Business Committee
- Dechrau
- 10:03
- Cyfraniadau
- 2
- Geiriau a lefarwyd
- 182
Agor y cyfarfod
Cyfarfu'r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 10:03.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croeso, bawb, i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Busnes y chweched Senedd, ac i gadarnhau ar y cychwyn fod tri Aelod wedi'u hethol i'r cyfarfod busnes: Lesley Griffiths, Darren Millar a Siân Gwenllian wedi eu hethol ddoe. Mae gan Jane Dodds hawl i fod yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iii). Mae'r Dirprwy Lywydd hefyd drwy wahoddiad a drwy arfer sefydledig yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes, ond mae'r Dirprwy Lywydd wedi anfon ymddiheuriadau ei fod e'n methu cyrraedd cychwyn y pwyllgor ond o bosib y bydd e'n ymuno yn ystod yr awr.
2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol lle trafodir materion sy'n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Senedd
Cynnig:
bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol lle trafodir materion sy'n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix).
Cynigiwyd y cynnig.