15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Strategaeth tlodi gwledig i Gymru
Gyd-Aelodau, un peth sydd wedi dod yn gwbl glir yn fy ymchwil yw'r ffaith nad yw'r prosesau llunio polisïau presennol yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i anghenion gwahanol a phenodol ein cymunedau gwledig. Nawr, yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae gan…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Strategaeth tlodi gwledig i Gymru
Dyna yw'r patrwm rŷn ni gyd sydd yn byw yn yr ardaloedd yma yn gyfarwydd ag ef. Ac er mor ddifrifol yw'r sefyllfa, bob tro dwi wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y Siambr hon i ddatblygu strategaeth wedi'i theilwra'n benodol i ddelio gyda thlodi gwledig—a dwi…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Strategaeth tlodi gwledig i Gymru
'Mae'r Gymru wledig mewn trafferthion. Mewn mwy o drafferth nag ers cyn cof, ac yn sgil grymoedd a thueddiadau sy'n annhebygol o ddiflannu'n fuan. Mae camweithrediad economaidd yn hen stori yma wrth gwrs. Mae'r problemau cymdeithasol sy'n deillio o gyflogau…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Strategaeth tlodi gwledig i Gymru
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gyda fi gynnig y ddadl hon ar ddatblygu strategaeth tlodi gwledig i Gymru, a dwi'n hapus iawn i roi munud yr un i Siân Gwenllian, i Sam Kurtz ac i Mabon ap Gwynfor. Dwi'n credu mai'r lle amlwg i ddechrau yw…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Practisau meddygon teulu a chyllido
Wrth gwrs, nid dim ond ein cymunedau gwledig sy'n heneiddio, chwaith. Mae nifer cynyddol o'n meddygon teulu hefyd yn heneiddio ac yn ymddeol. Fel rŷn ni wedi gweld yn ddiweddar iawn yn Nhalacharn yn sir Gâr ac ar hyn o bryd yn Nhyddewi yn sir Benfro, mae…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Practisau meddygon teulu a chyllido
O ganlyniad i'r boblogaeth hon sy'n heneiddio, rydym bellach yn wynebu problem real iawn sy'n gwaethygu'n gyflym. Ar y naill law, mae'n debyg na fu anghenion gofal iechyd ein cymunedau gwledig erioed yn fwy. Fodd bynnag, fel y clywsom eisoes y prynhawn yma…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Practisau meddygon teulu a chyllido
Fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod yn iawn, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r her o gadw meddygfeydd gwledig ar agor yn dwysáu. Y newid yn ffabric cymdeithasol ein cymunedau gwledig yw un o'r ffactorau sydd yn bennaf cyfrifol am y straen ar…
8 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddiddorol eich bod chi'n sôn am adeiladu tai, achos dwi'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol iawn fod nifer o ddatblygiadau tai yn nalgylchoedd afonydd megis Cleddau, Wysg, Teifi a Thywi wedi eu rhoi ar stop o ganlyniad i'r rheoliadau…
8 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am adeiladu tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61051
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Fel rydyn ni wedi clywed nifer o weithiau yn y Siambr yn barod heddiw, mae yna brinder deintyddion, prinder deintyddion sy'n siarad Cymraeg, yn ein canolbarth ni'n dau ac yn ehangach hefyd. Dwi'n falch o glywed bod gosod cyfundrefn…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
4. Pa waith cynllunio gweithlu, hyfforddiant, a datblygu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar gyfer deintyddiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61018
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rŷn ni'n gwybod bod y cyfnod diweddar yma wedi bod yn anodd i fusnesau cefn gwlad, yn arbennig ein tafarnau ni. Maen nhw wedi gweld cost trethi busnes yn codi, cost ynni, bwyd, diod ac yn y blaen, a dyw'r cwsmeriaid ddim wedi dod nôl fel oedden nhw cyn y…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rŷn ni wedi clywed y Llywodraeth yn sôn nifer fawr o weithiau fod cael pobl allan o’u ceir yn flaenoriaeth allweddol, ac mae hynny wrth gwrs er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a hefyd cyrraedd net sero. Gobeithio y gallaf i gymryd yn…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60982
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Diolch yn fawr iawn. Diolch James, am roi munud i mi, er y dylwn fod eisiau 10 o bosibl, ond rwy'n mynd i gadw at yr amser. Nid oes gan Blaid Cymru unrhyw wrthwynebiad i brosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni ofyn cwestiynau am…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu'r cyfle yn y cwestiwn cyntaf i chi fel Prif Weinidog i ofyn beth yn union mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i daclo tlodi gwledig. Rŷn gwybod bod yna bremiwm yn cael ei dalu gan bobl sydd yn byw mewn ardaloedd…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn brwydro yn erbyn tlodi cefn gwlad yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60934
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Rhun ap Iorwerth.
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyllideb Llywodraeth y DU
Rwyf wedi clywed pob un ohonoch yn rhestru'r holl brosiectau gwych hyn, ond mae dadansoddiad arbenigol yn dangos bod £46 biliwn o ymrwymiadau heb eu hariannu yn y gyllideb ddiwethaf, sydd hyd yn oed yn uwch na chyllideb hunanddinistriol Liz Truss a Kwasi…
12 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Brif Weinidog. Efallai eich bod chi'n cofio mai'r cwestiwn cyntaf ofynnais i chi yn y Siambr hon, yn ôl yn 2021, oedd: a oes angen creu strategaeth adfywio gwledig a hefyd strategaeth i fynd i'r afael â'r problemau unigryw sy'n wynebu cefn gwlad…
12 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60821
6 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Diolch o galon i chi am eich gwasanaeth cwbl arbennig, yr RNLI.
6 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Mae'r wythnos hon yn nodi dau ganmlwyddiant sefydlu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, yr RNLI. Ers 1824, mae gwirfoddolwyr yr RNLI wedi achub bywydau bron i 13,000 o bobl yng Nghymru, a bron i 150,000 o bobl ledled Prydain ac Iwerddon. Mae fy…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: TB buchol
Mae effaith iechyd meddwl ein dull o reoli TB yn agwedd bryderus iawn ar yr argyfwng ehangach sy'n wynebu ffermwyr ar hyn o bryd. Nid busnes yn unig yw fferm—mae ffermio'n ffordd o fyw, ac mae'r bygythiad o golli popeth y maent wedi gweithio mor galed i'w…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: TB buchol
Dwi eisiau canolbwyntio ar ddwy agwedd yn benodol prynhawn yma, sef y polisi o ddifa gwartheg ar glos y ffarm ac effaith TB ar iechyd meddwl ffermwyr. Ond cyn hynny, hoffwn i ategu un peth cwbl sylfaenol ddywedodd Llyr yn ei araith agoriadol. Mae tystiolaeth…