The Presentation of a Motion of Condolence to His Majesty The King
- Dechrau
- 12:58
- Cyfraniadau
- 23
- Geiriau a lefarwyd
- 1,382
Agor y cyfarfod
Cludwyd y byrllysg seremonïol i’r Siambr.
Cyrhaeddodd y Parti Brenhinol y Siambr.
Gosodwyd y byrllysg seremonïol yn ei briod le.
Dechreuodd y trafodion am 12:58.
Eich Mawrhydi, Aelodau'r Senedd, westeion.
Ar ran y Senedd gyfan, hoffwn estyn croeso cynnes i’w Fawrhydi y Brenin a’i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog ar eich ymweliad cyntaf â’r Senedd ers marwolaeth trist y Frenhines. Estynnwn ein cydymdeimlad cynnes i chi a’ch teulu oll.
Croesawn Eich Mawrhydi i'n Senedd heddiw a chynigiwn ein cydymdeimlad diffuant ar farwolaeth drist eich mam, y Frenhines. Gwyddom fod cymaint o'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli wedi eu tristáu, hyd yn oed wedi'u siglo, gan y golled a’u bod yn eich cadw chi a’ch teulu yn eu calonnau a'u gweddïau ar hyn o bryd.
Wrth inni gwrdd yma heddiw i gyflwyno ein cynnig o gydymdeimlad, mae'n ingol inni feddwl mai dim ond 11 mis sydd ers ymweliad olaf y Frenhines â Chymru adeg agoriad swyddogol ein chweched Senedd. Roedd y Frenhines mewn hwyliau gwych y diwrnod hwnnw. Rhannodd nifer o Aelodau eu hanesion o'r ymweliad hwnnw pan wnaethom ni gwrdd i dalu teyrnged i'r Frenhines a thrafod ein cynnig o gydymdeimlad yn y Senedd ddydd Sul. Ac wrth iddi ein gadael y diwrnod hwnnw, 11 mis yn ôl, rwy'n gobeithio i’w Mawrhydi gofio gwên siriol Ffion Gwyther, y person olaf y cyfarfu â hi'r diwrnod hwnnw yng Nghymru, yr actor ifanc o Ffwrnais, Llanelli, a oedd yn wên o glust i glust wrth iddi gyflwyno tusw o flodau i'r Frenhines.
Roedd y straeon a'r teyrngedau a dalwyd gan yr Aelodau i’r Frenhines wrth inni ymgynnull ddydd Sul yn gynnes ac yn ffraeth. Fel y gallwch ddychmygu efallai, roedd yna lawer o sôn am gorgis—ei chymdeithion Cymreig cyson ar hyd ei hoes. 'Corgi', gair Cymraeg—yn llythrennol, 'ci bach'. Ac, wrth gwrs, roedd ein Haelodau sy'n cynrychioli sir Benfro yn arbennig o awyddus i hyrwyddo ei hoffter o gorgi sir Benfro. Ac roedd yr Aelod dros Geredigion—fi—yn dawel ac ychydig yn eiddigeddus o ddewis y Frenhines o gorgi sir Benfro yn hytrach na chorgi sir Aberteifi.
Mi oedd y Frenhines yn ein plith am bob un o chwe agoriad y Senedd hon, ac mi sylwodd bob tro ar dwf ein grymoedd a'n gweithredu ar ran pobl Cymru. Mi barchodd y Senedd yma fel mynegiant o ddymuniad democrataidd pobl Cymru.
Roedd y Frenhines gyda ni ym 1999 ar gyfer agoriad swyddogol ein Cynulliad newydd cyntaf. Rhannodd ein taith ddatganoli. Cymerodd ran ym mhob un o'n chwech agoriad swyddogol, gan gyfeirio bob tro at ddatblygiad ein pwerau a dod yn Senedd Cymru, yn senedd genedlaethol. Roedd y Frenhines yn parchu'r Senedd hon oherwydd ei bod yn parchu dewisiadau democrataidd pobl Cymru. Gwelodd ni'n dod i oed ac roedd ganddi ddiddordeb yn ein camau nesaf.
O Senedd gyntaf Glyndŵr yn y bymthegfed ganrif ym Machynlleth i'r un yr ydym wedi ymgasglu ynddi heddiw, mae ein stori’n hen ond mae ein democratiaeth yn ifanc ac yn uchelgeisiol. Fy ngobaith diffuant yw y bydd y berthynas fodern rhwng y wlad hon, y Senedd hon a'r teulu brenhinol wedi'i gwreiddio mewn parch a'i chynnal gan ddealltwriaeth.
Mae stori ein tir, ein cenedl, yn hir, ond mae stori ein Senedd yn newydd ac yn fodern. Mae'n llygaid at y dyfodol, a bydd ein cydweithio â chi, y Brenin, a'r teulu brenhinol, rwy'n mawr hyderu, yn adlewyrchu hynny.
Ac wrth inni gofio heddiw ymrwymiad parhaus y Frenhines i'n Senedd, edrychwn ymlaen hefyd at gysylltiad y Brenin â'r Senedd yn y dyfodol a'n gwaith ar ran pobl Cymru.
Nawr, rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i gyflwyno’r cynnig o gydymdeimlad i Ei Fawrhydi y Brenin.
Llywydd, Eich Mawrhydi. Yn gynharach yr wythnos hon, am y tro cyntaf yn ein hanes byr, fe wnaeth y Senedd gyfarfod ar ddydd Sul. Fe wnaethon ni hynny i gytuno ar y cynnig o gydymdeimlad rydym ni'n ei gyfleu y prynhawn yma. Fel Senedd ifanc, mae cymaint o'r hyn rydym ni'n ei wneud yn cael ei wneud am y tro cyntaf. Roedd nodi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn un o'r rhain. Roedd yn achlysur lle y clywon ystod eang o atgofion.
Myfyrdodau personol, Llywydd, fel y dywedasoch, gan ganolbwyntio'n aml ar ymweliadau niferus y Frenhines â'r Senedd a'i chyfarfyddiadau a sgyrsiau gydag Aelodau yma. Clywsom fyfyrdodau hanesyddol, gan ganolbwyntio ar y llu o newidiadau sydd wedi digwydd yng Nghymru dros y 70 mlynedd diwethaf. A myfyrdodau cyfansoddiadol hefyd, oedd yn pwysleisio'r ymrwymiad a ddangoswyd gan y Frenhines i'r sefydliad democrataidd hwn a'i lle yn y Deyrnas Unedig datganoledig.
Roedd llawer o gyfraniadau yn rhai trist; roedden nhw'n adlewyrchu ymdeimlad o alar, o golled ac o arwyddocâd cenedlaethol. Ond roedd llawer yn straeon personol, o fywyd oedd yn ymroddedig i wasanaeth ac i ddyletswydd, ond enghreifftiau hefyd oedd yn dangos diddordeb bywiog y Frenhines yn y bobl y gwnaeth hi eu cyfarfod a'r holl bethau hynny sydd, yn ein hachos ni, yn gwneud Cymru yr hyn ydyw yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn gwybod, gan i ni weld hyn yma yn y Siambr lai na blwyddyn yn ôl.
Erbyn heddiw, mae ymdeimlad o newid yng Nghymru. Bore yma, daethom at ein gilydd mewn gwasanaeth o fyfyrio yn eglwys gadeiriol Llandaf, i edrych yn ôl dros deyrnasiad heb ei ail o ran hyd a chyrhaeddiad. Yn ddiweddarach heddiw, bydd cyfle i bobl Cymru gwrdd â'r Brenin newydd yng nghastell Caerdydd am y tro cyntaf. Dechrau cyfnod newydd.
Nawr, rydym yn croesawu'r Brenin i'r Senedd, nid am y tro cyntaf, wrth gwrs, ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o ymweliadau tebyg yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i groesawu Tywysog Cymru yma ar gyfer ei ymweliad cyntaf. Ond heddiw, rydym yn cyflwyno'r cynnig o gydymdeimlad gan y Senedd i'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog. Rydym yn ei groesawu wrth iddo dderbyn y cynnig o gydymdeimlad a basiwyd gennym ddydd Sul fod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch mawr am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac yn cynnig ei chydymdeimlad diffuant i'w Fawrhydi y Brenin ac aelodau eraill o'r teulu brenhinol.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Llywydd, Brif Weinidog, Aelodau o'r Senedd, diolch o galon ichi am eich geiriau caredig.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Rwyf yn wirioneddol ddiolchgar am yr anerchiadau o gydymdeimlad sy’n talu teyrnged mor deimladwy i'n diweddar sofran, fy annwyl fam, y Frenhines.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Gwn y bydd Senedd a phobl Cymru yn rhannu fy nhristwch.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Yn ystod holl flynyddoedd ei theyrnasiad, ni allai Cymru fod wedi bod yn nes at galon fy mam.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Roedd lle arbennig i Gymru yn ei chalon.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Rwy'n gwybod ei bod wedi ymfalchïo'n fawr yn eich holl lwyddiannau—gan hefyd gydymdeimlo'n ddwys â chi mewn cyfnodau o dristwch. Rhaid mai'r fraint fwyaf yw perthyn i wlad a allai ysbrydoli'r fath ffyddlondeb. Rwyf yn benderfynol o anrhydeddu'r anhunanoldeb hwnnw, yn ysbryd y geiriau yr wyf bob amser wedi ceisio byw fy mywyd fy hun: Ich Dien, I Serve. Gwasanaethaf.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Braint oedd bod yn Dywysog Cymru mor hir. Yn awr, bydd fy mab William yn derbyn y teitl. Mae ganddo ef gariad dwfn at Gymru.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Rwy'n ymgymryd â'm dyletswyddau newydd gan werthfawrogi'n fawr y fraint o fod wedi gallu gwasanaethu fel Tywysog Cymru. Rwyf nawr yn trosglwyddo'r teitl hynafol hwnnw, sy'n dyddio o gyfnod rheolwyr mawr Cymru, fel Llywelyn ap Gruffudd, y mae'n briodol ei anrhydeddu o hyd, i'm mab William, y mae ei gariad at y gornel hon o’r ddaear gymaint yn fwy ers treulio blynyddoedd yma ei hun.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Boneddigion a boneddigesau, fel fy mam annwyl o'm blaen, rwy’n gwybod ein bod ni oll yn caru’r wlad arbennig hon.
Ei Fawrhydi y Brenin / His Majesty the King
Ar ôl ymweld â'r Senedd yn rheolaidd ers ei sefydlu, ac ar ôl clywed eich geiriau diffuant heddiw, gwn ein bod i gyd yn rhannu'r ymrwymiad dyfnaf i les pobl y wlad hon ac y byddwn i gyd yn parhau i gydweithio i'r perwyl hwnnw.
Diolch, Eich Mawrhydi, am eich geiriau i'r Senedd ac i Gymru. Byddwch chi a'ch teulu yn ein calonnau dros y dyddiau nesaf. Geiriau olaf y Frenhines i ni yn y Siambr hon oedd hefyd eich geiriau cyntaf i ni yn y Siambr hon heddiw. Ei geiriau hi, yn Gymraeg: 'Diolch o galon'. I'r Frenhines, felly, ein diolch o galon am wasanaeth oes.
Diolch o galon i'r Frenhines Elizabeth II am oes o wasanaeth a gyflawnwyd gydag urddas a pharch. Boed iddi heddwch yn awr yn ei gorffwys.
Daw hynny â'n trafodion i ben am heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 13:10.