Ond mae yna bethau sydd wedi cael eu gwneud sydd i'w croesawu. Dwi'n meddwl yn arbennig am yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws, sydd, wrth gwrs, yn parhau, o ran sicrhau bod yr hyn roedd y cyhoedd yn ei weld o ran y rheoliadau cyfredol wedi ei grynhoi, felly roeddem ni'n gallu gweld yn union beth oedd y testun oedd mewn grym drwy ddefnyddio tracked changes—rhywbeth syml iawn sydd wedi bod yma ers degawdau, ond am ryw reswm neu'i gilydd mae rhyw fath o ymwrthod wedi bod tu mewn i goridorau grym i ddefnyddio hyn—a hefyd, gyda hynny, grynodeb mewn iaith fwy hygyrch, efallai, o beth yw'r sefyllfa o bryd i bryd. Ac roedd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud yn fuan ac yn dda, a dwi'n gweld hwnna fel efallai un ffordd ymlaen o leiaf—rwy'n deall bod llawer iawn o adnoddau'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi mynd i mewn i hyn—o feithrin y math yna o ffordd o fynd ati. Yn yr un modd, mae legislation.gov.uk bellach yn sicrhau bod statudau cyfansoddiadol Cymreig yn cael eu cadw'n gyfredol. Roedd yna adeg pan oedden nhw ddim, ac maen nhw wedi gwella yn enfawr fel yna.
Ond os edrychwn ni ar y cwestiwn o ymwybyddiaeth, unwaith eto, fel gyda hygyrchedd, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth y proffesiwn neu'r cyfreithwyr yn ddwy elfen o hyn. Fel y soniwyd gynnau, mae yna ddau brosiect y bydd y grŵp addysg a hyfforddiant yn edrych arnyn nhw i gychwyn, ac maen nhw'n edrych ar y ddwy agwedd yna. Os caf i ddelio ag ymwybyddiaeth y cyhoedd i ddechrau, mae'r tîm prosiect sy'n cael ei arwain gan Dr Huw Pritchard o Brifysgol Caerdydd yn mynd i fod yn edrych ar yr holl gwestiwn o sut mae gwybodaeth y cyhoedd am y gyfraith yn cael ei meithrin a pha fath o ddulliau sydd yn bodoli er mwyn addysgu’r cyhoedd am y gyfraith. Nawr, mae hwn yn bwnc enfawr a llydan iawn, ac mae ein hadnoddau ni'n golygu na fyddwn ni ddim yn mynd ati, er cymaint yr hoffem ni, i allu cynnal rhaglen o'r fath. Serch hynny, mi fyddwn ni'n gobeithio edrych i weld beth yw'r arfer da mewn llefydd eraill. Wrth gwrs, mi gollodd y Senedd y cyfle i wneud rhywbeth am hyn pan benderfynwyd peidio â deddfu er mwyn cynnwys yn y cwricwlwm addysg wybodaeth am y setliad datganoli ac ati. Dyna ni, mae hynny wedi mynd nawr, ond gadewch inni edrych i weld beth arall sydd yn bosibl.
Ond os trown ni at ymwybyddiaeth y proffesiwn, mae hwn yn bodoli ar sawl lefel, a dwi'n credu mai'r lefel fwyaf pryderus ydy diffyg ymwybyddiaeth o'r ffaith bod yna wahaniaeth o gwbl rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r rhagdybiaeth fod yr hyn sydd yn wir yn Lloegr yn mynd i fod yn wir yng Nghymru, ac fel arall rownd, yn rhagdybiaeth sydd yn parhau mewn llawer o gorneli o'r proffesiwn. Nawr, mae rhan o hyn yn ddibynnol ar y ffaith bod y rhan fwyaf neu nifer fawr o'r rhai sydd yn ymarfer y gyfraith wedi eu cymhwyso fel cyfreithwyr cyn bod y setliad datganoli wedi dod i fodolaeth, ac mae hyn yn ymwneud ag addysg barhaol, ond dwi'n credu bod yna rai egwyddorion y byddai'n werth inni eu gosod, a, gyda chaniatâd fy llywydd fan hyn, dwi'n tynnu fy het a dwi'n mynegi fy marn os liciwch chi.