18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae mynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth sy'n llygru wedi bod yn ffocws i'n rhaglen waith aer glân. Ac fel y soniais, mae comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru a'r panel adolygu ffyrdd ill dau'n gwneud gwaith a fydd yn ein helpu gyda'r targed hwn mewn…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, gallaf sicrhau Jack Sargeant mai un o ganlyniadau gweithio gyda Ken Skates am ddwy flynedd a hanner yw fy mod yn deall yn iawn yr angen i weithio'n drawsffiniol ac i weithio'n agos gyda'r maer metro. Gallaf eich sicrhau mai dyna a wnawn. Sefydlwyd…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwy'n sicr yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod fod y cynllun wedi taro rhai rhwystrau. Gadewch imi ddweud ychydig o bethau mewn ymateb i'r pwyntiau y mae'n eu codi. Yn gyntaf oll, credaf ei fod yn hyrwyddwr gwych dros y sector preifat a byddwn wedi meddwl, yn…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Bydd ein rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bysiau a theithio llesol ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns, cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn sicr, nid bwriad y cynllun yw cyfyngu ar bobl sydd am blannu coed. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'r telerau ac amodau yn gwneud hynny, a byddwn yn awyddus i glywed mwy gennych am eich enghraifft benodol i weld beth…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn braidd yn wirion, os nad oes ots gennych imi ddweud hynny, oherwydd roedd digon o wybodaeth pan lansiwyd y cynllun gennym yn gynharach eleni. Fe'i gwnaethom yn glir iawn y byddai cam cychwynnol. Roeddem yn awyddus iawn i wneud…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n rhaid inni blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 os ydym am gyrraedd llwybr cytbwys Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i'n cael i sero net. Rydym wedi agor cynllun cynllunio newydd i greu coetiroedd er mwyn cefnogi rheolwyr tir i ddatblygu…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn y Senedd ddiwethaf, cawsom gefnogaeth drawsbleidiol i gyflwyno’r polisi o derfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd lleol. Fe wnaethom sefydlu tasglu a ymgynghorodd yn eang iawn ac a gynhwysodd randdeiliaid wrth weithio drwy fanylion y ffordd orau o lunio a…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r cyhoeddiad heddiw fod chwyddiant yn y DU wedi cyrraedd 9 y cant ym mis Ebrill. Mae chwyddiant yn y diwydiant adeiladu yn agosach at 30 y cant, felly mae unrhyw brosiect seilwaith yn cael ei effeithio gan gostau uwch; mae hynny…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rydym yn falch, yn amlwg, ein bod wedi gallu dod i gytundeb o'r diwedd gyda Llywodraeth y DU ar y porthladdoedd rhydd. Mae wedi bod yn drafodaeth hirach nag y dylai fod, ac nid oedd y ffordd y’i cynhaliwyd yn ddelfrydol, ond rwy’n falch inni ddod i gytundeb…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Does unman yn debyg i gartref: Tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol
Wrth gwrs, mae gennym Rhentu Doeth Cymru hefyd. Sylwais fod Peredur Griffiths wedi defnyddio ymadrodd am ein math o fframwaith statudol, ac nid wyf yn credu y dylem ddiystyru na thanamcangyfrif hynny; credaf fod hwnnw'n fudd pwysig y gweithiwyd yn galed…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Does unman yn debyg i gartref: Tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol
Wel, diolch yn fawr iawn i Peredur Griffiths am ei gyfraniad, a oedd, yn fy marn i, yn feddylgar iawn ac yn codi nifer o faterion pwysig y mae angen eu hystyried, ac rwy'n falch iawn fod gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru ddull radical ar y cyd o ymdrin â…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cyllideb y taliadau disgresiwn at gostau tai i gefnogi’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y toriadau i fudd-daliadau. Ond eleni, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol doriad o oddeutu £2.3 miliwn yn y gyllideb honno, sef toriad…
27 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei sylwadau ynglŷn â sefyllfa deuluol y Gweinidog, a byddaf yn eu trosglwyddo iddi? Mae rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng…
26 Ebrill 2022 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheolau mewnfudo newydd ar gyfer pobl y mae'r rhyfel yn Wcráin yn effeithio arnynt. Bydd y rhain yn darparu caniatâd cyfyngedig i aros i bobl sy'n cael caniatâd i ddod i'r DU o Wcráin, a'r rhai a oedd yma…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel
Wel, Lywydd, fel mab, ŵyr a gor-ŵyr i löwr, mae'n fraint gennyf ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, a chredaf, ar y cyfan, ei bod wedi bod yn ddadl ragorol. Mae bron i 40 y cant o domenni glo segur y DU yng Nghymru—40 y cant—ac mae tomenni glo'n effeithio'n…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tomenni risg uchel
Yn ffurfiol.
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, mae Mabon ap Gwynfor yn gwneud nifer o bwyntiau teg yno, ac mae'n gwneud dwy feirniadaeth hanfodol nad yw'r system tai cymdeithasol wedi bwydo'r galw ers degawdau lawer, sy'n gywir, a bod tai'r sector preifat yn darparu gormod o'r un mathau o dai ac nad…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Gwnaethom ragori ar ein hymrwymiad tai blaenorol yng Nghymru ac rydym yn parhau i adeiladu ar hyn. Mae ein targed o 20,000 o gartrefi yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y cartrefi yn y sector cymdeithasol. Rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Na fyddwn.
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Bydd methiant Llywodraeth y DU i gamu i'r adwy yn ddinistriol i aelwydydd ledled y DU. Rydym wedi rhoi camau cyflym ar waith—gan ddyblu'r taliad tanwydd y gaeaf i £200 ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf, cyflwyno ad-daliad treth gyngor mwy hael na Llywodraeth…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Na, yn wir, tan yr wythnos diwethaf. Maddeuwch imi, Lywydd, rwy'n dal i glywed ei datganiadau o fuddiant yn fy mhen, felly maent wedi aros yno. Rydym wedi ariannu cynllun peilot tacsis gwyrdd yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Nghaerdydd i 'brofi cyn…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, fe wnaethom gyhoeddi cynllun gweithredu ym mis Hydref y llynedd, ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU, ddydd Gwener diwethaf, wedi cyhoeddi ei strategaeth hirddisgwyliedig ar gyfer gwefru cerbydau trydan o'r diwedd. Roedd honno'n gosod targed ar gyfer deg…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rydym yn buddsoddi mewn cyflwyno pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd i gefnogi'r newid i gerbydau trydan yn unol â'n strategaeth wefru cerbydau trydan. Rydym hefyd yn mapio cynlluniau gyda'r diwydiant i newid i fysiau dim allyriadau, treialu cynlluniau…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Wel, mwynheais yn fawr y ffordd yr ymlwybrodd yr Aelod ar hyd yr uwchbriffordd wybodaeth. Nid wyf yn siŵr a yw'n taro'r pwynt yn llwyr, serch hynny, ond rwy'n barod i edrych ar hynny, oherwydd yn amlwg, mae angen ei ddiweddaru. Ond fel y soniais yn fy ateb i…