Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 234
- Geiriau a lefarwyd
- 17,723
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i benodi Cadeirydd dros dro
Martha Da Gama Howells
Good morning. Unfortunately, Delyth is unable to chair today's meeting. In her absence, I'd like to propose a motion under Standing Order 17.22, to elect a temporary Chair for today, and that is Heledd Fychan. Are there any objections from Members? No. In which case, Heledd is duly elected as Chair of this meeting. Thank you.
Penodwyd Heledd Fychan yn Gadeirydd dros dro.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Diolch yn fawr iawn, a bore da i chi i gyd. Croeso i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn nhymor yr hydref. Yn ymuno â ni heddiw mae Sioned Williams, o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan ein bod ni'n gwneud gwaith ar y cyd o ran craffu ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg fel rhan o'n hymchwiliad. Felly, croeso mawr, Sioned, atom ni. Gaf i ofyn i Aelodau i ddechrau, a oes yna unrhyw fuddiannau i'w datgan heddiw? Na. Yn amlwg, os oes yna rywbeth yn codi, mi fedrwch chi wastad sôn am fuddiannau hefyd wrth i'r sesiwn fynd rhagddi.