Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 182
- Geiriau a lefarwyd
- 13,526
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Bore da a chroeso i chi i gyd i gyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Mae hwn yn gyfarfod, wrth gwrs, sy'n cael ei gynnal ar ffurf hybrid, ac fe welwch chi bod Delyth Jewell a Joyce Watson yn ymuno â ni drwy gynhadledd fideo ar gyfer y cyfarfod yma. Ac ar wahân i addasiadau sy'n ymwneud â chynnal y trafodion ar ffurf hybrid, mae holl ofynion eraill y Rheolau Sefydlog yn parhau, wrth gwrs. Ac mae'r eitemau cyhoeddus, fel sy'n arfer digwydd, yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi. Mae'r cyfarfod yn un dwyieithog, ac mae yna gyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael hefyd. Gaf i atgoffa Aelodau bod angen diffodd y sain ar unrhyw declynnau symudol? A hefyd, gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Na, dim byd. Dyna ni. Ocê. Diolch yn fawr iawn.
2. Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4
Mi symudwn ni ymlaen, felly, at brif ffocws ein cyfarfod ni heddiw, sef sesiwn dystiolaeth olaf y pwyllgor ar ein hymchwiliad ni ar ddyfodol gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru. A heddiw, byddwn ni'n clywed gan gynrychiolwyr o lywodraeth leol yma yng Nghymru. Ac felly, dwi'n estyn croeso cynnes i'r tri sy'n ymuno â ni yn rhithwir, sef Chris Llewelyn, sy'n brif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Tim Peppin, sy'n gyfarwyddwr adfywio a datblygu cynaliadwy, eto gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Roger Waters, sy'n gadeirydd grŵp swyddogion awdurdod trafnidiaeth prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac, wrth gwrs, sy'n gyfarwyddwr gwasanaethau rheng-flaen gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Croeso i'r tri ohonoch chi. Mi awn ni'n syth i gwestiynau. Mae gennym ni rhyw awr a hanner ar gyfer y sesiwn yma, ac felly—. O, Chris, rydych chi wedi codi eich llaw—ydych chi eisiau dweud gair ar y dechrau?