23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Economi Cymru: Problemau strwythurol a'u cywiro
O ran cynnyrch domestig gros, nid ydym yn cael amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Cymru ar hyn o bryd; maent wedi cael eu hoedi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ers dros flwyddyn bellach. Felly, daw'r data diweddaraf sydd gennym o fis Ebrill eleni, sy'n dangos…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Economi Cymru: Problemau strwythurol a'u cywiro
Diolch, a diolch hefyd i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon heddiw, ond hefyd am y darnau sy'n ysgogi'r meddwl y mae'n eu cynhyrchu'n rheolaidd hefyd. A diolch i Tom am ei gyfraniad mewn perthynas â chynllunio. Wrth gwrs, mae'r economi yn cyffwrdd…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Diolch i Alun Davies. Rwy'n hapus iawn i dderbyn ei wahoddiad caredig i ymweld â Blaenau Gwent. Gwn fod fy rhagflaenydd hefyd wedi cael taith ddiddorol iawn o amgylch rhai o'r uchafbwyntiau mewn perthynas â buddsoddiad Llywodraeth Cymru a'r cyfle i siarad am…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel prifddinas-ranbarth Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a busnesau allweddol i sicrhau ffyniant a manteision twf economaidd i bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent.
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
O ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru ei hun, fe welwch hwnnw yn y sector ynni adnewyddadwy. Fe'i gwelwch drwy Trydan Gwyrdd Cymru a'r pum prosiect yr ydym yn ceisio eu datblygu yno. Fe'i gwelwch yn ein cefnogaeth ehangach drwy Ynni Cymru i ragor o ffynonellau…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae'r cyfrifoldeb am ddangos bod achosion busnes dal a storio carbon yn gwneud y cyfraniad angenrheidiol at ddatgarboneiddio hirdymor ac adeiladu economi gryfach, wyrddach yn dibynnu'n llwyr ar y datblygwr. Er mwyn cael y cydsyniadau angenrheidiol, rhaid i…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn ac am y gwaith y mae John Griffiths yn ei wneud yn y maes hwn. Credaf fod budd net i bolisi bioamrywiaeth yn bwysig iawn yn y gofod hwn, a gobeithio y bydd hynny'n ceisio lliniaru o leiaf rai o'r effeithiau cronnus hynny…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae cyd-Aelodau'n gwybod na allaf wneud sylw ar unrhyw gynllun penodol am y bydd y rhan fwyaf o brosiectau solar mawr yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru, ond mae gennym bolisi cynllunio cynhwysfawr a chyfredol sy'n…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Y peth cyntaf i'w nodi yw pwysigrwydd gwastadeddau Gwent. Rwy'n credu bod y pwysigrwydd yn cael ei adlewyrchu'n gadarn ym mholisi 'Cymru'r Dyfodol' 9 drwy gael ei dynodi'n ardal adnoddau naturiol cenedlaethol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer ystyried ffermydd solar mawr wedi'u cynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Cymru'r Dyfodol'.
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Byddwn yn gwneud y pwyntiau pwysig hynny yn ein trafodaethau gyda HyNet a hefyd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â phwysigrwydd ymgynghori â barn trigolion yr ardal a rhoi ystyriaeth briodol iddi, ac ynglŷn â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i'r ardal drwy…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac fel y dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol, rydym yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd ac amrywiaeth o sefydliadau eraill wedi dweud y bydd dal a storio carbon o reidrwydd yn rhan o'n taith…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn ymgynghori ar safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg dal a storio carbon, ond rydym yn canolbwyntio ar ble y gall wneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaus at…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol a gweinidogol i sicrhau bod prosiectau dal carbon arfaethedig ledled Cymru yn destun rheolaethau rheoleiddiol cadarn, yn hwyluso datgarboneiddio hirdymor ac yn…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd prentisiaethau, ac yn gwneud buddsoddiad sylweddol iawn yn ein rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Medr yn arwain ar hyn bellach, ac mae Jack Sargeant yn…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Gwnaf. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi sut rydym yn defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym i leihau'r bwlch sgiliau a chefnogi swyddi gwell, gyda'n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Mae hyn yn cynnwys…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac mewn gwirionedd, amser cinio heddiw, roeddwn mewn cyfarfod bwrdd crwn gyda chylchgrawn Building, a daethant â nifer o gynrychiolwyr y diwydiant adeiladu o amgylch y bwrdd yng Nghymru i drafod rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn y prynhawn yma ac am dynnu sylw at bwysigrwydd creu lleoedd mewn perthynas â chanol ein trefi a'n dinasoedd. Ac mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflawni ar y cyd ac yn unol â'n…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae'r llawlyfr cynlluniau datblygu yn rhoi cyngor manwl ar sut i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae'n seiliedig ar arferion gorau ac yn nodi'r materion allweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy a lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni CDLl…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Diolch. Rwy'n dod i ben. Felly, ein safbwynt polisi yw mynd ati i leihau cyfran yr agregau sylfaenol a ddefnyddir o gymharu â deunydd eilaidd, deunydd ailgylchu neu ddeunydd gwastraff, ac rydym yn parhau i wneud cynnydd yn hynny o beth. Yna, yn olaf, mae…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Fel y dywedais yn fy ymateb i Hefin David, os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i ni adolygu'r pethau hyn, byddwn yn gwneud hynny. Felly, fel y dywedais, byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r holl gyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma ac yn archwilio…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Fe archwiliaf y materion a godwyd yn y Siambr y prynhawn yma gyda swyddogion, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r polisi neu'r cyngor hwnnw'n gyfredol mwyach, byddwn yn sicr yn ystyried adolygu'r canllawiau hynny. Ac unwaith eto, ni fyddai'r math hwnnw…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Gwnaf.
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol heddiw a'r holl gyd-Aelodau am y gyfres ddiffuant iawn o gyfraniadau a gawsom y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau ar yr un mater, ac rwyf wedi ymateb…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau hynny hefyd, a dim ond i ailadrodd o ran Ystad y Goron fy mod i'n credu ein bod ni yn yr un lle, ac mewn gwirionedd fe wnaeth y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru argymell hefyd y dylai gael ei ddatganoli…