Buaswn i'n eilio hynny o ran pa mor ansicr yw'r tymor byr oherwydd, wrth gwrs, wrth inni fyw drwy COVID, mae yna oblygiadau, mae yna ansicrwydd o ran beth fydd yr incwm, a fel bydd cynulleidfaoedd yn ymateb. Rydyn ni'n ailedrych ar ein strategaeth farchnata ar gyfer edrych ar y to iau, oherwydd mae'r holl ymchwil sy'n dod i mewn ar hyn o bryd yn dweud bod y to hŷn yn llai parod i fynd i ddigwyddiadau mawr. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol iawn o impact Eisteddfod yn enwedig wrth chwalu'r ystrydebau o ran beth yw diwylliant, beth yw iaith, a hefyd o ran cyfleoedd i bobl i wirioneddol brofi iaith hyfyw, iaith fodern. Yr impact yw'r maint yna.
Mi wnaethon ni weithio gyda'r Llywodraeth yn Llanrwst ar wneud diwrnod am ddim ar gyfer pobl ddifreintiedig a phobl oedd heb brofi yr Eisteddfod, ac roedd yr ymateb anecdotaidd o'r profiadau yna â phobl yn dweud, 'Mi oedd gen i rywfaint o atgasedd at yr iaith oherwydd doedd gen i ddim perthynas â'r Gymraeg.' Ac felly, o beidio mynd i'r Eisteddfod, mi oedd gyda nhw'r ystyriaeth ystrydebol yma o glocsio, o gynganeddu a rhywbeth oedd yn fwy traddodiadol. Ac o ddod i'r Eisteddfod a phrofi'r wefr yna o fod mewn 15,000 yn gwrando ar gerddorfa, yn gwrando ar bop a phob dim, mi oedden nhw'n dweud, 'Pam fy mod i'n wastad wedi teimlo dyw hwn ddim ar fy nghyfer i?' Petawn i'n gallu dwyn un o straplines y ffermwyr ifanc, 'You don't have to be one to be one', fel oedd e flynyddoedd yn ôl, does dim angen ichi siarad y Gymraeg i ddod i'r Eisteddfod a bod yn rhan o'r profiad yna.
Ac rwy'n credu hefyd, i fi, yr hyn sy'n bwysig wrth inni symud ymlaen yw sicrhau—. Rydyn ni'n un o wyliau pennaf—. Wel, ni yw prif ŵyl ddiwylliannol Ewrop ac rŷn ni'n un o brif wyliau'r byd, ac mae hynny oherwydd eich bod chi'n cael y profiadau anhygoel yna, mae'r cyfleoedd yno, a hefyd mae'r maes yn faes gŵyl lle mae yna 1,000 o ddigwyddiadau yn digwydd yn ystod wythnos Eisteddfod. I fi, mae'r profiad yno oherwydd rŷn ni'n gallu, law yn llaw â gwyliau mawr y byd, ddweud bod gyda ni ŵyl sylweddol yng Nghymru. Ond oherwydd yr ansicrwydd incwm, mae'n rhaid inni edrych ar beth yw'r blaenoriaethau, a'r gofid yw nad yw'r profiad yna'n mynd i fod yr un peth.
Hefyd, petasem ni'n edrych yn hirdymor, mi fuasem ni'n dweud bod unrhyw wlad waraidd yn sicrhau bod pobl yn gallu profi'u diwylliant nhw. Dyna beth yw tystiolaeth o wlad wâr. Ac felly, buaswn i'n dweud mai Eisteddfod gynaliadwy y dylai fod yn un o flaenoriaethau'r gwaith diwylliannol mae'r pleidiau wedi'i ddweud. Oherwydd, i fi, mae'n rhaid ichi roi cyfleoedd i bobl i brofi'u diwylliant nhw, ac, wrth gwrs, mae'r tocyn yn gallu bod yn rhwystr i hynny. Buaswn i'n teimlo bod hwnna'n flaenoriaeth er mwyn eich bod chi'n gallu cyrraedd y miliwn o siaradwyr, ond hefyd, defnyddio iaith, a bod yna gyfleoedd i bobl i weld eu bod nhw'n gallu bod ar y daith ieithyddol yma, bod un gair yn golygu'ch bod chi'n cychwyn y daith. Ac i fi, bod y profiad yn gynhwysol, a dyna beth yw'r Eisteddfod; mi allwch chi ddod i mewn i'r Eisteddfod a does dim eisiau ichi siarad gair o Gymraeg, ond mi gewch chi eich cofleidio, mi gewch chi brofi diwylliant ac mi gewch chi glywed yr iaith a gobeithio cael eich swyno.