Ie, dwi’n mynd i wneud rhywbeth tipyn bach yn ddadleuol, efallai, ond dwi’n meddwl ei bod hi'n bwysig codi’r pwynt yma. Dwi’n gwybod bod addysg uwch a hyfforddiant athrawon mewn addysg uwch wedi mynd drwy chwyldro yn lled ddiweddar, ond buaswn i'n licio gweld chwyldro arall lle rydyn ni'n edrych ar achredu cyrsiau hyfforddiant athrawon sydd yn darparu athrawon i fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg yn benodol, yn wahanol i sut ydyn ni'n hyfforddi athrawon yn gyffredinol. Ac mae yna resymau dros hynny. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae pob athro da yn mynd i fod yn athro sydd yn gwybod lot o bethau am wahanol agweddau o blentyndod, o ddatblygiad, o ddysgu, ac yn y blaen. Ond, beth rydyn ni'n gweld dro ar ôl tro ydy bod athrawon sydd yn dod i sefyllfa addysg cyfrwng Cymraeg, mae beth maen nhw wedi ei wneud, efallai, mewn un ysgol cyfrwng Cymraeg, efallai o fewn yr un sir, yn wahanol iawn mewn sefyllfa arall, ond efallai nad ydy'r athrawon yna wedi cael y cefndir a'r hyfforddiant i fedru ystyried, 'Ocê, beth ydw i'n cael gwneud? Beth ddylwn i wneud yn wahanol yn fan hyn?'
Dwi'n teimlo bod yna ryw ddisgwyl, dwi'n meddwl, gan bobl yn rhyngwladol, mewn sefyllfaoedd ieithoedd lleiafrifol eithaf llwyddiannus fel y Gymraeg, fod ein hathrawon ni yn cael rhyw fath o hyfforddiant arbenigol. Dyna ydy'r disgwyl. Mae pobl yn holi, 'Sut ydych chi'n hyfforddi eich athrawon i fod yn athrawon arbenigol sydd yn gwybod beth i'w wneud mewn cyd-destun lle maen nhw'n addysgu drwy gyfrwng sydd ddim yn iaith naturiol i nifer o'r plant? A'r ateb ydy, 'Wel, dydyn ni ddim.' Ac felly, dydy'r athrawon ddim yn gwario tair blynedd yn ystyried y materion hynny yn ddwys iawn, iawn, iawn, a hefyd wedyn efo'r holl wybodaeth gefndirol sydd yn bwydo i mewn i'r math o bethau sy'n angenrheidiol o fewn pethau fel WESPs ac yn y blaen, er mwyn i'r rheini gael eu gwireddu yn effeithiol. Felly, mi fuaswn i'n dadlau bod angen ailedrych ar sut ydyn ni'n hyfforddi athrawon i fod yn athrawon cyfrwng, a hefyd sut ydyn ni'n hyfforddi athrawon sydd yn siarad Cymraeg ac sydd yn medru datblygu elfen y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg hefyd. Dydw i ddim yn teimlo, yn bersonol, fod y cyrsiau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gwireddu hynny.
Ond, i fynd yn ôl at yr elfen yna o ddenu pobl i'r proffesiwn, drwy wneud rhywbeth felly, efallai fod yna fodd hefyd o farchnata'r ffaith bod athrawon cyfrwng yn athrawon arbenigol, ac efallai fod yr elfen arbenigol yna yn dod â mwy o fri a statws, efallai, i'r proffesiwn. Ond, yn sicr, dwi yn meddwl ei bod hi'n amser inni edrych eto ar sut ydyn ni'n achredu neu sut ydyn ni'n cynllunio'r cyrsiau yn ein prifysgolion ar gyfer hyfforddi athrawon.