Diolch, Heledd. Wel, mae gyda ni memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon. Mae hwnnw gyda ni ers 2019, ond rŷn ni wedi ail-fframio fe yn 2021 i gyd-blethu gyda chynllun gweithredu ar y cyd Iwerddon a Chymru. Mae ein gwaith ni yn canolbwyntio tipyn ar rannu profiad. Buaswn i'n dweud, fel amgueddfa genedlaethol, y berthynas gydag Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yw’r un agosaf sydd gyda ni. O ran ein memorandwm ni, rŷn ni'n canolbwyntio ar bum piler. So, mae gyda ni ddatblygiad strategol, sy'n canolbwyntio ar fentora a dysgu o’n gilydd o gwmpas meysydd megis cynaladwyedd. Mae gyda ni hefyd gynhadledd rŷn ni'n ei chynnal ar y cyd gydag Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Llydaw a gwledydd Lladin America, sy'n edrych ar ymgysylltu diwylliannol, hawliau diwylliant, a'r syniad sydd gyda ni o ran democratiaeth ddiwylliannol. Digwyddodd hwnna llynedd yng Nghaernarfon, felly mae hwnna'n gyfle da i rannu profiad. Rŷn ni hefyd yn cydweithio ar ddad-drefedigaethu; mae hwn yn faes mawr ym myd amgueddfeydd ar hyn o bryd, ac mae yna ddiddordeb mawr gan Iwerddon yn y ffordd rŷn ni yng Nghymru wedi mynd ati i ailddehongli'r casgliad a gwneud hynny ar y cyd gyda chymunedau.
Hefyd hinsawdd a bioamrywiaeth; mae gan y ddwy amgueddfa genedlaethol gasgliad mawr o ran hanes naturiol. Mae yna guraduron yn mynd mas wythnos nesaf, a dweud y gwir, i rannu profiadau o ran datblygu rhai o'r orielau newydd sy'n digwydd yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon.
Rŷn ni hefyd yn rhannu profiad o ran symud casgliadau; rŷn ni'n credu'n gryf mewn datganoli casgliadau fel eu bod nhw mewn cymunedau. Ond, hefyd, fel Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, mae gyda ni amgueddfeydd cenedlaethol dinesig, fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan, a hefyd amgueddfeydd sydd yn fwy gwledig, fel amgueddfa Drefach i ni. Mae'r patrwm yna'n debyg iawn i amgueddfeydd cenedlaethol yn Iwerddon. Felly, mae yna dipyn o rannu profiadau'n digwydd yn fanna.
Rŷn ni hefyd wedi bod yn edrych ar gydweithio ar gyfer y dyfodol, a dwi'n meddwl bod yna ddau faes penodol yn fan hyn. Mae Mali wedi sôn eisoes am y Gymraeg a'r Wyddeleg, a dwi'n meddwl bod y cydweithio, yn enwedig o dan ymbarél UNESCO nawr, gyda deng mlynedd o ieithoedd lleiafrifol, mae hwnna'n gyfle i ni i gydweithio. Mae yna ddiddordeb gan Iwerddon yn y ffordd rŷn ni wedi defnyddio'r Gymraeg i ddehongli'r ffordd rŷn ni'n dehongli trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hytrach na chyfieithu, ac, wrth gwrs, y ffaith ein bod ni nawr yn defnyddio'n marc ni, Amgueddfa Cymru, yn y Gymraeg.
A hefyd, o ran ni'n dysgu gan Iwerddon, dwi'n meddwl bod yna gyfle i wneud hynny o ran y ffordd maen nhw wedi gwneud twristiaeth ddiwylliannol a'r ffordd maen nhw'n estyn allan i'r Gwyddelod ar wasgar. Wrth i ni ddatblygu nawr ein polisi rhyngwladol ni, Amgueddfa Cymru, byddwn ni'n dysgu tipyn gan eu profiadau nhw o ran eu gwaith rhyngwladol nhw.