Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:32
- Cyfraniadau
- 191
- Geiriau a lefarwyd
- 18,403
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:32.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau
Bore da i bawb, a chroeso i gyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i'r cyfarfod. Mae'r cyfarfod hwn wrth gwrs yn digwydd ar fformat hybrid, ac ar wahân i addasiadau'n ymwneud â chynnal ein trafodion ar ffurf hybrid, mae'r holl ofynion o ran y Rheolau Sefydlog yn parhau. Mi fydd eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma, wrth gwrs, yn cael eu darlledu ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae hwn yn gyfarfod dwyieithog, ac felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. A chyn cychwyn felly, gaf i ofyn a oes gan unrhyw un fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Dyna ni. Iawn. Diolch yn fawr iawn.
2. Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 1
Mi awn ni ymlaen, felly, at brif ffocws y cyfarfod heddiw. Fel y bydd Aelodau'n ei wybod, rŷn ni'n dechrau ar waith craffu Cyfnod 1 ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gafodd ei gyflwyno i'r Senedd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 20 Mawrth. Ac er mwyn helpu i lywio'r gwaith craffu rŷn ni am ei wneud fel pwyllgor, rŷn ni wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ysgrifenedig, ac os oes yna bobl yn gwylio'r cyfarfod yma y bore yma, fe fyddan nhw, dwi'n siŵr, am wybod bod yna gyfle i gyfrannu i hwnnw. Mae'r manylion ar gael ar wefan y Senedd, a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yw 28 Ebrill. Mi fydd hynny wedyn yn sylfaen i ni ar gyfer craffu ar y Bil, yn parhau i mewn i dymor yr haf, pan fyddwn ni'n cynnal cyfres o sesiynau tystiolaeth â gwahanol randdeiliaid.