Buaswn i'n ategu'r hyn a ddywedodd Gwenith fanna, bod cyfathrebu'n hollbwysig, bod gallu cyfathrebu'r rhesymau dros argymhellion a pham mae'r panel wedi dod i ryw gasgliad, pam mae'r panel yn cynghori rhyw ffordd neu'i gilydd, bod hynny'n hollbwysig. Achos, fel roedden ni wedi dechrau awgrymu, mae yna sawl ffurf ar enw lle yn bosib ac mae yna ddadleuon dilys o blaid nifer o'r sillafiadau gwahanol, a dyw yw e ddim wastad yn hawdd dod i benderfyniad. Ond weithiau mae angen dewis rhwng dwy ffurf, neu fwy na dwy ffurf yn aml, achos fyddai fe ddim yn ddoeth i gofnodi'r holl amrywiadau yna ar arwydd; mae eisiau setlo ar un ffurf. Wedyn, mae cofnodi hynny a chyfathrebu hynny yn hollbwysig.
Roeddech chi'n sôn am brosiect penodol fanna yn Rhondda Cynon Taf. Rŷn ni wedi cynnal nifer o brosiectau llwyddiannus iawn yn y de ddwyrain, mae'n rhaid i mi ddweud, lle dwi'n teimlo ein bod ni wedi, yn y pen draw, dod i gonsensws ac rŷn ni wedi cael y deialog yna. Ac efallai fod y panel, ar y dechrau, wedi bwrw'r cwch i'r dŵr, yn cynnig un ffurf, dyweder, ar gyfer rhywle fel Treorci, lle mae yna sawl amrywiad yn bodoli. Oni fyddai'n braf cael jest un ffurf i'w defnyddio ym mhob iaith? Ond mae'r panel wedi gorfod gwrando ar y farn yn lleol a gwrando ar farn cynghorwyr a phenderfynu efallai dyw hynny ddim yn ymarferol am y tro, a does dim modd gwireddu'r uchelgais yna o fod ag un ffurf ar gyfer pob iaith. Mae cael un ffurf yn gwneud bywyd yn haws am nifer o resymau, os mai enw Cymraeg sydd dan sylw.
Buaswn i hefyd eisiau pwysleisio nad yw hi'n agenda gan y panel i wthio defnyddio ffurfiau Cymraeg yn unig; mae'r panel yn rhoi sylw i enwau Saesneg, i amrywiadau sy'n perthyn i'r enwau Cymraeg, fel Caerdydd a Cardiff, er enghraifft, ond hefyd i enwau sydd ddim yn gysylltiedig o gwbl â'i gilydd, fel Abertawe a Swansea, y Bont-faen a Cowbridge. Hynny yw, does yna ddim anwybyddu ar y ffurfiau sy'n cael eu cysylltu â'r iaith Saesneg; maen nhw i gyd yn cael sylw ac yn cael yr un statws yng ngwaith y panel. Ond efallai beth rŷch chi'n mynd ar ei ôl yw pan fo yna fân wahaniaethau rhwng y ffordd mae enw'n cael ei sillafu yn y Gymraeg a'r ffordd mae enw Cymraeg yn cael ei sillafu mewn cyd-destunau Saesneg. Hynny yw, byddwn i'n hoffi, dros amser, efallai, gweld rhai o'r anghysonderau yna yn cael eu datrys, ac mae'r pethau yma yn gallu digwydd yn raddol dros amser heb ormod o wrthdaro. Rŷn ni wedi gweld hynny'n digwydd yn hanes enwau fel Llanelli, a fyddai wedi cael ei sillafu yn y gorffennol gydag 'y' ar y diwedd. Meddyliwch am yr holl ffurfiau hanesyddol oedd yna o sillafu Dolgellau, er enghraifft. Ac mae'r materion yna wedi setlo, gan arwain at eglurdeb yn y pen draw. Dyw hwnna ddim yn golygu nad yw'r amrywiadau yn bwysig, nad ydynt yn ddiddorol yn hanesyddol, nad ydynt yn dweud rhywbeth wrthym ni am yr enwau. Ond, jest i bwysleisio, mai ar gyfer gweinyddu cyhoeddus rŷn ni'n teimlo bod eisiau tacluso ar y ffurfiau. Dŷn ni ddim eisiau diystyru cyfoeth yr enwau sydd gyda ni yng Nghymru, a'r hanesion mae'r amrywiadau yna yn eu hadrodd.