Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:33
- Cyfraniadau
- 57
- Geiriau a lefarwyd
- 7,594
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:33.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan, os gwelwch yn dda? Dwi ddim yn gweld unrhyw Aelod yn dweud, felly fe wnawn ni symud ymlaen.
Hoffwn i ddechrau'r cyfarfod heddiw drwy dalu teyrnged i Aled Roberts, a fu farw yn ddiweddar. Gyda thristwch mawr y gwnaethom ni glywed am y newyddion annisgwyl am ei farwolaeth yn ddiweddar. Mewn amser byr iawn, i fro ei febyd, i Gymru a'r Gymraeg, nifer oedd y pethau roedd e wedi eu cyflawni drostyn nhw i gyd. Roedd bob amser yn llawn gobaith a hyder, a pha bynnag fater roedd e'n gweithio arno fe, roedd hynny'n wir—p'un ai fel cynghorydd dros Ros a Phonciau, yn Aelod rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru ym Mae Caerdydd, neu yn ddiweddar fel Comisiynydd y Gymraeg, ei fwriad yn wastad oedd gwneud pethau yn well i bobl eraill. Roedd yn bleser enfawr cael cydweithio gyda fe yn ddiweddar yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg. Roedd yn heriol, roedd yn gadarn ac eto yn ddiymhongar a'n wastad gyda gwên gyfeillgar. Roedd yn gwneud i bawb ymlacio a mwynhau bod yn ei gwmni. Ein diolch ni yw cael y pleser o'i adnabod, i gydweithio gydag ef, a gweld yr holl waith roedd e wedi ei wneud dros ei fro, ei wlad, a'i iaith. Rŷn ni i gyd yn danfon ein cydymdeimladau at ei deulu a phawb oedd yn ei nabod e.