Dwi'n falch iawn eich bod chi'n codi'r cwestiwn, ond dwi ddim yn hapus gyda'r atebion sydd gyda fi i roi i chi. Fe gofiwch chi, efallai, fod swyddfa'r comisiynydd wedi dioddef ymosodiad seiber rai blynyddoedd yn ôl. Felly, mae buddsoddi mewn diogelwch seiber, ar hyn o bryd, yn flaenoriaeth i ni, ac rŷn ni wedi derbyn achrediad Cyber Essentials Plus, ac yn gweithio tuag at IASME Governance ar hyn o bryd. Ac mae'r sefydliad yn rhoi pwyslais cywir, dwi'n credu, ar sicrhau na fydd unrhyw beth tebyg yn digwydd eto, oherwydd pan fydd rhywbeth fel yna'n digwydd, dwi'n credu ei fod e'n cael impact am rai blynyddoedd, mewn gwirionedd, ar waith sefydliad.
Cyn yr ymosodiad seiber, mi oedd gan y sefydliad system weddol syml, dwi'n credu, i ddelio gydag achosion a project management, customer relationship management, achosion o gŵyn ac ymchwilio. Felly, yn dilyn yr ymosodiad, gwnaed lot o waith sgopio. Cafwyd lot o gyngor o lot o lefydd. Trafodwyd nifer o opsiynau gwahanol, ac fe gomisiynwyd, am y swm rŷch chi'n sôn amdano, waith meddalwedd, wedi'i seilio ar system Dynamics. Mi oedd y system yma i fod, yn wreiddiol, i'w gyflwyno i ni ym mis Hydref 2022 i'w brofi. Cafodd hynny ei fwrw ymlaen i Chwefror 2023, ac mae'n flin gyda fi i rannu gyda chi ein bod ni'n dal mewn sefyllfa lle dŷn ni ddim yn gallu defnyddio'r system ar hyn o bryd. Mae yna waith mireinio pellach i'w wneud. Rŷn ni yn y broses, ar hyn o bryd, o gael cyngor arbenigol pellach i'n cynghori ni ar yr hyn sydd angen digwydd nesaf. Mae yna elfennau o'r system rŷn ni'n gallu eu defnyddio, ond dyw'r system yn ei chyfanrwydd ddim yn barod eto i ni ei defnyddio.
Y bwriad yw—ac mae angen y system—. Ar hyn o bryd, mae'n swyddogion ni'n defnyddio system manual o gofnodi achosion, tracio achosion. Mae'n gweithio—mae'r system yn gweithio. Y bwriad yw, pan fydd hwn yn ei le—felly, rŷn ni'n gobeithio y bydd e, dros y cyfnod nesaf, yn datblygu ymhellach ac yn gallu cael ei roi mewn lle—y bydd hynny'n rhyddhau adnoddau staff i wneud gwaith mwy diddorol.
Rŷn ni wedi cael ein cynghori gan Lywodraeth Cymru yn y mater yma ac rŷn ni'n ddiolchgar iawn, iawn iddyn nhw am eu cyngor. Felly, mae e'n fater lle nad yw'r gwaith sydd wedi'n cyrraedd ni ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio. Felly, rŷn ni mewn cyfnod, ychydig bach, o orfod gwneud gwaith datblygu pellach, a dŷn ni ddim yn gwybod yn union beth yw hyd a lled y gwaith datblygu pellach ar hyn o bryd.