29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A gaf fi ddweud bod y pwyntiau rydych yn eu codi yn rhai pwysig iawn i'r trafodaethau sydd wedi digwydd, yn ddeddfwriaethol? I lawer o bobl, mae Bil cyfraith yr UE a ddargedwir Llywodraeth y DU yn swnio fel darn o ddeddfwriaeth dechnegol, ond mae'n llawer mwy…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae effaith bosibl y Bil ar safonau rheoleiddiol ac amddiffyniadau y mae pobl Cymru yn elwa ohonynt ar hyn o bryd, a hefyd ar y setliad datganoli a sefydlwyd yn ddemocrataidd, yn niweidiol iawn. Rydym…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wrth gwrs, rydych yn drysu dau faes yno: rôl y Cwnsler Cyffredinol, a rolau Gweinidog cyfiawnder wrth gwrs. Yn aml iawn, maent yn swyddogaethau ar wahân ac mae'r rheini'n amlwg yn bethau i'w hystyried. Nid oes amheuaeth y bydd datganoli cyfiawnder pellach yn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Mae gennym nifer o brosiectau'n cael eu sefydlu i feithrin ein dealltwriaeth o'r camau nesaf ymarferol tuag at ddatganoli'r swyddogaethau cyfiawnder y credwn fod yna bosibilrwydd da y cânt eu datblygu gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Byddaf yn diweddaru'r…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, diolch am y cwestiwn atodol. Byddwn yn gobeithio y bydd amserlen ar gyfer Papur Gwyn ar gael yn fuan. Yn amlwg, lle'r Prif Weinidog yw gwneud datganiadau ar gyhoeddi'r rhaglen ddeddfwriaethol. Wrth gwrs, yn y papur 'Sicrhau Cyfiawnder', rydym yn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel dywedais i yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, rŷn ni wedi derbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn eu hanfod, ac rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio. Byddwn ni'n cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf ac yn deddfu er mwyn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud wrth gwrs yw bod Barnett, er ei holl feiau, yn fformiwla ailddosbarthol, ac nid ydym eisiau cael gwared ar fformiwla ailddosbarthol; rydym eisiau fformiwla decach ac un sydd â chanllawiau a rheolau clir ar gyfer…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Rwy'n siŵr nad yw'n synnu fy nghlywed yn dweud hynny. Mae £5 biliwn yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2. Mae £1 biliwn arall yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i Northern Powerhouse Rail. Felly…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel rwy'n adleisio sylwadau Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd na ddylai Llywodraeth y DU ariannu Northern Powerhouse Rail yn yr un modd â HS2. Dylid categoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect i Loegr yn unig, gyda Chymru'n cael…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â hyn gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn gynharach. Darparodd Llywodraeth y DU y Bil drafft ar gyfer Llywodraeth Cymru ar 6 Mawrth 2023, y…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn yn ei gwrthwynebiad i'r Bil creulon ac anghyfiawn hwn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl lwybrau sydd ar gael i ni i wrthwynebu'r Bil hwn ac yn benodol yr effaith y bydd yn ei chael ar…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am hynny. Rydym i fod i gael rhyw fath o frêc Senedd mewn perthynas â confensiwn Sewel, ond nid yw'n frêc effeithiol iawn ac nid oes ganddo unrhyw statws barnadwy. Mae arnaf ofn mai dim ond drwy ymhelaethu, i ryw raddau, ar rai o'r pwyntiau a wneuthum…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A gaf fi ddweud bod y rhan fwyaf o'r trafodaethau sy'n digwydd mewn perthynas â'r agweddau masnach hynny'n drafodaethau sydd wedi digwydd gyda Gweinidog yr Economi? Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb cyffredinol ynghylch gweithrediad y fframweithiau. Ar hyn o…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, nid yw ein pryder mwyaf mewn perthynas â fframweithiau yn ymwneud â chytundeb Windsor mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod cytundeb Windsor yn rhywbeth rydym ni fel Llywodraeth yn ei groesawu. Rydym yn aros i weld sut yn union y bydd yn gweithredu, ond mae…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, fe wnaeth y Gweinidog iechyd ymateb i gwestiynau tebyg a ofynnwyd ddoe. Esboniodd y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud, a'r sail y gwnaed y penderfyniadau hynny arni. Mae'r rheini'n faterion i'r Gweinidog iechyd, a dylid eu cyfeirio at y Gweinidog…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A gaf fi ddweud y dylai cwestiynau am benderfyniadau a wneir gan y Gweinidog iechyd mewn perthynas â'i swyddogaethau fel Gweinidog gael eu cyfeirio'n briodol at y Gweinidog hwnnw yn hytrach nag ataf fi?
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch. Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mae'n debyg mai'r peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw, tra bo'r drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi datblygu'n dda yng Nghymru a'r Alban dros y ddau ddegawd diwethaf, ac yn wir yng Ngogledd…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Y gwir amdani yw wrth gwrs y bydd o—o, mae'n ddrwg gennyf. Credaf fod gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn, ac fe fydd, yn gyfraniad hanfodol i'r trafodaethau sydd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru ac ar draws…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Yn gyntaf, a gaf fi gydnabod y gefnogaeth aruthrol a roddwyd gan y gymuned leol, yn y digwyddiadau y cyfeiriwch atynt ym Mro Morgannwg, wrth wrthwynebu'r unigolion asgell dde eithafol hynny—y bobl hiliol a ddaeth yno? Fe wnaeth safbwynt y clwb pêl-droed lleol…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar hiliaeth, fel y dangosir drwy ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sydd â'r nod o adeiladu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Nid oes lle yng Nghymru i hiliaeth na chasineb a rhagfarn…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Dim ond ambell sylw sydd gen i wrth gloi. Mae'r pwyntiau a wneir o ran yr amgylchedd morol yn rhai dilys. Credaf mai'r broblem oedd, gyda'r amgylchedd morol, bod sawl agwedd iddo. Nid llongddrylliadau yn unig sy'n bwysig; mae'n amrywio o dirluniau…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Yn ei adroddiad a oedd i'w groesawu, ar ôl ystyriaeth fanwl, argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylai'r Bil fynd ymlaen i'r Cyfnod Terfynol. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, holl aelodau'r pwyllgor a staff y pwyllgor am…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Diolch, Llywydd. Heddiw, ar ôl naw mis o graffu, mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn dychwelyd i'r Senedd i gael ei ystyried am y tro olaf. Pan gyflwynais i'r Bil, fis Gorffennaf diwethaf, tynnais sylw at ei bwysigrwydd hanesyddol fel y Bil cydgrynhoi…
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Felly, rwy'n gofyn i Aelodau atal cydsyniad i'r Bil hwn. Diolch.
28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Yn anffodus, pa bynnag newidadau rydym ni wedi gofyn amdanyn nhw hyd yma, does dim arwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn agored i wneud newidadau sylweddol. Heb newid cyfeiriad yn llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gallaf i ddim gweld unrhyw…