Iechyd y cyhoedd
Atal afiechyd: ysmygu, fepio a gordewdra, alcohol a chyffuriau, brechu a chlefydau heintus, a'r bwlch iechyd rhwng ardaloedd cyfoethocach a thlotach.
Yn y Rhaglen Lywodraethu, mae hwn yn perthyn i'r amcan llesiant Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros.
- Datganiadau a dadleuon
- 0
- Cyfraniadau
- 0
- Cwestiynau ysgrifenedig
- 0
Ar y dudalen hon
Yr hyn mae'r llywodraeth wedi'i addo
Mae'r Rhaglen Lywodraethu 2026 i 2030 yn perthyn i'r Seithfed Senedd. Dewiswch y Seithfed Senedd i weld pa mor aml mae pob ymrwymiad wedi codi.
Atal afiechyd
Gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, ar lefel poblogaeth, drwy ddatblygu Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd a chynhwysfawr i Gymru, yn seiliedig ar adolygiad o’r bôn i’r brig o anghenion iechyd y cyhoedd heddiw ac yn y dyfodol.
Ymgorffori atal afiechyd yn yr holl waith datblygu polisi ar draws y llywodraeth gan sicrhau bod camau gweithredu’r llywodraeth ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a llesiant yn cydweddu’n strategol.