Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni efallai yn rhoi hwn yn ei gyd-destun, a phan wnaethom ni gychwyn ystyried y project, fe ddaeth e'n amlwg inni o'r cychwyn cyntaf fod hwn yn ddarn gwahanol iawn o waith ac yn fwy nag ymholiad. Ac er mwyn cyflawni hyn, gwnaethom ni ganolbwyntio ar adolygu'r diwylliant, a dyna sy'n bwysig inni, mai diwylliant a'r prosesau diogelu mewn ysgolion uwchradd sy'n helpu i amddiffyn plant a chefnogi pobl ifanc yn well. So, er i'r darn hwn o waith gael ei wneud yn ychwanegol i'r hyn roedden ni'n ei wneud yn barod, ein gweithgareddau arferol, y gwaith oedd wedi'i amserlennu, fe wnaethom ni ymateb yn gyflym iawn i gais y Gweinidog ar gyfer yr adroddiad. Ac, yn ystod ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, wrth inni ddatblygu'n cynllun, fe wnaethom ni gytuno ei fod o ddim yn bosib, oherwydd yr amseru tynn, inni fynd y tu hwnt i ysgolion uwchradd ar gyfer yr adolygiad arbennig hwn.
A hefyd, yn ogystal, roedd Delyth wedi cyfeirio fanna at yr hyfforddiant roeddem ni wedi'i gael, ac roeddem ni'n teimlo petasem ni wedi cynnwys unedau cyfeirio disgyblion, yna byddai wedi bod yn anodd iawn inni ei wneud o gyda'r amser a oedd gyda ni, ac yn teimlo efallai bod angen hyfforddiant pellach ar ein harolygwyr ni i drafod digwyddiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion gyda'u disgyblion, yn enwedig o ystyried y disgyblion bregus sydd yn mynychu yr unedau cyfeirio disgyblion, a'r ffaith y byddai llawer iawn ohonynt wedi profi sawl profiad plentyndod andwyol, ac efallai bod y rhain yn cynnwys rhai o natur rywiol. Felly, dyna pam wnaethom ni ddim penderfynu ar y pryd i fynd i gynnwys unedau cyfeirio disgyblion.
Ond, yn ystod yr adolygiad hwn, roeddem ni'n canolbwyntio ar brofiadau mewn ysgolion uwchradd. Gwnaethom ni ystyried y diwylliant, fel roeddwn i wedi dweud, ac roedd ein gwaith ni'n cynnwys yr adolygu hefyd o ganllawiau cymorth presennol sydd mewn ysgolion, a'r asiantaethau perthnasol eraill sydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Ond, dwi'n meddwl yn bwysicach fyth—a dyma'r pwynt dwi eisiau ei wneud bore yma nawr—ydy bod yr adroddiad yn crynhoi canfyddiadau holiaduron a thrafodaethau uniongyrchol a gawsom ni gyda disgyblion a gyda staff am natur a chyffredinolrwydd yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a sut mae ysgolion yn rheoli hyn. Ac mae'n bwysig nodi ein bod ni'n awyddus i adnabod arferion effeithiol hefyd a welwyd, ac mi wnaethom ni weld arfer dda, arfer effeithiol mewn ysgolion, ac rydym ni yn teimlo bod hwn yn elfen gref o'r adroddiad a bod yr astudiaethau achos sydd yn rhan o'r adroddiad yn mynd i fod o gymorth mawr i ysgolion, wrth iddyn nhw ystyried perthnasedd a rhywioldeb mewn ysgolion.
Ond mae Delyth eisoes wedi sôn am y paratoi a wnaethom ni ei wneud, a dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig hefyd. Felly, cyn ein bod ni wedi ymweld â'r ysgolion, mi gawsom ni drafodaethau cychwynnol gydag asiantaethau perthnasol, ond doedd dim amser gyda ni mewn gwirionedd ar gyfer unrhyw gyfarfodydd panel—paneli cyfeirio manwl—ond fe wnaethom ni gaffael barn gychwynnol gan asiantaethau cefnogi amrywiol a charfannau pwyso a fu'n sail i'n gwaith ni felly. Ac roedd dod o hyd i'r gefnogaeth arbenigol o'r cychwyn cyntaf yn hynod o bwysig i'n paratoi ni ar gyfer y gwaith—y gwaith emosiynol oedd o'n blaenau ni. Ac i gyflawni hyn, fe wnaethom ni weithio'n agos gydag academyddion arbenigol, gwnaethom ni weithio wedyn, cyn ein bod ni'n ymweld â'r ysgolion, gwnaethom ni drefnu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar gyfer y tîm, a gweithio, yn wir, gyda'r Athro E.J. Renold, gyda Phrifysgol Caerdydd, swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a'r NSPCC.