Economy, Trade, and Rural Affairs Committee
- Dechrau
- 09:35
- Cyfraniadau
- 4
- Geiriau a lefarwyd
- 446
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:35.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Wel, bore da. Croeso, bawb, i ail gyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y chweched Senedd. Dyma'r tro cyntaf i ni gwrdd mewn person gyda'n gilydd, felly croeso cynnes i chi i gyd. Gyda chytundeb yr Aelodau, bydd y rhan fwyaf o'r cyfarfod heddiw yn cynnwys sesiwn gynllunio strategol i alluogi Aelodau i drafod blaenoriaethau o ran gwaith a ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Bydd y sesiwn hon, wrth gwrs, yn breifat, a chaiff y rhan gyhoeddus yma o gyfarfod y pwyllgor ei darlledu'n fyw ar Senedd.tv.
Nid oes unrhyw ymddiheuriadau wedi dod i law ar gyfer y cyfarfod heddiw. Oes yna unrhyw fuddiannau hoffai Aelodau eu datgan? Unrhyw fuddiannau o gwbl? Na, dim. Iawn.
2. Papurau i'w nodi
Os symudwn ni ymlaen, felly, i eitem 2, mae gennym ni nifer o bapurau i'w nodi. Rŷm ni wedi derbyn llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes; llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid; llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rŷm ni wedi derbyn llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd. Rŷm ni wedi derbyn llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; llythyr gan Weinidog yr Economi; a rŷm ni hefyd wedi derbyn llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.