Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 3
- Geiriau a lefarwyd
- 170
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes unrhyw fuddiannau i'w datgan gan unrhyw Aelodau? Dwi ddim yn gweld.
2. Papurau i'w nodi
Felly, fe wnawn ni symud ymlaen at eitem 2, papurau i'w nodi. Mae gyda ni bedwar papur i'w nodi: 2.1 yn eich pecynnau, cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru y mae hyn ynglŷn â fe; a wedyn 2.2, ynglŷn â diogelu'r casgliadau cenedlaethol; 2.3 am gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon; a 2.4, am gydsyniad deddfwriaethol y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2). Ydy'r Aelodau'n fodlon i ni nodi'r papurau hynny? Iawn, ocê.