A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn pwerus hwnnw ar fater pwysig iawn y credaf ei fod yn effeithio ar bob un ohonom yn y lle hwn? Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud bod 'geiriau'n bwysig', ac rwy'n credu ein bod wedi dweud hynny'n aml mewn dadleuon yma, fod yr hyn a ddywedwn yma'n cael effaith y tu allan i'r Siambr hon a'i fod yn gallu effeithio ar lesiant personol unigolyn, ond mae hefyd yn effeithio ac yn annog gweithredoedd mewn mannau eraill hefyd. Ac rydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym fel Llywodraeth. Y bore yma, cyfarfûm â Chanolfan Cymorth Casineb Cymru ynghylch y gwaith y maent yn ei wneud ar fod yn wylwyr gweithredol a gweithio gyda'r llwyfannau ar-lein hynny i weld sut y gallant wella'r modd o herio a lleihau rhywfaint o'r gamdriniaeth a rhai o'r ymddygiadau yno. Ac un peth a ddywedant yw ei fod yn dechrau gyda bod yn wyliwr gweithredol, fel y dywedoch chi hefyd, ac mae'n dechrau gyda ni a'r hyn a wnawn a'r hyn a ddywedwn.
Rwyf wedi siarad yn y Siambr o'r blaen, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i wneud, i ddweud bod gwahaniaeth rhwng craffu a herio ac anghytuno a dadlau, ond mae yna newid yn y cydbwysedd pan fydd rhywbeth diniwed yn troi'n rhywbeth ychydig yn fwy sinistr. Ac rwyf wedi siarad yma ynglŷn â sut y cefais fy ngham-drin am fod yn fi fy hun, yn Aelod hoyw agored o'r Senedd, ond hefyd am wneud fy ngwaith hefyd ar y 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru'. Cawsom ddadl, rwy'n credu, pan etholwyd Adam Price, Jeremy Miles a minnau gyntaf i nodi Mis Hanes LHDT, fel yr Aelodau hoyw agored cyntaf yn y lle hwn, ac rwy'n cofio rhai o'r sylwadau ar-lein. A dywedodd rhywun, 'O, pwy sy'n poeni gyda phwy mae hi'n cysgu?' a phethau felly. Wel, mae fy ngwraig yn poeni, ond nid dyna'r pwynt. [Chwerthin.]
Ond o ddifrif, pan lansiwyd y cynllun gweithredu LHDTC+ gennym, fe sbardunodd hynny lwyth o gamdriniaeth ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol, a hefyd at fater a gyfeiriwyd at yr heddlu fel trosedd casineb yn y pen draw. Ac roedd yr unigolyn wedi anfon e-bost nid yn unig ataf i, yn dweud wrthyf fod angen imi gael therapi trosi, ond hefyd at fy ngwraig, a chyd-Aelodau eraill, ac mewn gwirionedd fe ddarganfûm yn ddiweddarach eu bod wedi cysylltu â fy nhad hefyd.
Rwyf wedi'i weld yn fwy diweddar hefyd, yn sgil ymyrraeth ynglŷn â—rwy'n credu fy mod wedi siarad â Sioned am y peth yn gynharach—mai'r broblem gyda'r gwasanaeth tân yw ein bod yn gadael i fenywod ymuno, a bod pobl 'woke' yn tra-arglwyddiaethu. Cafwyd gohebiaeth hyd yn oed i gyd-Aelod gwrywaidd i mi gan gynrychiolydd sefydliad na wnaf ei enwi am na fyddai hynny'n deg yn y lle hwn, a oedd yn dweud wrthynt am gadw'r pwysau arnaf, ac i bob pwrpas yn dweud wrthynt am fy rhoi yn fy lle. Felly, rwy'n credu bod angen inni ddweud heddiw fy mod yn credu nad ar y chwiorydd y mae angen cadw trefn ond ar gymdeithas a'r system. Ac mae'n cysylltu â'r hyn a ddywedoch chi ar y dechrau, Huw, sef bod yr hyn a ddywedwn yn bwysig a bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i godi llais a gwneud rhywbeth.
Ddirprwy Lywydd, os caf, rwyf am droi at bethau mwy cadarnhaol, oherwydd mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener, ac mae'n ymwneud ag ysbrydoli cynhwysiant, a'r hyn a ddywedwch mewn gwirionedd, sef ein bod ni'n anelu at fod yn gynhwysol yn y lle hwn a gallwn adeiladu ar hynny drwy ddiwygio'r Senedd. Ac un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni'n siarad am y pethau negyddol a'r cam-drin a wynebwn, ond mewn gwirionedd mae'n dal i fod yn fraint enfawr i fod yma, ac rwy'n credu y dylai menywod eraill, menywod ifanc allan yno, goleddu'r uchelgais i fod yn rhan o'r Senedd hon hefyd.