18 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
6. Sut y mae'r Prif Weinidog yn ymateb i bleidlais y Senedd o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth? OQ61294
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wel, rwy'n synnu gweld Ysgrifennydd y Cabinet mor ddigyffro ac yn cefnogi polisi a allai adael ysgolion Cymru £18 miliwn yn y coch. Nawr, rydym yn gwybod bod ysgolion yn gwneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd gyda'u cyllidebau, gyda llawer yn diswyddo…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wel, o edrych ar ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, rwy'n credu mai'r peth gwaethaf a allai ddigwydd i system addysg yn Lloegr yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Nawr, fel y sonioch chi, Ysgrifennydd y…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gydag etholiad cyffredinol y DU ar y gorwel, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n edrych ar rai o bolisïau Llafur y DU ac edrych ar yr effaith y byddent yn ei chael ar ein sector addysg yng Nghymru. Ac er gwaethaf ymdrechion gorau Keir…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Felly, wrth gloi, Ysgrifennydd Cabinet, y tro nesaf y bydd Gweinidog Llafur yn codi ar ei draed yn Siambr y Senedd hon, neu Weinidog Llafur damcaniaethol yn San Steffan, ac yn cyhoeddi polisi, sut allwn ni gael unrhyw ffydd y bydd yn digwydd mewn gwirionedd?
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw ac am gyfarfod â mi yn gynharach y prynhawn yma i drafod cynnwys y datganiad? Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwthio ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer newidiadau i'r flwyddyn…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn siarad llawer am y 14 mlynedd diwethaf. Wel, yn ystod y 14 mlynedd diwethaf yn Lloegr, rydym ni wedi gweld twf enfawr yn y sector addysg yn Lloegr, diolch i ddiwygiadau dan arweiniad y Ceidwadwyr sydd wedi sicrhau'r canlyniadau…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Fe'ch clywais yn sôn am ardaloedd problemus, ac rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n sôn am hynny. Fe wyddoch fod y Mwmbwls, yn fy rhanbarth i, yn un o'r mannau problemus hynny lle mae'n teimlo fel pe bai Abertawe gyfan yn disgyn…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1407, 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'
Diolch yn fawr iawn am yr ymyriad. Ni allaf ddweud fy mod yn cytuno â'ch asesiad o araith y cyn-Ddirprwy Weinidog, ond yr hyn a ddywedaf yw fy mod wedi ei glywed yn dweud yno y gall cynghorau wneud y penderfyniadau hyn yn dechnegol, ond roedd y cynghorau'n…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1407, 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r bron i 0.5 miliwn o bobl ledled Cymru a lofnododd y ddeiseb? Ac a gaf i dynnu sylw'r Aelodau yn benodol at y protestwyr sydd yma heddiw yn Siambr y Senedd, sydd wedi ymuno â ni? Maent wedi bod yma fis ar ôl mis, yn y glaw ac…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol
Ie, felly mewn ymateb i hynny, yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych chi, Delyth, yw nad oeddwn yn golygu, yn amlwg, mai gwleidyddion yw'r unig rai sy'n gallu cael barn ar wleidyddiaeth—wrth gwrs nad oeddwn yn golygu hynny—ond lle caiff y safbwyntiau hynny eu…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n tybio mai'r sylw y cyfeiriwch ato yw pan ddywedais ei bod yn well gadael gwleidyddiaeth i'r gwleidyddion.
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol
Gwnaf, wrth gwrs.
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol
A gaf fi ddiolch i Sioned Williams am ddod â'r cynnig deddfwriaethol hwn i'r Senedd? Credaf ei bod yn hanfodol bwysig fod gan y Senedd hon swyddogaeth lle gall Aelodau o bob rhan o'r Siambr gyflwyno cynigion deddfwriaethol unigol. Efallai y bydd cynnig…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi clywed gan gyd-Aelodau o amgylch y Siambr heddiw ynglŷn â pha mor bwysig yw Opera Cenedlaethol Cymru i'n bywyd yma yng Nghymru. Ac rwy'n credu hefyd ei bod yn amlwg iawn nad hwn yw'r sefydliad diwylliannol cyntaf sydd wedi…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
Rwy'n falch o weld cwestiwn yn cael ei gyflwyno ar drafnidiaeth gymunedol oherwydd mae'n rhoi cyfle imi siarad am y cynllun llwyddiannus iawn sy'n gweithredu yn Llandeilo Ferwallt yn Abertawe, ac rwy'n awyddus iawn i dalu teyrnged i'r cynghorydd lleol yno…
21 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch darpariaeth gwasanaethau fflebotomi yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ac argaeledd y gwasanaethau hynny? Rwyf wedi cael nifer o etholwyr yn cysylltu â mi yn nodi'r trafferthion…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb? Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd yn awyddus i greu'r argraff ei bod yn gwrando. Rydym wedi clywed hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth mewn perthynas â 20…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynllun dychwelyd ernes Llywodraeth Cymru? OQ61100
14 Mai 2024 , Wales COVID-19 Inquiry Special Purpose Committee
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw a'r cyfarfodydd pwyllgor canlynol ar 18 Mehefin a 16 Gorffenaf 2024
I'll move to item 2, which is a motion under Standing Order 17.42. I propose, in accordance with Standing Order 17.42, that the committee resolves to meet in private for the remainder of today's meeting and for the entirety of the meetings on 18 June 2024 and…
14 Mai 2024 , Wales COVID-19 Inquiry Special Purpose Committee
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
Bore da. Good morning. Welcome to the meeting on Tuesday 14 May of the Wales COVID-19 Inquiry Special Purpose Committee. Can I welcome everybody to the meeting this morning? In particular, can I welcome Buffy Williams and James Evans to the committee, who…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel
Dywed y Prif Weinidog na chollodd olwg erioed ar y gweithlu ym Mhort Talbot ac rwy'n falch o glywed hynny, ond gadewch i ni atgoffa'n hunain o'i record. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig £80 miliwn ar gyfer y bwrdd pontio hwnnw i gefnogi gweithwyr. Mae Tata eu…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw? Ond, rwy'n teimlo, yn anffodus, mai datganiad o fusnes fel arfer i system addysg sy'n galw allan am newid oedd hwnnw. Mae blaenoriaethau addysg Cymru yn amlwg: maen nhw'n dymuno sicrhau, pan…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, nododd y Llywydd, ar ôl nodi 25 mlynedd o ddatganoli, mai Senedd y bobl oedd hon ac nid Senedd i wleidyddion. Yn wir, dywedodd hi nad Senedd Sam Kurtz oedd hi, ac rwy'n cytuno â hynny. [Chwerthin.] Nawr, mae…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
5. Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei chael o ran meithrin ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion? OQ61106