8 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cysylltiad rhwng y ddadl yma a’r un wnes i gyflwyno yn gynharach ar yr hawl i gartref, er efallai nad ydy hynny yn amlwg ar yr olwg gyntaf, ond mae’r ddau fater yn ymwneud efo atebion—atebion sydd angen eu rhoi ar waith yn syth er…
8 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar yr hawl i dai digonol
Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Diolch i John Griffiths am sôn am waith pwysig y pwyllgor tai a llywodraeth leol ar hyd y blynyddoedd, a diolch i Mark Isherwood am ddatgan cefnogaeth y Torïaid i greu’r hawl. Dadl at ryw ddiwrnod…
8 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar yr hawl i dai digonol
Diolch yn fawr. Does yna ddim dwywaith bod yr argyfwng tai yn gwaethygu, a dim arwydd fod pethau'n gwella. Efallai fod y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr heddiw yn ddigon ffodus i berchen ein cartrefi ein hunain, i gael to uwch ein pennau ni, a bod ein…
8 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Hoffwn i dynnu sylw'r Senedd at grŵp cymorth hanfodol yng Nghaernarfon, y grŵp cyntaf o'i fath yng Nghymru, sy'n cynnig cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i rieni sy'n dioddef problemau iechyd meddwl cyn ac ar ôl genedigaeth. Mae'r grŵp yma wedi cael ei…
13 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Ddoe, wrth drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg a'i rôl hi mewn datblygu polisi, fe wnes i grybwyll pwysigrwydd sicrhau nad yw un agwedd o waith polisi'r Llywodraeth yn tanseilio gwaith polisi arall. Un arall o'r meysydd lle mae potensial am…
13 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
7. Ydy'r Llywodraeth yn bwriadu diweddaru Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 i ymgorffori ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn dilyn argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg? OQ61833
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24
Wrth ddiolch am yr adroddiad, dwi eisiau codi dau fater, os gwelwch yn dda. Amcan 2 y comisiynydd ydy sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn polisi a deddfwriaeth, ac rydych chi wedi sôn am hynny. Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, dan gadeiryddiaeth…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Diogelwch adeiladau
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad heddiw ar ddiogelwch adeiladau, testun sy'n cario pwysigrwydd ac arwyddocâd enfawr, yn enwedig yng ngoleuni'r gwersi trasig a ddysgwyd o'r tân yn Nhŵr Grenfell. Mae'n hanfodol…
11 Tachwedd 2024 , Legislation, Justice and Constitution Committee
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Byddwn i'n cytuno efo hynny. Dwi'n credu ein bod ni eisiau bod yn hollol glir bod y mesurau gorfodaeth ddim yn cymryd lle'r sancsiwn troseddol o'r cychwyn, ac os ydyn nhw, dwi'n siŵr bydd awdurdodau lleol—. Mae'r memorandwm esboniadol yn dadlau y bydd yr…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Gennych chi mae’r grym i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus. A wnewch chi wneud hynny, os gwelwch chi’n dda?
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Dwi wedi cael gwybod am bryderon gan etholwyr ynglŷn â’r broses gyfathrebu ar gyfer rhieni a phobl ifanc sy’n dymuno rhannu gwybodaeth efo bwrdd diogelu gogledd Cymru fel rhan o’r adolygiad ymarfer plant rydych chi’n sôn amdano fo, yn dilyn euogfarn y…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ymateb y Llywodraeth yn sgil euogfarn Neil Foden? OQ61812
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr chwaraeon (9)
Yn dilyn ymlaen o'r pwynt yna, wrth gwrs, oes yna waith penodol yn cael ei wneud i weithio yn erbyn effaith y gostyngiad mewn cyllid ar bobl mewn grwpiau penodol, yn cynnwys pobl o statws economaidd-gymdeithasol is? Rydych chi wedi sôn rhywfaint am hynna. Er…
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr chwaraeon (9)
[Anghlywadwy.]—ar y pwynt yna, a dweud y gwir. Ydych chi'n fy nghlywed i rŵan?
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr chwaraeon (9)
I was talking more, actually, about collaboration in terms of the finance—the financial aspects. It's great to hear that there's collaboration going on around swimming, and it's concerning to hear about the coastal areas, but, of course, they are large rural…
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr chwaraeon (9)
Diolch yn fawr. Mae’n bryderus iawn clywed rai o’ch sylwadau chi y bore yma am effaith y toriadau, ac mae'r ffaith yma am hanner plant Cymru ddim yn cael gwersi nofio wedi fy nhrawo i fel un syfrdanol, a dweud y gwir, a sefyllfa ddifrifol. Tra’n cydymdeimlo…
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol (8)
Fe wnaf i ddechrau eto. Rhan o'r agenda ataliol, wrth gwrs, ydy cynhwysiant, achos mae'r cynhwysiant cymdeithasol yna yn gallu atal problemau i rai o'r grwpiau mwyaf bregus a phobl mewn cymunedau difreintiedig. Ydy cyfranogiad yn fwy ynteu'n llai cynhwysol…
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol (8)
Diolch yn fawr. Sut mae gostyngiadau mewn cyllid yn effeithio ar allu diwylliant a chwaraeon i gyfrannu ar draws y gwahanol feysydd polisi? Hynny yw, sut mae llai o bres yn golygu nad ydych chi ddim, efallai, yn gallu cyfrannu i'r agenda ataliol yn y ffordd y…
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol (8)
Os oes gyda chi unrhyw ddata penodol, byddai hynny'n ddefnyddiol, dwi'n meddwl, neu unrhyw un—.
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol (8)
Diolch yn fawr. Sut mae cynulleidfaoedd ar gyfer digwyddiadau celfyddydol erbyn hyn? Hynny yw, roedd yna ostyngiad mawr yn ystod y cyfnod clo, wrth gwrs, ac mae wedi bod yn araf yn codi yn ôl, o beth dwi'n deall. Oes yna ddata diweddar i ddangos y lefelau…
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol (8)
Ie, jest yn dilyn o hynny, felly, ai'r ateb ydy cydnabod rôl bwysig y celfyddydau a chwaraeon ac ati yn yr agenda ataliol, ac, felly, gwneud y gwasanaethau hynny yn rhai statudol?
24 Hydref 2024 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ie. Jest yn datgan bod aelod o'r teulu yn gweithio yn adran ddiwylliant Cyngor Gwynedd.
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae’r argyfwng tai yn effeithio pob rhan o Gymru. Digartrefedd a chysgu ar y stryd ydy canlyniad cynyddol a gweladwy yr argyfwng hwnnw. Mae nifer y bobl sydd yn marw sydd yn cysgu ar y stryd wedi dyblu dros y blynyddoedd diweddar, sy’n warthus ac yn…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatrys yr argyfwng tai yng Ngwynedd? OQ61732
10 Hydref 2024 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Diolch.