9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r blaenoriaethau ar gyfer gofal plant yn eglur. Fe fydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynnig gofal plant cyffredinol trawsnewidiol, a fydd, ar ôl ei gyflwyniad yn llawn, yn gynnig gofal plant mwyaf hael drwy'r DU. Er bod y diffyg gweithredu gan…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n credu mai newid strwythurol o'r math hwnnw a fydd yn cyflawni'r gwelliannau y mae pobl yr hen Went yn dymuno eu gweld o ran darpariaeth gofal brys. Rydym ni'n cydnabod bod perfformiad adran achosion brys y Faenor, er enghraifft, yn dal i fod dan…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe fyddwn ni'n cefnogi Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan i wella canlyniadau i bobl sydd ag angen gofal brys drwy rymuso gofal brys, sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol. Fe fydd y dull system gyfan hwn yn gwella llif cleifion, yn cefnogi pobl ag…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n gwahodd yr Aelod i ysgrifennu os oes yna fater penodol y byddai hi'n awyddus i'w drafod. Dim ond yn gyffredinol yr wyf i'n gallu siarad. Rydym ni'n awyddus i weithwyr, boed hynny mewn gofal iechyd neu unrhyw faes arall o wasanaeth cyhoeddus, deimlo yn…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw bod gweithwyr yn gallu codi pryderon heb anfantais iddyn nhw. O fewn ein cyfrifoldebau datganoledig ni, mae'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yn disgwyl i sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus fod â…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae yna ddigonedd o gyfleoedd, wrth gwrs, sy'n bwysig i ymgyrchwyr gwrdd â'u cynrychiolwyr nhw, a hynny'n gwbl briodol. Ond rwy'n dod yn ôl at y pwynt a wnes i ar ddechrau ateb yn gynharach: Llywodraeth yw hon sy'n cydnabod pwysigrwydd gwrando ar gymunedau…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cydweithredu â'r awdurdodau lleol yn allweddol ac a gaf i longyfarch yr Aelod am y safiad a gymerodd hi ar ran etholwyr y mae hi'n eu cynrychioli yn Wrecsam? Rwyf i wedi gofyn i swyddogion nodi dewisiadau ar gyfer cynyddu ymgysylltiad cymunedol gyda…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cynllunio yw'r conglfaen ar gyfer sicrhau bod y math cywir o ddatblygiad yn digwydd yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy, sydd o fantais wirioneddol i'n cymunedau ni. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan hanfodol o'r broses gynllunio. Rwy'n ystyried sut y gellir…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel rwy'n dweud, yr hyn sydd gennym ni nawr yw'r ddeddfwriaeth honno sy'n ffres tu hwnt ond sy'n caniatáu i ni symud ymlaen nawr. Rwyf i wedi sôn am ein parodrwydd ni i ystyried camau gorfodi lle nad oes camau yn cael eu cymryd. Ond gan adeiladu ar y…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn un o aelodau etholaeth yng Nghaerdydd ac yn gyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, lle mae llawer iawn o'r adeiladau yma, wrth gwrs, felly dwi'n deall yr ymwneud y mae o wedi'i gael ar y mater yma.
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gywir nad yw geiriau teg yn ddigonol erbyn hyn. Rwy'n deall yn iawn fod angen mwy nag ystyriaethau a geiriau teg a phethau o'r fath. Maen nhw'n daer am weithredu, ac fe fydd y Llywodraeth hon, fel rwy'n dweud, yn gwneud popeth yn ein gallu i…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth i ni nesáu, fel rwy'n dweud, at naw mlynedd ers trychineb ofnadwy, ofnadwy Tŵr Grenfell, rydym ni'n myfyrio ar y ffaith fod pobl, ers naw mlynedd, wedi byw mewn ofn y gallai hynny ddigwydd iddyn nhw, a chyda'r pryder gwirioneddol o fod yn lesddeiliad a'r…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n gweithio yn gyflym i ddatblygu rheoliadau o dan y Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 i sicrhau bod leaseholders yn cael eu gwarchod. Hyd yma, mae'r warchodaeth wedi bod ar gael yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Wrth i ni agosáu at nawfed…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae'n gyson. Mae hon yn Llywodraeth sydd wir yn deall yr angen i fod â dull o ymdrin ag ynni sy'n cydnabod y rhan y mae cymunedau yn ei chwarae a'r amddiffyniadau y mae cymunedau eu heisiau ac yn eu haeddu. Mae'r Aelod yn dweud, 'Peidiwch â chyflwyno…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd angen buddsoddiad sylweddol ar Gymru yn ein seilwaith ynni i ddiwallu anghenion cynyddol gan ddiwydiant, busnesau a chartrefi ledled Cymru. Bydd ein strategaeth ynni genedlaethol yn nodi sut y bydd Cymru yn diwallu ein hanghenion ynni mewn ffordd…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dangosodd yr Aelod yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar fod hwn yn faes blaenoriaeth iddo, ac rwy'n gobeithio ei fod yn gweld ei fod yn rhywbeth yr ydym ni'n awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef yn gyflym, ac i weithio mewn partneriaeth ag ef hefyd. Mae rhent…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Rydyn ni yn y Llywodraeth hon wedi ceisio dangos ein penderfyniad gwirioneddol i wneud newid sylweddol o ran polisi tai. Mae hynny'n sicr yn cynnwys adeiladu ar ein hymrwymiad i ehangu dulliau tai yn gyntaf i fynd i'r afael â…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae casglu data a pholisi sy'n seiliedig ar ddata yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn awyddus iawn i'w harchwilio. Rwy'n croesawu'r addewid i weithio ar sail drawsbleidiol ar hyn a mesurau eraill ar ddigartrefedd a chyn-filwyr. Pan fo gennym ni gyfamodau…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod wedi siarad yn agored am ei phrofiadau ei hun, ac, os caf i ddweud, mae hi wedi siarad yn rymus iawn am ei phrofiad ei hun. Fel yr ydym ni'n ei weld yn ei ychydig wythnosau yma yn y Senedd, nid oes amheuaeth y bydd yn eiriolwr cryf dros bobl ifanc…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi ymrwymo i gyflwyno ac ymwreiddio dull sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n canolbwyntio ar unigolion o fynd i'r afael â digartrefedd ieuenctid ledled Cymru ac yn etholaeth yr Aelod, Caerdydd Ffynnon Taf. Byddwn yn sicrhau bod deddfwriaeth…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol yma yw fy mod i'n cytuno ag ef am effaith newid hinsawdd ar ffyrdd. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod ein hasedau a'n seilwaith fel cenedl o dan straen cynyddol oherwydd newid hinsawdd…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r geiriau 'tyllau yn y ffyrdd' eisoes wedi cael eu crybwyll gan fy Ngweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, bydd yr Aelod yn falch o glywed, oherwydd mae ansawdd ein ffyrdd yn bwysig iawn. Nid oes un cronfa, wrth gwrs, o gyllid ffyrdd…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae buddsoddiad mewn seilwaith ffyrdd yn parhau ar draws Gŵyr Abertawe, gan gynnwys cynnydd ar welliannau i gyffyrdd 45 i 46 yr M4 yn rhan o'n rhaglen adnewyddu asedau. Fe wnaeth ein cytundeb cyllideb diweddar £8.6 miliwn ychwanegol i Abertawe, gan gynyddu ei…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n rhaid bod yr Aelod wedi camgymryd. Nid wyf i erioed wedi bod yn Llywodraeth Cymru o'r blaen, ond rwy'n ail-bwysleisio fy mhenderfyniad i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw o ddiwygio ardrethi busnes, fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith.
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n awyddus iawn, iawn i fwrw ymlaen ar frys ar hyn. Dyna pam wnaethom ni gynnwys yn ein cynllun 100 diwrnod cyntaf sefydlu'r tasglu canol trefi. Mae hynny'n digwydd, a rhan fawr o waith y tasglu hwnnw yw edrych wedyn ar sut y gallwn ni adolygu…