Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 10:45
- Cyfraniadau
- 138
- Geiriau a lefarwyd
- 10,193
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 10:45.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso, bawb, i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i bob un sy'n ymuno â ni. Gaf i esbonio fod y cyfarfod yma yn gyfarfod dwyieithog ac mae yna ddarpariaeth cyfieithu a gwasanaeth cyfieithu ar gael? Ni fydd angen i unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod reoli eu meicroffonau eu hunain; mi fydd hynny'n cael ei wneud ar eich rhan chi. A gaf i ofyn ar y cychwyn a oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Iawn, diolch yn fawr. Ac fel rŷn ni'n arfer gwneud ar ddechrau cyfarfod fel hyn, wrth gwrs, jest i atgoffa pawb hefyd, os ydw i'n colli cyswllt â'r cyfarfod, rydyn ni wedi cytuno ymlaen llaw y bydd Delyth Jewell yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro, tan i fi, gobeithio, fedru ailgysylltu â'r cyfarfod.
2. Fframweithiau Cyffredin Dros Dro: Ansawdd Aer, a Chemegion a Phlaladdwyr—sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Iawn, ymlaen â ni felly at ffocws y cyfarfod y bore yma, sef i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y gwaith o greu y fframweithiau cyffredin dros dro ar gyfer ansawdd aer a chemegion a phlaladdwyr. Ac at ddiben y rhai efallai sy'n gwylio'r sesiwn yma, mae'r fframweithiau cyffredin yn gytundebau rhwng pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sut y byddan nhw'n cydweithio i wneud penderfyniadau ynghylch cyfraith a pholisi yn y dyfodol mewn meysydd oedd wedi cael eu llywodraethu neu eu cydlynu yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd.