Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 11:19
- Cyfraniadau
- 262
- Geiriau a lefarwyd
- 19,745
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 11:19.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Dyma estyn croeso i'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Heddiw, mae Peredur Owen Griffiths yn dirprwyo ar ran Heledd Fychan a gyda ni ar-lein, ac mae Altaf Hussain yn dirprwyo ar ran Tom Giffard, hefyd gyda ni ar-lein. Mae Hefin David yn ymuno ar-lein, ac mae Alun Davies, Carolyn Thomas a finnau yn yr ystafell. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan, os gwelwch yn dda? Dwi ddim yn gweld, felly fe wnawn ni symud ymlaen. Dŷn ni'n ddiolchgar iawn i Altaf a Peredur am fod gyda ni'r bore yma.
2. Papurau i'w nodi
Eitem 2 y bore yma ydy papurau i'w nodi. Eitem 2.1: gwybodaeth ychwanegol gan Criced Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 4 Mai. Eitem 2.2: llythyr gan y Gweinidog dros Dechnoleg a'r Economi Ddigidol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon—DCMS—yn Llywodraeth y DU, at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wedi cael ei gopïo atom ni. Ac eitem 2.3 ydy llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Mike Hedges ynghylch sefydlu amgueddfa grefydd genedlaethol. Oes gan unrhyw Aelodau unrhyw sylwadau maen nhw eisiau eu rhoi ar y papurau neu ydych chi'n hapus i ni nodi'r rhain?