19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
A gaf i ddiolch yn fawr i'r Aelod am gytuno, yn sicr, â rhai o'r cynigion, y tymhorau pedair blynedd, y gofyniad o ran preswylio hefyd a fydd yn cael ei gyflwyno gan y ddeddfwriaeth hon? Mewn ymateb i'w sylwadau ef am graffu ac yn y blaen, mater craffu a'r…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Rwy'n sicr yn credu bod hwn yn gyfle y mae'n rhaid i ni achub arno. Rwy'n edrych ymlaen i graffu ar y Bil gan Aelodau a chlywed safbwyntiau rhanddeiliaid, partneriaid cyflenwi a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Diolch yn fawr, Llywydd.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Rhaid inni achub ar y cyfle yma.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Mae cyfrifoldeb ar y Senedd i graffu ar wariant o fwy na £24 biliwn bob blwyddyn. Bydd yn cymryd gwelliant mewn gwerth o tua 0.07 y cant o'r gyllideb hon i wrthbwyso cost buddsoddi yng nghapasiti y Senedd—mae hynny'n llai na degfed ran o 1 y cant a ddaw o…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Y gwerth a'r pwys rŷm ni'n eu rhoi ar sefydliadau democrataidd a pha mor bwysig ydyn nhw i Gymru, nawr ac yn y dyfodol, ydy'r her. Mae hyn yn golygu'r gwerth rŷm ni'n ei roi ar y gallu i gynrychioli pawb yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau ar eu rhan…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu amcangyfrifon cost manwl sy'n nodi goblygiadau ariannol rhagamcanol y ddeddfwriaeth hon dros gyfnod o wyth mlynedd. O 2031 ymlaen, fe fydd y Bil yn golygu cost flynyddol a amcangyfrifir rhwng…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Wrth gwrs, dyw newid byth yn hawdd; does byth amser da i newid. Mae buddsoddi yn ein democratiaeth yn costio, ond bydd y gost tymor hir yn fwy os dydyn ni ddim yn manteisio ar y cyfle yma nawr.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Yng Nghymru rydyn ni'n gwerthfawrogi ein democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a'n hatebolrwydd i bobl Cymru, sy'n ein hethol ni. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n ceisio adnewyddu, gwella a moderneiddio ein democratiaeth trwy'r amser i'w gwneud yn addas ar…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Yng Nghymru rŷn ni'n rhoi gwerth ar ein democratiaeth a'r gyfraith i fod yn atebol i'r bobl sydd yn ein hethol ni. Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n mynd ati i wella a moderneiddio ein democratiaeth o hyd, fel hyn y bydd yn gallu ymateb i'r heriau sydd o'n…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd y deunawfed o fis Medi 1997 yn ddiwrnod hanesyddol a phwysig yn hanes Cymru, yn hanes y Cymry a'r genedl Gymreig. Oherwydd ar y diwrnod hwnnw fe wnaethom ni bleidleisio i fod â llais newydd i bobl Cymru a dwyn ein democratiaeth…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y sylw hwnnw. Rydych chi'n gwneud pwyntiau da, ac fe wnaethoch chi gyfeirio'n benodol, rwy'n credu, at yr adroddiad a gomisiynwyd gan Syr Keir Starmer. Ei adroddiad ef ydoedd, adroddiad Gordon Brown; roedd yn adroddiad yr oedd am ei gael. Mae'n un…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, rwy'n gobeithio y byddai unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU yn dilyn llwybr gwahanol ac y byddent yn cefnogi'r setliad datganoli a'r cydweithio rhynglywodraethol, yn hytrach na thanseilio'r cyfansoddiad ac undeb y Deyrnas Unedig.
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch yn fawr iawn, a diolch am yr eglurhad ar y pwyntiau a wnaed yn gynharach. Un o'r meysydd sy'n peri pryder, wrth gwrs, yw mai dim ond nawr y gwelwn beth o'r gwaith gan Brifysgol Caerdydd, a chael dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n gysylltiedig â…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddarparu data sydd wedi'i ddatgrynhoi. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'n gwaith ein hunain—yn fwyaf arbennig, fe gyhoeddasom ddangosfwrdd ar gyfiawnder ieuenctid ar 31…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, a gaf fi ddweud fy mod yn deall eich bod yn cynrychioli eich etholwyr, perchnogion safleoedd cartrefi symudol preswyl, ond rwy'n credu bod angen cyfeirio unrhyw gwestiwn ynglŷn â chynigion ar gyfer dyfodol cyfradd y comisiwn sy'n daladwy wrth werthu…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 yn rhagnodi uchafswm y comisiwn sy'n daladwy i berchennog y safle gan y meddiannydd newydd ar ôl gwerthu cartref symudol. Ar…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Cyn belled ag y gwn, nid oes unrhyw drafodaethau ar unrhyw fater clir yn ymwneud ag ailymuno. Pa bynnag farn bersonol sydd gennyf fi neu eraill, nid yw hynny ar yr agenda ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ar yr agenda, mewn gwirionedd, yw ceisio…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, beth—[Torri ar draws.]
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch i chi am eich cwestiwn atodol a hefyd, unwaith eto, diolch i chi ac i eraill yn y Siambr sydd wedi parhau â'r gwaith ar y corff dirprwyol sydd wedi'i sefydlu i gynnal rhyw fath o berthynas ar ôl inni orfod gadael Pwyllgor y Rhanbarthau. Rwy'n credu bod…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i berthynas hirsefydlog â phartneriaid yr UE, a hefyd i sicrhau'r manteision mwyaf posibl o'r cytundeb masnach a chydweithredu, a gefnogir trwy ein strategaeth ryngwladol…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch, rydych yn codi pwynt dilys iawn ac wrth gwrs, rwy'n credu bod y llys dan sylw yn eich etholaeth chi, felly mae'n fater o bryder nid yn unig yn ehangach, ond hefyd o ran eich cyfrifoldebau etholaethol. Fel y dywedwch, mae'n fater a gadwyd yn ôl, ond…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi trafod cyflwr ystad y llysoedd gyda'r Gweinidog cyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, yn ein cyfarfodydd rheolaidd ar sawl achlysur, ac rwyf wedi codi'r mater hwn yn ysgrifenedig gyda'r Arglwydd Ganghellor newydd. Rwy'n parhau i…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch unwaith eto am godi'r pwynt penodol hwn. Wrth gwrs, un o'r datblygiadau anffodus iawn dros y degawd diwethaf o ganlyniad i doriadau cymorth cyfreithiol ers Deddf 2013, diflaniad canolfannau'r gyfraith—canolfannau'r gyfraith a oedd mor bwysig mewn…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ers amser maith, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl hanfodol bwysig darparwyr cyngor cyfreithiol yn y trydydd sector a'r sector cyfreithiol yn cefnogi pobl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, fel y gwelir gan ein cronfa gynghori sengl…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, yn sicr nid yw fy safbwynt i, fy nadansoddiad i o'r hyn sydd wedi digwydd, yn newid. Wrth gwrs, mae yna Weinidog pensiynau newydd yr wrthblaid, rwy'n credu, yr Aelod Seneddol Gill Furniss. Rwy'n siŵr fod safbwynt Llywodraeth Cymru yn aros yr un fath—fod…