Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 258
- Geiriau a lefarwyd
- 24,921
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da a chroeso i chi i gyd i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i'r Aelodau. Rŷn ni wedi derbyn ymddiheuriad gan Jenny Rathbone, sydd ddim gyda ni bore yma, ond mi fydd Ken Skates yn dirprwyo ar ei rhan hi am ran o'r cyfarfod yn nes ymlaen. Mae hwn, wrth gwrs, fel arfer yn gyfarfod dwyieithog, ac mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae angen i fi atgoffa Aelodau hefyd bod dim angen i ni weithredu ein meicroffonau; mi fydd y technegwyr yn gwneud hynny ar ein rhan ni. A gaf i ofyn, felly, cyn cychwyn, a oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes; iawn. Diolch yn fawr iawn. Ac mi wnaf i hefyd egluro y bydd Delyth Jewell, a bod yna bod yna broblemau technegol yn golygu nad ydw i'n gallu aros yn rhan o'r cyfarfod, mae Delyth Jewell wedi cytuno i fod yn Gadeirydd dros dro petai angen hynny.
2. Papurau i'w nodi: nodi papurau o gyfarfod y Pwyllgor ar 22 Medi 20222 (6.1 to 6.11)
Iawn, yr ail eitem ar yr agenda, felly, yw i nodi papurau o gyfarfod 22 Medi. Mi wnes i fethu gwneud hynny yn y cyfarfod wythnos diwethaf, felly mae'n ofynnol i ni i wneud hynny, ac mi wnaf i eich cyfeirio chi at y papurau 6.1 i 6.11 o bapurau yr wythnos diwethaf, a gofyn os ydych chi'n hapus i nodi'r rheini. Ie, pawb yn hapus. Diolch yn fawr iawn.