedd sy'n cael eu sgrinio yn ôl clwstwr meddygon teulu, yn ôl awdurdod lleol ac yn ôl ardal bwrdd iechyd. Felly, mae 71.2 y cant yn cael eu sgrinio ym…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sector gwirfoddol, y bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, gan gynnwys drwy gysylltwyr cymunedol a swyddogion hybiau yn ardal Islwyn, i gynyddu ymwybyddiaeth o sgrinio drwy addysg a…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Na. Gallaf gadarnhau nad yw'r Llywodraeth yn ystyried gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhan eilaidd o'r gweithlu. Y dystiolaeth gryfaf o hynny yw'r cynnydd o ran recriwtio a chomisiynu lleoedd hyfforddi ar draws ystod o arbenigeddau proffesiynol…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi camddeall diben egluro'r pwynt hwnnw. Nid yw'n bwynt i'w ddathlu; mae'n bwynt sy'n dangos faint o weithgarwch sy'n mynd rhagddo yn y gwasanaeth iechyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig i'w amlygu. Mae pobl yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dwi ddim yn credu ein bod ni wedi methu â dal y bwrdd i gyfrif. Fel rydych chi'n gwybod, rydyn ni wedi bod yn glir iawn o ran ein disgwyliadau gyda'r bwrdd iechyd. Nid yw'n dderbyniol bod pobl yn aros am yr amserau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn eich…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod gwahaniaeth rhwng y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe a'r pwynt rwy'n ei wneud heddiw. Nid oes unrhyw sylwebydd credadwy yn unman sy'n credu bod ei blaid ef yn San Steffan wedi darparu cyfalaf priodol i'r gwasanaeth iechyd…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, ar bwynt cyntaf yr Aelod, rwy'n credu bod y cyhoedd yng Nghymru, a chleifion yng Nghymru, yn cael eu gwasanaethu'n well gan ymateb i'w gwestiwn sy'n mynd i'r afael â sylwedd yr her, yn hytrach na chwilio am bennawd drwy ddisgrifiad un gair o'r GIG. Ac…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ni chredaf fod ei phrofiad yn dderbyniol, ac mae'n ddrwg iawn gennyf am y profiad a gafodd a'r rhai yr effeithiwyd arnynt y tu hwnt i'w phrofiad personol ei hun. Nid dyna'r profiad rwyf am i unrhyw glaf yng Nghymru ei gael, byth. Rwy'n credu ei fod yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, mae hynny'n fater i'r bwrdd iechyd fodloni ei hun yn ei gylch. Rwy'n siarad fel rhywun nad yw'n glinigydd yn ateb cwestiwn gan glinigydd, felly nid wyf yn hyderus sut i ateb. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig. Yn fy ymweliadau â safleoedd ysbytai yn ardal…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Mae’n ddrwg gennyf glywed am brofiad ei etholwr. Rydym wedi cymryd camau penodol i gefnogi'r bwrdd iechyd i leihau rhestrau aros orthopedig, sydd wedi bod yn her yn hanesyddol, fel y noda'r Aelod. Mae £11 miliwn yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym wedi cefnogi'r bwrdd iechyd i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer orthopedeg. Mae'r holl lawdriniaethau orthopedig a gynlluniwyd o fewn y bwrdd iechyd bellach wedi'u canoli ar safle Ysbyty Tywysoges Cymru, gyda thair theatr bwrpasol a ward o 28 gwely ar…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at y profiad cadarnhaol hwnnw yn y gwasanaeth y cyfeiria ato ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Un o ddulliau gweithredu'r asesiad sicrwydd mamolaeth a newyddenedigol sydd ar y gweill ar hyn o bryd, y soniais amdano…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r dull o wneud gwelliannau yn y maes hwn yn gyffredinol, a chredaf ei fod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chyfyngiadau targedau hefyd. Ac mae ein dull ni, yn sicr, wedi bod yn ddull sy'n rhoi gwelliannau'n gyntaf, gyda…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch i'r Aelod am rannu ei brofiad yn ei gyfraniad.
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, rwy'n ategu'r sylwadau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Mae colli babi ar unrhyw gam o feichiogrwydd yn brofiad anhygoel o ofidus i bawb yr effeithir arnynt. Mae cyfraddau marw-enedigaethau yng Nghymru wedi gostwng oddeutu 17 y cant ers 2010, ond maent wedi…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol trwy sicrhau bod pob teulu yn cael gofal diogel o ansawdd uchel. Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gosod safonau…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Mae Caerdydd a'r Fro wedi bod yn rhan o'r cynllunio gyda phob bwrdd iechyd arall ers mis Mawrth y llynedd, felly mae'n broses gydweithredol ac mae wedi bod yn parhau ers amser maith ac yn gynharach nag mewn blynyddoedd eraill er mwyn gallu creu mwy o…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Gwnaf, yn sicr. Cafodd pythefnos sbrint y gaeaf eleni ei weithredu fel modd o ganolbwyntio'r system gyfan ar nifer fach o fetrigau y gwyddom ni y gallai wneud y gwahaniaeth mwyaf i wella capasiti mewn ysbytai a llif cleifion. Mae wedi cael yr effaith honno…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Gallaf i glywed y gofid yn ei llais, ac rwy'n ei rannu. Rydw i wedi gweld hynny yn uniongyrchol fy hun, ac rwy'n cytuno â hi, mae'n annerbyniol. Nid oes unrhyw un ohonon ni eisiau gweld ffrind, aelod o'r teulu, neu gymydog yn cael eu trin mewn lleoliad…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Ar yr olaf, nid oes gennyf i'r data o fy mlaen, ond yn sicr, fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r ffigur hwnnw ar gyfer y gwelyau heddiw. Ar y pwynt cyntaf, bydd yn ymwybodol, mewn trafodaethau blaenorol yn y Siambr, fy mod i wedi dweud y byddwn ni'n…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Rwy'n diolch i Julie Morgan am hynny. Rwy'n credu ei fod yn bwysig. O reidrwydd, yn y trafodaethau hyn, rydyn ni'n canolbwyntio ar yr heriau yn y GIG, ac mae hynny'n briodol iawn, ond mae'n wir dweud bod profiad y rhan fwyaf o bobl o'r GIG y rhan fwyaf o…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Rwy'n dymuno'n dda i'r Aelod am ei wellhad. Rwy'n cytuno ag ef fod y staff yn y Faenor, a'r ysbytai eraill y bydd wedi cael gofal ganddyn nhw, wedi bod yn chwarae rhan ryfeddol yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau’r Gaeaf yn y GIG
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am amseroedd ymateb ambiwlansys. Mae gwahaniaeth ym mherfformiad y gwasanaeth wedi bod gan ddibynnu ar lefel aciwtedd y claf. Ar y pen mwyaf critigol, mae amseroedd ymateb canolrif wedi bod yn gadarnhaol, ac o fewn yr…