Diolch am hynny. O ran atebolrwydd, fi sydd yma heddiw yn ateb y cwestiynau, ond gall dim un Gweinidog y Gymraeg lwyddo i wneud y lefel o gynnydd sydd angen heb fod gyda chi gydweithredu ar draws y Llywodraeth yn gyfan gwbl. Beth sydd wedi bod yn digwydd dros y misoedd diwethaf yw mae'r Cabinet nawr yn cael trafodaeth ar bolisi Cymraeg a sut mae hynny'n cael ei brif-ffrydio drwy feysydd polisi yn gyffredinol bob tymor, ac, yn sgil un o'r cyfarfodydd hynny, wedi bod yn cael cyfres llwyddiannus o gyfarfodydd gyda phob un Gweinidog arall yn edrych ar eu profiad nhw o'r Gymraeg eu hunain, gyda llaw, ond hefyd beth mwy gallwn ni ei wneud i gydweithio rhwng fy adran i a'u hadrannau nhw i brif-ffrydio'r Gymraeg, nid fel elfen o tick box pan fo cyngor yn dod i ddweud, 'Ydyn, rŷn ni wedi ystyried hyn', ond ein bod ni wir yn mynd i'r afael gyda'r impact ar y Gymraeg o benderfyniadau—rhai yn bositif, rhai yn negyddol—o bob penderfyniad polisi. Felly, mae'r drafodaeth honno yn digwydd; mae wedi bod yn digwydd ers sbel, ond rwy'n teimlo bod hynny'n digwydd efallai gyda mwy o ffocws nawr.
Os edrychwch chi ar draws y gyllideb yn gyffredinol, rŷch chi wedi cael tystiolaeth y bore yma wrth Weinidog yr Economi a'r Gweinidog diwylliant. Mae amryw o'r pethau maen nhw'n buddsoddi ynddyn nhw'n cael effaith ar y Gymraeg—y llyfrgell genedlaethol, y cyngor llyfrau, yn y maes iechyd, yn y maes newid hinsawdd—mae buddsoddiad ym mhob un o'r meysydd hynny yn cael effaith ar y Gymraeg.
Dau beth y byddwn i'n dweud os caf i, jest i roi nodyn o gyd-destun ichi, mae gyda chi ddewis, os hoffwch chi, neu ryw fath o densiwn, efallai, ar un lefel. Os ŷch chi'n sôn am ariannu'r Gymraeg yn benodol, fel rhaglen benodol i ariannu'r Gymraeg, mae ychydig o risg yn ddiwylliannol bod pobl wedyn yn meddwl, 'Wel, dyna'r bit sy'n delio â'r Gymraeg'. Felly, mae'n rhaid cadw cydbwysedd fanna. Mae'n rhaid gwneud y ddau.
Yr elfen arall, byddwn i'n dweud, yw wrth eich bod chi'n edrych ar y gyllideb, rŷn ni eisiau gweld beth yw impact y gyllideb ar y cyfan ar y Gymraeg. Bydd elfennau'n bositif a bydd rhai efallai ddim mor bositif; mae hynny'n naturiol. Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i wella dealltwriaeth o'r impact ar y Gymraeg o fewn meysydd polisi a phan fydd hynny wedi symud ymlaen, rwyf i'n credu y bydd darlun cliriach gyda ni ar draws y gyllideb i gyd o'r net effect, os hoffwch chi.