Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 211
- Geiriau a lefarwyd
- 11,441
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas ac mae Jenny Rathbone yn ymuno â ni ar ei rhan. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld unrhyw rai.
2. Cyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru
Felly, fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 2. Dŷn ni'n cymryd sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru ynglŷn â'r honiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru.