7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch iawn o fod yn Brif Weinidog Cymru. Rwy'n falch iawn o fod yma yn y Senedd hon, wedi fy ethol yn uniongyrchol gan fy etholwyr i'w gwasanaethu nhw ac i wasanaethu fy ngwlad. Rwy'n falch iawn o'r dewisiadau anodd a wnaethom drwy'r pandemig i geisio…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu eich bod chi'n cymryd sawl cam dros faterion i gyrraedd ateb yr hoffech chi ei gael, yn hytrach na lle mae'r dystiolaeth yn arwain. Rwy'n hollol ddigynnwrf ynghylch y sgrinlun a'i gyd-destun yn cael ei weld gan yr ymchwiliad. Rwyf i eisoes wedi…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae hwnna'n gyhuddiad rhyfeddol i'w wneud, yn absenoldeb cyd-destun neu ffeithiau ynghylch yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Mae'r neges unigol yn ymwneud â thrafodaeth o fewn y grŵp Llafur ynglŷn â sut mae pobl yn siarad â'i gilydd a ddim yn siarad…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n eglur iawn mai fi anfonodd y neges yr ydych chi'n cyfeirio ati. Rwyf i hefyd yn eglur iawn bod cyd-destun y sgwrs yn ymwneud yn llwyr â chyfarfod grŵp y Blaid Lafur ac nad yw'n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn ymwneud â'r pandemig. Mae'n ymwneud â…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na, rwy'n credu bod hynny'n gamddarlleniad o ofynion y Ddeddf. Yn fy natganiad tyst i'r ymchwiliad cyhoeddus—rwy'n credu mai paragraff 24 ymlaen ydyw—nodais yn fanwl iawn, yn onest ac yn llawn, sut mae negeseuon wedi cael eu cadw a'u storio i sicrhau bod…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r neges a gyhoeddwyd heddiw yn neges gennyf i heb gyd-destun y drafodaeth. Rwyf i wedi gofyn i'r sgrinlun ar ei ffurf lawn gael ei rannu gyda'r ymchwiliad fel y gellir gweld y cyd-destun. Nodaf fod yr Aelod wedi ysgrifennu at yr ymchwiliad cyhoeddus ar y…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn, ac am yr atgoffâd ymarferol a ffeithiol am y realiti bod ein cyllidebau yn sylweddol llai, o'u cymharu â 14 mlynedd yn ôl, ond hefyd y pwynt pwysig ynghylch y ffaith y byddai'n llawer gwell gennym ni gynnal ein seilwaith trafnidiaeth…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dyfarnu dros £1.1 miliwn i Gyngor Sir Ddinbych i helpu tuag at y prosiect i ddeall y dyluniad y mae angen bwrw ymlaen ag ef i ddisodli'r bont. Ac rwy'n cydnabod ei fod yn destun pryder ac anghyfleustra…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn. Rydym ni wedi dyfarnu £750,000 i Gyngor Sir Ddinbych eleni i barhau i weithio tuag at bont newydd sy'n cysylltu cymunedau Trefnant a Thremeirchion.
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ceir nifer o ffactorau o fewn hynny. Mewn rhai byrddau iechyd yng Nghymru, mae cyfraddau genedigaethau Cesaraidd i fyny i 40 y cant; mewn eraill, dydyn nhw ddim. Pan edrychais ar y ffigurau wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn, rwy'n credu mai ein…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant yn un o'r agweddau allweddol yr wyf i eisiau i'n Llywodraeth ganolbwyntio arnyn nhw. Dyna pam rwyf i wedi ailadrodd y pwyslais ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, pa un a yw'n fabi cynamserol sy'n cael ei…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi am golled gynnar a sut y gallwn ni, wedyn, gefnogi pobl yn well. Rydym ni wedi cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd am golli babanod, am gydnabod ei fod yn realiti, ac yna…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gan bob mam feichiog yng Nghymru fydwraig benodol i ddarparu cymorth yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod ôl-enedigol. Gyda'i gilydd, dylen nhw ddatblygu pecyn gofal wedi'i unigoli, yn cwmpasu'r fam a'r babi. Bydd atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol yn…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn.
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ond ar eich pwynt o ran 'Bara a Rhosynnod', rwy'n cydnabod y pwynt sy'n cael ei wneud ac nid yw'r Llywodraeth hon eisiau lleihau cyllid ar gyfer ein sefydliadau diwylliannol; rydyn ni eisiau sicrhau ei fod yn wirioneddol hygyrch o ran yr hyn yr ydyn ni'n ei…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gan y rhosod rwy'n eu tyfu yn fy ngardd ddigonedd o ddrain arnyn nhw. Ond, edrychwch, diolch am y cynnig o roi blodyn i mi. Nid wyf i'n hollol siŵr y byddai hynny'n cael ei groesawu gartref—[Chwerthin.]
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gwnaf. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r sectorau celfyddydau a diwylliant yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael digon o gyllid o fewn ein hamlen gyllidebol. Mae manylion cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn y flwyddyn ariannol hon…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn dilynol. Dylwn i fod wedi ymateb i Llyr Huws Gruffydd drwy ddweud y bydd asesiad newydd o effaith economaidd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd, wrth gwrs. Mewn ymateb i bwynt yr Aelod am hyfforddi seicolegwyr addysg, rydyn ni wedi…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ie, diolch am y cwestiwn. Mae seicolegwyr addysg yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yn y gogledd, ac, yn wir, ar draws Cymru gyfan. Rydyn n'n buddsoddi £2.6 miliwn i hyfforddi a chadw seicolegwyr addysg newydd yng Nghymru.
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n parhau i wneud y pwynt fy mod i'n rhywun sydd â chysylltiad gwirioneddol â'n heconomi wledig. Cefais fy magu mewn cymuned wledig ac, fel y gŵyr yr Aelod, treuliais i oriau lawer ar ffermydd gyda fy nhad yn ystod fy mhlentyndod. Felly, dydy hyn ddim yn…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch o'r gwaith y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud i gefnogi'r economi wledig ar draws gwahanol rannau o Gymru. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n cymryd o ddifrif waith y grŵp trawsbleidiol a'r gwahanol argymhellion, y bydd rhai…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni'n parhau i gefnogi ein heconomi wledig, fel yr ydym ni'n cefnogi'r economi ledled Cymru gyfan. Rydym ni'n buddsoddi yn ein bargeinion twf, mewn seilwaith digidol, yn y rhwydwaith trafnidiaeth ac yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Fe wnaethom ni gynnal y…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr ail bwynt, wrth gwrs, yw nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli. Yr her y mae'r Aelod yn ei hwynebu yw, ar y naill law mae'n gresynu ac yn cwyno am yr heriau y mae diffyg buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd yn eu hachosi, heb ewyllysio'r modd o…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae yna ddau bwynt eang i'w crybwyll, ac maen nhw'n bwyntiau ffeithiol yma: y pwynt ffeithiol yw mai Trafnidiaeth Cymru yw'r fasnachfraint sy'n perfformio orau yng Nghymru o bell ffordd. Mae'n perfformio'n well o ran prydlondeb ac o ran diffyg achosion o…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ydw, ac rwy'n falch iawn bod yr Aelod wedi tynnu sylw at y £4.6 miliwn sydd wedi cael ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn y canolbarth. Mae hyn yn rhan o fwy na £100 miliwn a roddwyd i awdurdodau lleol drwy grantiau ar gyfer…