Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:16
- Cyfraniadau
- 434
- Geiriau a lefarwyd
- 40,921
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:16.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, bawb. Croeso i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i Aelodau hefyd, wrth gwrs, i'r cyfarfod. Gaf i esbonio ar y dechrau bod hwn yn gyfarfod dwyieithog? Mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael, wrth gwrs, o'r Gymraeg i'r Saesneg. Gaf i atgoffa pawb hefyd fod dim angen i chi reoli eich microffonau eich hunain? Mi fydd hynny'n cael ei wneud ar eich rhan chi. Gaf i ofyn ar y cychwyn i Aelodau os oes gan unrhyw un fuddiannau i'w datgan? Nag oes. Iawn. Diolch yn fawr iawn. Fe wnaf i esbonio hefyd, os am ryw reswm y byddaf i'n colli cysylltiad â'r cyfarfod yma, mae'r pwyllgor yn flaenorol wedi cytuno y bydd Delyth Jewell yn camu i'r adwy fel Cadeirydd tra fy mod i yn trio ailymuno.
2. Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 1
Iawn, fe symudwn ni ymlaen felly i gychwyn y gwaith o edrych ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru—y sesiwn dystiolaeth gyntaf. Rydym ni'n cael cyfres o sesiynau tystiolaeth heddiw gan nifer o randdeiliaid a fydd, wrth gwrs, yn llywio'n gwaith ni dros y cyfnod nesaf. Ond, rydyn ni'n edrych yn benodol ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac mae'r gwaith yma yn dod ar ôl cyhoeddi canfyddiadau archwiliad manwl Llywodraeth Cymru, neu'r deep dive, o ynni adnewyddadwy a'r ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn y cynllun Cymru Sero Net.