Mi wnaf i jest ymhelaethu ychydig ar fy mhrofiadau blaenorol. Mi oedd fy swydd gyntaf i gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fel mae'n digwydd, felly mae hynny wedi rhoi dealltwriaeth gynnar i fi o faes polisi'r Gymraeg a sut mae pethau wedi datblygu dros y blynyddoedd.
O ran y sgiliau efallai mwyaf perthnasol i swydd Comisiynydd y Gymraeg, a'r swyddi a phrofiad blaenorol, hoffwn i gyfeirio at fy ngwaith gydag Urdd Gobaith Cymru. Fe ddechreuais i gyda'r Urdd yn codi aran a nawdd masnachol i weithgareddau'r Urdd, dim ond er mwyn cynyddu'r gweithgareddau rôn i'n gallu eu cynnig i blant a phobl ifanc. Yn dilyn hynny, ces i fy mhenodi yn brif weithredwr yr Urdd, flynyddoedd lawer yn ôl erbyn hyn, ac fe fues i'n brif weithredwr ar Urdd Gobaeith Cymru am tua 12 o flynyddoedd, os cofiaf i'n iawn.
Mi oedd y profiadau perthnasol i'r swydd yma yn cynnwys ymgysylltu gyda phobl ar draws Cymru, sylweddoli cymaint o waith gwirfoddol mae pobl wych yn ei wneud ar draws Cymru i ddatblygu gweithgareddau i blant a phobl ifanc, datblygu cynlluniau corfforaethol i'r corff, datblygu dulliau o ddenu arian a rheoli prosiectau yn llwyddiannus, sicrhau llywodraethiant effeithiol, edrych yn fanwl ar gyllidebau a sicrhau rheolaeth ariannol, blaenoriaethu drwy'r amser beth oedd yn bwysicaf i'r sefydliad, a jest sicrhau rheolaeth effeithiol o un o elusennau mwyaf Cymru.
O ran fy rôl gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, doedd y corff hwnnw ddim yn bodoli tan i fi gael fy mhenodi, felly dwi wedi sefydlu'r corff hwnnw a, dwi'n gobeithio y byddai pobl yn cytuno, wedi trawsnewid sefyllfa dysgu Cymraeg ar draws Cymru—nid fi yn unig, wrth gwrs, ond gyda fy nghydweithwyr a gyda'r darparwyr dysgu Cymraeg ymroddedig ar draws Cymru. Ac erbyn hyn, rŷn ni'n gallu dweud bod gyda ni un gwasanaeth cenedlaethol i ddysgwyr y Gymraeg. Mae datblygu cynllun strategol i'r corff hwnnw wedi bod yn flaenoriaeth i fi, ac mi oedd penderfyniadau cynnar iawn ym mywyd y ganolfan, er enghraifft blaenoriaethu buddsoddi mewn pethau digidol, a chreu gwasanaeth siop un stop i ddysgwyr ar blatfform digidol, wedi golygu, pan ddaeth amser COVID, ein bod ni wedi gallu nid yn unig parhau â'n gwasanaethau ond cynyddu y niferoedd yn dysgu Cymraeg.
Felly, o ran profiad blaenorol, mae gen i brofiad o arwain sefydliadau, o gymell cydweithwyr, o gydweithio'n hapus gyda chydweithwyr, profiad o gynnal ymgyrchoedd marchnata i ddenu pobl i ddysgu Cymraeg, i gymryd rhan mewn gweithgareddau, profiad o reoli digwyddiadau—Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, wrth gwrs, yn ddigwyddiad lle roedd angen tipyn o asesu risg ac yn y blaen. Felly, profiadau helaeth dwi'n gobeithio sy'n fy ngwneud i'n gymwys ar gyfer y swydd yma. Mae'r swydd yma, wrth gwrs, yn wahanol; siŵr o fod yn fwy gwleidyddol ei natur, er roedd angen i fi yn fy swyddi blaenorol hefyd gynnal perthynas dda gyda phob plaid, ac yn sicr gyda Gweinidogion er mwyn denu mwy o gyllid a buddsoddiad a sicrhau Gweinidogion bod y sefydliadau rôn i'n gyfrifol amdanyn nhw yn gwneud gwaith da, a'n bod ni'n cadw'n gair o ran delifro.