Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:40
- Cyfraniadau
- 226
- Geiriau a lefarwyd
- 20,775
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:40.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, bawb. Croeso i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i'r cyfarfod. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal ar fformat hybrid, ond dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn ymuno â ni o bell heddiw, felly mi fyddwn ni i gyd yn bresennol yn yr ystafell. Ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog, wrth gwrs, yn aros yn eu lle.
Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu ar Senedd.tv ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion hefyd yn cael ei gyhoeddi, fel sydd arfer yn digwydd. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael. Os bydd larwm tân yn canu, yna mae'n ofynnol i Aelodau ac unrhyw dystion sydd o'n blaenau ni adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff. A gaf i hefyd ofyn i bawb sicrhau bod unrhyw ddyfeisiau wedi cael eu tawelu?
Rŷn ni wedi derbyn un ymddiheuriad gan Janet Finch-Saunders; dydy hi ddim yn hwylus, felly rŷn ni'n dymuno gwellhad iddi. Mae Delyth Jewell yn ymuno â ni ar gyfer prif ran y cyfarfod heddiw, sef craffu ar y Gweinidog, neu'r Gweinidogion, ar y gyllideb. A oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Na, dim byd; dyna ni.