Diogelu Plant rhag Niwed mewn Sefydliadau Crefyddol yng Nghymru
Ar agor i'w llofnodi tan 23 Ebrill 2027.
18 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydw i wedi clywed am blant mor ifanc â 5 oed yn cael eu gorfodi i lanhau toiledau mewn rhai lleoliadau crefyddol.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau amddiffyniadau i ddiogelu plant o fewn sefydliadau crefyddol.
Mae pob plentyn yn haeddu cael ei amddiffyn rhag cam-drin, esgeulustod, gweithgarwch anniogel ac arferion disgyblu niweidiol, waeth beth fo credoau crefyddol ei deulu.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i:
• adolygu arferion diogelu o fewn sefydliadau crefyddol; • egluro amddiffyniadau i blant sy'n ymgymryd â dyletswyddau glanhau mewn sefydliadau crefyddol, yn enwedig o ran dod i gysylltiad â chemegau, mesurau goruchwylio a threfniadau iechyd a diogelwch; • sicrhau bod sefydliadau crefyddol yn cydymffurfio â’r cyfreithiau perthnasol o ran diogelu ac iechyd a diogelwch; • hyrwyddo gweithdrefnau adrodd diogel fel y gall plant godi pryderon heb ofni cosb na gwaharddiad; a • chyhoeddi canllawiau clir i rieni a sefydliadau crefyddol ar eu cyfrifoldebau i amddiffyn plant.
Ni ddylai unrhyw sefydliad crefyddol fod uwchlaw'r gyfraith. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu amddiffyniad cyfartal, waeth beth fo'r credoau neu’r arferion crefyddol perthnasol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 16 o'r 18 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 7 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 5 |
| Caerdydd Penarth | 2 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 2 |