29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi clywed dro ar ôl tro am ymyrraeth Putin o fewn democratiaethau gorllewinol ac etholiadau gorllewinol. Ai dyma'r amser mewn gwirionedd i danseilio rheoleiddiwr annibynnol etholiadau yma yn y Deyrnas Unedig? Erbyn hyn…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau
Llywodraeth sydd ddim hyd yn oed yn gwrando ar arbenigwyr fel y Comisiwn Etholiadol. Ond—ac mae yna 'ond'—rwy'n anghyfforddus iawn gyda'r syniad ein bod ni fan hyn yn y Senedd yn cael ein gofyn i roi cydsyniad i siẁt Fil—Bil a fydd, trwy'r system ddrud o ID…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau
Cwnsler Cyffredinol, hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi a Llywodraeth Cymru ar y consesiynau yr ydych wedi'u cael gan Lywodraeth San Steffan o ran y Bil hwn? Mae'n rhaid ei bod y nesaf beth i amhosibl ceisio gweithio gyda'r Llywodraeth…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Yn hytrach na defnyddio cynllun ombwdsmon Lloegr, dylem ni fod wedi defnyddio'r tribiwnlysoedd sydd eisoes yng Nghymru. Gallai tribiwnlys eiddo preswyl Cymru fod wedi cael ei ailenwi'n dribiwnlys tai Cymru yn hawdd. Yn hytrach, er hynny, na defnyddio system…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Nid yw'r broses yn gwneud dim i symleiddio ein setliad datganoledig na'n system gyfreithiol, system a setliad a wnaeth i hyd yn oed y cyn-Brif Arglwydd Ustus Thomas o Gwmgïedd, un o gyfreithwyr mwyaf dawnus ein hoes ni, ddweud ei bod bron â bod yn amhosibl…
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Bydd Aelodau wedi fy nghlywed i sawl gwaith yn pwysleisio fy mhryderon ynghylch y ffordd y mae'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei defnyddio yn y lle hwn.
29 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
Dwi'n croesawu sylwadau'r Dirprwy Weinidog, wrth gwrs—yn croesawu unrhyw ymgais i gryfhau hawliau pobl sy'n byw mewn fflatiau sy'n anniogel—ond dwi ddim yn derbyn y ddadl, Dirprwy Weinidog, fod defnyddio proses yr LCM yn gynt na chael Deddf ein hunain fan hyn…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
Yn sicr, cytuno, Sam, 100 y cant gyda ti. Caeodd y drysau'n llwyr ddwy flynedd yn ôl, ac i nifer am y tro olaf. Gallaf feddwl am dair enghraifft yng Nghwm Cynon: Siloa Aberdâr, y man lle cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus tanllyd i ymateb i frad y llyfrau…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
Wrth gwrs.
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
Ddwy flynedd yn ôl, fe gaewyd drysau holl fannau—
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
Mae addoldai wedi gwneud cyfraniad anfesuradwy i fywyd Cymru: maent wedi dysgu miloedd o blant i ddarllen ac ysgrifennu; roeddent yn meithrin yr ymdeimlad cryfaf posibl o gymuned; roeddent yn darparu llwyfan hanfodol ar gyfer diwylliant Cymru; roeddent yn aml…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
Wel, dwi'n cytuno, i raddau, gyda Huw T. Edwards. Mae angen eu defnyddio nhw mewn ffordd llawer mwy effeithiol. Ond cytunaf hefyd gyda'r Huw Edwards arall, a pha ddadl ar gapeli allem ni ei chael heb Huw Edwards y BBC? Huw Edwards yn dweud hyn:
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
'Rwyf am weld o leiaf 75 y cant o'r addoldai yng Nghymru yn cael eu tynnu i lawr neu eu defnyddio mewn ffordd fwy effeithiol.'
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol
Diolch yn fawr i fy nghyfaill Mike Hedges am ddod â'r ddadl yma. Ble arall yn y byd fyddem ni'n cael dadl fel hon? Wel, efallai yng nghynulliad talaith Chubut, o bosib. Mae'n hyfryd, onid yw e? Mae'n quintessentially Welsh i gael dadl fel hyn ar gapeli Cymru…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch yn fawr, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â chanolfan newydd Spark ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n annog pob Aelod i ymweld â'r ganolfan ymchwil newydd honno. Fe wnaethant bwysleisio i mi, cyn Brexit, faint o arian a dderbynient gan yr…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled yn economaidd oherwydd cronfa codi'r gwastad? OQ57823
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Mae ein pwynt rhinwedd olaf, Weinidog—ac fel dywedais i, doedd dim angen ymateb i'r pwynt yma—yn nodi, yn syml, y bydd y cynllun a bennir yn y rheoliadau yn debygol o arwain at gynnydd yn refeniw yr awdurdodau bilio trwy ddarparu gwasanaethau sy’n dod o dan…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Gan ystyried y nifer uchel iawn o ymatebion i'r ymgynghoriad a'r ffaith—prin ei bod yn syndod mae'n debyg—nad oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion hynny'n cefnogi'r cynnig i gynyddu disgresiwn y gyfradd ganrannol, nid oeddem yn glir pam y mabwysiadwyd y dull…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Mae ein hail bwynt rhinwedd yn tynnu sylw at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r rheoliadau, ac, yn benodol, at y modd y mae’r memorandwm esboniadol yn ymdrin â’r ymgynghoriad hwn.
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Nododd ein pwynt rhinweddau cyntaf fod y cynnydd sylweddol yn nisgresiwn yr awdurdod sy'n codi tâl, o 100 y cant i 300 y cant, yn ymddangos fel pe bai'n ymgysylltu ag erthygl 1 o brotocol cyntaf y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Er cydnabyddir a…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Dwi'n hapus iawn i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac yn dymuno'n dda i'n Cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ar yr achlysur hapus o raddio ei fab, wedi cael ei ohirio…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dangosodd y gwaith ymchwil diweddar gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 87 y cant i gyfradd y plant mewn gofal rhwng 2004 a 2020. A'r hyn sy'n fy synnu i yw'r amrywiad…
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Dwi'n gwybod bod hwn yn rhywbeth sy'n agos iawn i'ch calon chi, a'ch bod chi wedi bod yn gweithio i drio ffeindio mas beth yw'r broblem.
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y plant mewn gofal yng Nghymru? OQ57822
16 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch yn fawr, Gwnsler. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o natur y proffesiwn yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae gennym weithwyr ac ymarferwyr cyfraith proffesiynol sy'n heneiddio. Mewn ardaloedd fel Canolbarth a Gorllewin…