Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 287
- Geiriau a lefarwyd
- 19,904
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, bawb, a chroeso i gyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yma yn Senedd Cymru. Gaf i groesawu Aelodau i'r cyfarfod? Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal ar fformat hybrid. Ar wahân i addasiadau sy'n ymwneud â chynnal y trafodion ar ffurf hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn parhau. Mi fydd eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma, wrth gwrs, yn cael eu darlledu yn fyw ar Senedd.tv ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi fel sydd yn digwydd fel arfer. Mae'r cyfarfod yn un dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Felly, cyn cychwyn, a gaf i ofyn a oes gan unrhyw un fuddiannau i'w datgan? Dim byd; dyna ni, diolch yn fawr iawn ichi.
2. Bil Seilwaith (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Iawn, ymlaen â ni at brif ffocws y cyfarfod, felly, oherwydd heddiw byddwn ni'n cynnal ein hail sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y Bil Seilwaith (Cymru), a fydd, wrth gwrs, hefyd yn dod â'n gwaith craffu Cyfnod 1 ni i ben. Yn unol â'r dyddiad cau a bennwyd gan y Pwyllgor Busnes, mi fyddwn ni'n gosod ein hadroddiad erbyn dydd Gwener 24 Tachwedd fan bellaf. Mae hon yn sesiwn ddwy awr; mi fyddwn ni'n cael toriad yn y canol, yn rhywle, efallai o gwmpas tua 10:30.