Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 5
- Geiriau a lefarwyd
- 193
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Nac oes.
2. Papurau i'w nodi
Gwnawn ni symud yn syth ymlaen at y papurau i'w nodi. Mae gennym ni'r papurau yn ein pecynnau o 2.1 i 2.9. A ydy'r Aelodau yn fodlon i ni nodi'r papurau hynny? Mae yna un papur gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am y sensws. Maen nhw'n cynnig i ni gael briefing yn San Steffan, ond maen nhw hefyd yn cynnig eu bod nhw'n gallu rhoi briefings pellach. Efallai byddem ni'n gallu ysgrifennu atyn nhw i ofyn am hwnna.