Efallai, jest o ran cyd-destun i hwn, y buasai'n ddefnyddiol i fi esbonio bod gennym ni raglen gyfalaf yn y maes hwn o £46 miliwn yn flaenorol, ac ymestynnwyd hwnnw gan, fel y dywedoch, £30 miliwn pellach ar ddechrau'r flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae pecyn o gyfalaf, os hoffwch chi, o £76 miliwn ar y cyfan, dros y blynyddoedd. Yn y gyllideb sydd o'ch blaenau chi, mae dyraniad blynyddol o £15 miliwn y flwyddyn am dair blynedd, sydd yn £45 miliwn. Mae hynny yn rhan o'r pecyn ehangach yna o £76 miliwn. Mae'n cynnwys y £30 miliwn, ac mae hefyd yn cynnwys elfen ychwanegol i hynny, sydd yn ffactor o'r ffaith bod rhai elfennau o'r cynllun o dan y £46 miliwn wedi cael eu gohirio oherwydd COVID, felly mae elfen o'r gwariant hwnnw'n cael ei wthio ymlaen, os hoffwch chi. Felly, dyna sut mae'r ffigurau yn perthyn i'w gilydd.
Ond o ran y bids am y gronfa o £30 miliwn, dwi'n credu eich bod yn iawn, mae'r cwestiwn rydych chi'n gofyn yn iawn, dwi'n credu ei fod yn dangos bod awydd gan awdurdodau lleol i gynyddu darpariaeth a defnyddio'r ffynhonnell gyfalaf i wneud hynny. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn galonogol iawn fod gwerth £125 miliwn o gynigion wedi dod; buasai'n grêt pe baem ni'n gallu cyrraedd mwy o rheini nag y mae'r £30 miliwn yn ein caniatáu ni i'w wneud.
Felly, beth sy'n digwydd nawr yw, fel rydych chi'n gwybod, mae'r awdurdodau lleol ar fin delifro'r cynlluniau strategol mewn addysg i fi fel Gweinidog i edrych arnyn nhw, ac mae'r ceisiadau yma'n cael eu hasesu yn y cyd-destun hwnnw. Felly, rydyn ni'n edrych ar y cynlluniau strategol, edrych ar y bids, a gweld beth sy'n ymarferol, beth sy'n deliverable, ac wedyn yn mynd ar sail hynny. Felly, rwy'n bwriadu, erbyn diwedd mis Chwefror, datgan pa gynigion sydd wedi bod yn llwyddiannus allan o'r rheini lle rydyn ni wedi cyrraedd y sgwrs. Byddaf i'n hapus i rannu hynny gyda chi fel pwyllgor. A byddwn ni'n dechrau ariannu'r rheini, wedyn, yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ond rwy'n credu eich bod chi'n iawn, mae yn dangos bod uchelgais wedi bod. Os edrychwch chi ar yr hyn rydyn ni'n deall o ran y drafftiau rydyn ni wedi eu gweld, o gof, mae rhyw naw awdurdod yn bwriadu ymestyn darpariaeth gynradd neu agor ysgolion newydd yn ystod pum mlynedd gyntaf y cynllun degawd yna. Mae gyda chi ddau awdurdod sy'n bwriadu ehangu darpariaeth uwchradd yn benodol, sy'n galonogol. Mae rhyw chwe awdurdod yn bwriadu darparu am y tro cyntaf neu ymestyn eu darpariaeth drochi. Rydyn ni wedi cynnal y gyllideb honno am flwyddyn arall, fel rydych chi'n gwybod. Ac wedyn rydych chi hefyd yn gwybod fy mod i newydd ddatgan canllawiau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion o ran defnydd y Gymraeg. Ac mae rhyw chwe awdurdod, dwi'n credu—na, rhyw wyth awdurdod, dwi'n credu—yn bwriadu cynyddu eu darpariaeth trwy newid, ailgategoreiddio, eu hysgolion. Felly, mae gan bob awdurdod ystod o ran targed. Mae pob un, rwy'n credu, yn anelu at gyrraedd naill ai brig yr ystod neu ganol yr ystod. Os digwyddith hynny, buasai'n bositif iawn. Ond petasai nhw'n syrthio ychydig yn brin o hynny hefyd, mae hynny'n ddigonol inni gyrraedd ein targedau yn y cyfamser. Felly, mae'n rhaid i bobl fod yn atebol am y rheini, ond mae uchelgais yn y broses, a dwi'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu, fel rydych chi'n dweud, yn y bids rydyn ni wedi eu cael ar gyfer y ffynhonnell honno.