Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 11:30
- Cyfraniadau
- 143
- Geiriau a lefarwyd
- 8,272
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 11:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Croeso i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mi wnaf i ofyn yn gyntaf a oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan y bore yma.
2. Llinell Gwasanaeth Cymraeg y DU gan HSBC: sesiwn dystiolaeth gyda HSBC UK
Dwi ddim yn gweld bod yna, felly, fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at ein sesiwn dystiolaeth gydag HSBC UK am eu penderfyniad i ddod i ben â'r llinell gwasanaeth Cymraeg. Fe wnaf i ofyn i Jose Carvalho i gyflwyno'i hunan ar gyfer y record.