2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni'n bwrw ymlaen â chynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol allweddol y Cenhedloedd Unedig, sy'n cynnwys confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, yng nghyfraith Cymru. Bydd hyn yn datblygu hawliau ac amddiffyniadau presennol, ac…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn crybwyll llawer o bethau yr wyf i'n wir yn cytuno â nhw, fel rôl y dafarn gymunedol fel trydydd man, fel y cafodd ei ddisgrifio i mi yn ddiweddar. Mae gennych chi gartref, mae gennych chi'r gweithle neu'r ysgol, efallai, ac yna mae gennych…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd ein maniffesto yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau penodol i helpu i adfywio canol ein trefi, gan gynnwys diwygio'r system ardrethi annomestig. Byddwn ni'n archwilio sut i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ni i gefnogi sector lletygarwch llewyrchus…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae llywodraeth leol yn bartner allweddol, fel y gŵyr yr Aelod, wrth ddarparu gofal. Roedd yn un o'r rhesymau pam y gwnaethon ni sicrhau, trwy'r cytundeb ar y gyllideb ar gyfer 2026-27, fod y sylfeini cadarnaf posibl yn cael eu gosod ar gyfer llywodraeth…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n benderfynol ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud i ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol mwy cydgysylltiedig, i leihau darnio ac i wella profiad y claf. Mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn, bob amser, i sicrhau cysondeb gofal ym mhob rhan o…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni'n ysgogi newid ar draws maes gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â phwysau a gwella mynediad at gymorth. Byddwn ni'n symud gofal yn agosach at adref, gan helpu pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. Byddwn ni'n gwella gweithio cydgysylltiedig, yn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dyma'r cyfle cyntaf i ni fod â Llywodraeth Plaid Cymru, y cyfle cyntaf i ni roi ein hegwyddorion ar waith yn y Llywodraeth. Mae ymdrechu am y lefel uchaf bosibl o safonau addysg yn egwyddor graidd, yn ogystal ag yn bolisi, i fy mhlaid a'r Llywodraeth rwy'n ei…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gan yr Aelod fwy o wybodaeth na'r mwyafrif, o'i swydd flaenorol, am yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu ym maes addysg. Mae'n bwysig nodi, wrth gwrs, bod yr arian yn Lloegr er mwyn clirio dyledion hanesyddol. Nawr, nid fy lle i yw canmol y cyn-Weinidog…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi defnyddio'r gair 'cenhadaeth'. Mae hon yn genhadaeth bersonol i ni—mae'n genhadaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi bod yn eglur bod addysg a safonau yn ein hysgolion yn flaenoriaeth bendant i Lywodraeth Plaid Cymru. Rydyn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae addysg yn ganolog i'n huchelgais ar gyfer Cymru, gan ddatgloi cyfleoedd i bob plentyn a helpu i greu cenedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol. Dyna pam mae codi safonau ym mhob ysgol yn genhadaeth graidd i'r Llywodraeth hon. Trwy ein cynllun…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch bod yr Aelod wedi mwynhau fy nghanu ym 1983. Pe bai'r camerâu wedi bod yn dilyn fy arddegau cyfan, bydden nhw wedi fy ngweld i'n astudio ffiseg ar gyfer TGAU a ffiseg ar gyfer Safon Uwch hefyd. Rwy'n cefnogi'r egwyddor o allu addysgu'r tair…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ym mis Medi 2025 y byddai cymwysterau TGAU ar wahân mewn ffiseg, cemeg a bioleg yn parhau i fod ar gael.
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn bod fy mhlaid yn benderfynol o gyflwyno dull newydd. Fe wnaf i ei esbonio mor syml â hyn: mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar y wyddoniaeth. Byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'r arbenigwyr hynny bellach sy'n gallu rhoi'r…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddelio â chanlyniadau ein gorffennol diwydiannol a sicrhau cyfiawnder i'n cymunedau meysydd glo. Fe wnes i ymweld â Chwmtyleri fy hun ar ôl y tirlithriad diweddar hwnnw, a wnaeth wir ail-bwysleisio’r…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno'n fawr â'r teimladau a fynegwyd yn y fan yna, ac mae yn nheitl y Gweinidog: mae Gweinidog Cabinet dros effeithiolrwydd Llywodraeth yn golygu'n union hynny. Mae'n fater o wneud yn siŵr ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gallu chwalu'r seilos hynny ac…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ar draws ein holl ymrwymiadau, bydd y Llywodraeth hon yn mesur cynnydd trwy ddull eglur, wedi'i arwain gan ddata a disgybledig, gan olrhain yr hyn sy'n newid ar lawr gwlad mewn gwirionedd fel y gallwn ni weld beth sy'n gweithio. Mae gan y Cabinet gyfrifoldeb…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n gwestiwn hir iawn, ond ag ateb byr iawn. Mae twneli Bryn-glas yn dagfa adnabyddus ac yn gyfyngiad economaidd i Gymru, ac mae'n amlwg bod angen gweithredu i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4. Gwastraffwyd arian, mae'n rhaid i mi ddweud, wrth gyrraedd…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl weld pwy sydd wedi bod yn ymladd ers amser maith dros y mater penodol hwnnw, ac yn sicr nid wyf i'n bwriadu aros tan 12 Mehefin. Mae pobl Ynys Môn wedi cael eu siomi ers amser rhy faith o ran gwydnwch croesfannau afon…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n atgoffa arweinydd y grŵp Llafur fod ei blaid yn arfer dweud ei bod yn cefnogi'r dyn a'r fenyw gyffredin sy'n gweithio. Mae fy safbwynt i ar Wylfa yn eglur iawn, iawn. Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac roedd y maniffesto yn dod i mewn i'r etholiad hwn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ydw, rwyf i, ar lefel bersonol, wedi mabwysiadu'r dull erioed o ymladd dros y manteision economaidd sy'n dod i'r rhan benodol honno o Gymru o'r datblygiad hwnnw, sy'n fater a gedwir yn ôl. Ond y peth allweddol yma yw y bydd fy Ngweinidog Cabinet dros ynni yn…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n mynd i fod yn dymor Senedd hir iawn os yw'n dechrau fel hyn, ein bod ni wedi cael canran benodol yn fwy na chi yn yr etholiad. Gwrandewch, mae gennym ni raglen lywodraethu yr ydym ni wedi ei gosod gerbron pobl Cymru sy'n sicr yn mynd i'r afael â…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i ddechrau'r ateb hwn yn yr ysbryd yr wyf i eisiau cyflawni fy musnes yma, drwy nodi bod mwy o bobl wedi pleidleisio dros Blaid Cymru oherwydd eu bod nhw'n ymddiried yn ein haddewidion ni i ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy ar gyfer y…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am gytuno â ni bellach bod iechyd yn flaenoriaeth yma yng Nghymru. Gwrandewch, rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur iawn, iawn bod dwy elfen i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Rydyn ni eisiau lleihau rhestrau aros yn y…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cost gynyddol biliau yn y cyfnod diweddar wedi achosi poen gwirioneddol i bobl. Mae'n elfen, elfen sylweddol, i lawer o bobl pan ddaw i heriau costau byw. Pan edrychwch chi ar filiau uwch, mae'n arbennig o anodd ei stumogi yng nghyd-destun cyflog uchel…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf i'w wneud yw ailadrodd yr hyn a ddywedais: byddwn ni'n gweithredu trwy dargedu gwaith atal a gorfodi lle mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn angenrheidiol—mae hynny'n golygu mewn perthynas ag afonydd llygredig, ac mae'n golygu…